Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod y radd MPhil yw bod y myfyriwr yn ennill gwybodaeth arbenigol sylweddol am ddisgyblaeth a/neu gyfnod hanesyddol penodol, yn sylfaen ar gyfer ymchwil manylach. Bydd y myfyriwr wedi datblygu sgiliau ymchwil annibynnol sy’n briodol i swydd academaidd neu yrfa mewn ymchwil uwch a bydd wedi ysgrifennu traethawd sylweddol, y gellir ei ymestyn wedyn yn draethawd ymchwil ar lefel doethuriaeth.
Nod y radd PhD yw helpu’r myfyriwr gwblhau darn mawr o ymchwil mewn Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefyddol, a dangos cyraeddiadau academaidd priodol ar gyfer eu penodi i swydd addysgu neu ymchwil mewn Prifysgol. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd gennych wybodaeth gyffredinol dda o'r maes dysgu penodol y mae pwnc y traethawd ymchwil yn rhan ohono a byddwch wedi gwneud cyfraniad sylweddol, gwreiddiol a sylweddol at ymchwil.
Ar gyfer y ddwy raglen radd, byddwch yn derbyn hyfforddiant ymchwil a sgiliau trosglwyddadwy gan Raglen Hyfforddi Graddedigion y Brifysgol. (Ddim yn berthnasol os ydych chi'n dilyn y rhaglenni hyn trwy ddysgu o bell).
Bydd goruchwylydd i bob myfyriwr a'i ddyletswydd ef neu hi yw rhoi cyngor ynghylch dewis pynciau ac ynglŷn ag unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r gwaith academaidd. Mae addysgu’n digwydd trwy gyfrwng tiwtora unigol, yn ôl yr amgylchiadau ac yn ôl disgresiwn y goruchwylydd. Mae’r trefniadau’n wahanol i bob achos unigol. Gellir rhoi cyngor trwy e-bost neu dros y ffôn ond mae angen i chi gwrdd â’ch goruchwylydd yn rheolaidd i drafod eich cynnydd.
I wneud cais, anfonwch gynnig ymchwil o fwy na 500 gair, ynghyd â llyfryddiaeth arfaethedig a datganiad personol yn amlinellu eich profiad perthnasol (hyfforddiant ac ymchwil) yn eich maes o ddewis. Gallwch gysylltu ag aelod o staff yn y maes ymchwil rydych gyda diddordeb mewn. Gwelwch restr o ddiddordebau ymchwil staff academaidd ar ein Porth Ymchwil.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser, 5 mlynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 4 blynedd yn rhan-amser; Cewch ddilyn y cwrs trwy Ddysgu o Bell.
Gofynion Mynediad
I gael eich derbyn ar radd MPhil bydd angen gradd 2.i neu uwch mewn Athroniaeth a/neu Grefydd neu bwnc cysylltiedig. I gael eu derbyn ar gyfer gradd PhD bydd y myfyrwyr naill ai wedi ennill gradd Meistr mewn Athroniaeth a/neu Grefydd neu mewn pwnc cysylltiedig neu â gradd israddedig eithriadol ac yn dangos y gallu i gwblhau project ymchwil annibynnol a gwreiddiol.
Sgôr IELTS o 7.0 (heb yr un elfen o dan 6.5), neu gyfwerth, os nad Saesneg na Chymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Gradd ymchwil yw hon, sy'n eich paratoi at yrfa academaidd mewn crefydd neu athroniaeth neu at waith arall sy'n gofyn am unigolion cymwys iawn mewn meysydd cysylltiedig. Bydd y sgiliau dadansoddi ac ymchwilio manwl a gewch chi yn ystod y radd hon yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy mewn meysydd fel cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi ac ymchwil.