Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein graddau Meistr trwy Ymchwil yn cynnwys cynllun astudio ac ymchwil, a ddiffinnir ymlaen llaw (fel arfer gan y myfyriwr), ac a fydd fel arfer yn (a) werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth, a/neu (b) yn gyfraniad gwreiddiol at y maes. Ar gyfer MA trwy Ymchwil, gall y maes ymchwilio fod yn hanesyddol, yn ddadansoddol, yn athronyddol, yn feirniadol neu'n empirig ei natur.
Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwylio, sy'n cynnwys prif oruchwylydd, tiwtor personol, ac aelod arall o'r staff sydd ag arbenigedd perthnasol. Mae'r myfyrwyr ymchwil yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'u goruchwylydd ac mae hawl ganddynt i ymgynghori ag aelodau eraill o'u pwyllgor fel bo'n briodol. Cânt eu hannog hefyd i gyflwyno adroddiadau ynghylch eu gwaith mewn seminarau a cholocwia yn ystod pob un o'u cyfnodau astudio
Yn draddodiadol mae cyflwyniad ar gyfer MA trwy Ymchwil ar ffurf traethawd ymchwil, heb fod yn fwy na 50,000 o eiriau o hyd. Os yw'r cyflwyniad yn cynnwys deunyddiau nad ydynt yn destunol (fel argraffiad beirniadol), fel arfer bydd nifer y geiriau'n llai.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gennym brofiad hir o sefydlu cysylltiadau cydweithredol, a rheiny'n aml wedi'u cyfuno â chyllid. Mae projectau Gradd Meistr trwy Ymchwil diweddar wedi'u cynnal ar y cyd â sefydliadau fel Venue Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf o Brydain o safon Baglor (neu gyfwerth), a honno'n radd dosbarth cyntaf fel rheol. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynnig ar gyfer eu project ymchwil (gan gynnwys cwestiynau ymchwil, methodoleg, ac adolygiad llenyddiaeth). Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno samplau o'u gwaith ysgrifenedig. Gofynnir hefyd i ymgeiswyr yr MMus trwy Ymchwil gyflwyno enghreifftiau o'u gweithgareddau perthnasol diweddar fel perfformwyr neu gyfansoddwyr (i berfformwyr, gallai hynny fod ar ffurf perfformiad fideo heb ei olygu yn ddiweddar sy'n para tua 30 munud). Rhaid i ymgeiswyr nad yw'r Gymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.5 (heb yr un elfen yn is na 6.0).
Derbynnir ymgeiswyr yn ôl cryfder eu perfformiad academaidd ar lefel Baglor, ac yn ôl gwreiddioldeb a dichonoldeb eu cynnig ymchwil.
Gyrfaoedd
Yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn meistroli'r maes a byddant yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol at y maes pwnc. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud ymchwil ôl-radd PhD. Mae natur annibynnol, hunan-ysgogol a hunangyfeiriedig y broses ddysgu'n cymhwyso'r graddedigion at swyddi rheoli, rolau ymchwil proffesiynol, galwedigaethau creadigol ar lefel uchel, a gyrfaoedd academaidd.