Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein gradd PhD yn cynnwys cynllun ymchwil gwreiddiol, a ddiffinnir ymlaen llaw (fel arfer gan y myfyriwr), a allai wneud cyfraniad newydd a sylweddol at wybodaeth a dealltwriaeth gerddorol. Gall yr ymchwil fod yn hanesyddol, yn ddadansoddol, yn athronyddol, yn feirniadol, yn empirig neu'n greadigol ei natur, a gall gynnwys gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymarfer (cyfansoddi a/neu berfformio fel arfer) fel elfen fawr neu fân o'r broses ymchwil a'r cyflwyno.
Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwylio, sy'n cynnwys prif oruchwylydd, tiwtor personol, ac aelod arall o'r staff sydd ag arbenigedd perthnasol. Mae myfyrwyr ymchwil yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'u goruchwylydd ac mae hawl ganddynt i ymgynghori ag aelodau eraill o'u pwyllgor fel bo'n briodol. Cânt eu hannog hefyd i gyflwyno adroddiadau ynghylch eu gwaith mewn seminarau a cholocwia yn ystod pob un o'u cyfnodau astudio.
Mae projectau llwyddiannus diweddar wedi cynnwys astudiaeth empirig o gorau merched yn eglwysi cadeiriol Prydain, astudiaeth semiotig o ddull cyfansoddi Steve Reich yn ei ddarnau 'Counterpoint', argraffiad beirniadol ac asesiad arddull o gerddoriaeth gysegredig John Weldon (1676-1736), datblygu a chymhwyso technegau rhaglennu cynhyrchiol ym maes cyfansoddi electroacwstig, asesiad hanesyddol o weithgaredd proffesiynol y cerddor o Gymraes, Clara Novello Davies (1861-1943), a chreu a pherfformio cyfres o gyfansoddiadau i'r delyn.
Cyflwyno
Caiff PhD fel arfer ei gyflwyno ar ffurf traethawd ymchwil, heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Gyda chymeradwyaeth ymlaen llaw gan bwyllgor goruchwylio'r myfyriwr, gall y cyflwyniad hefyd gynnwys deunyddiau annhestunol, megis argraffiadau beirniadol, dadansoddiadau graffigol, cyfansoddiadau (ar ffurf sgôr a/neu sain), a/neu berfformiadau cerddorol, a bydd y rheiny fel rheol yn golygu gostyngiad yn nifer y geiriau ar gyfer elfen ysgrifenedig y cyflwyniad. Gwahoddir ymgeiswyr i gysylltu â ni i gael cyngor pellach am hyn. Asesir yr elfennau testunol yn nhermau eu llwyddiant o ran dangos canlyniadau'r ymchwil; nid yw'n ddigon dangos sgiliau technegol da fel golygydd, dadansoddwr, cyfansoddwr neu berfformiwr. Cymerir y rheiny'n ganiataol ar y lefel hon.
Gwneir yr asesiad terfynol trwy arholiad viva voce gan banel penodedig sy'n cynnwys arholwr mewnol o'r Ysgol (ddim yn union yr un fath ag aelodau'r pwyllgor goruchwylio), un arholwr allanol sy'n arbenigwr yn y maes, a chadeirydd.
Hyd y Cwrs
Y cyfnod cofrestru (heb gynnwys y flwyddyn ysgrifennu) – PhD: 3 blynedd llawn-amser, 6 blynedd rhan-amser.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gennym brofiad hir o sefydlu cysylltiadau cydweithredol, yn aml wedi'u cyfuno â chyllid. Mae projectau PhD ac MPhil diweddar wedi'u cynnal ar y cyd â sefydliadau fel Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a Venue Cymru.
Gofynion Mynediad
Gradd Brydeinig o safon Meistr (neu gyfwerth), fel rheol yn radd deilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno cynnig ar gyfer eu project ymchwil (gan gynnwys cwestiynau ymchwil, y fethodoleg, ac adolygiad llenyddiaeth). Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno samplau o'u gwaith ysgrifenedig. Gofynnir hefyd i'r rhai y mae eu projectau arfaethedig yn cynnwys cyfansoddi a/neu berfformio gyflwyno enghreifftiau o'u hymarfer diweddar (fel arfer portffolio o gyfansoddiadau ar ffurf sgôr neu sain, neu berfformiad fideo diweddar sydd heb ei olygu tua 45 munud o hyd). Rhaid i ymgeiswyr na yw'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.5 (heb yr un elfen yn is na 6.0).
Derbynnir ymgeiswyr yn ôl cryfder eu perfformiad academaidd a gwreiddioldeb a dichonoldeb eu cynnig ymchwil.
Gyrfaoedd
Gradd ôl-radd drwy ymchwil yw'r cymwyster astudio uchaf. Yn ystod y rhaglen bydd y myfyrwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i'w maes pwnc ac yn dod yn arbenigwr cydnabyddedig yn y maes. Er y goruchwylir y broses ddysgu, byddwch yn annibynnol ac yn gyfrifol am eich ysgogi a'ch cyfarwyddo eich hun. Ynghyd â'u harbenigedd pwnc-benodol, mae hyn yn cymhwyso graddedigion at swyddi rheoli, rolau ymchwil proffesiynol, galwedigaethau creadigol lefel uchel, a gyrfaoedd academaidd.