Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen meistr trwy ymchwil yn radd ymchwil ôl-raddedig uwch sy'n pwysleisio astudiaeth ymchwil annibynnol â phwyslais ar ymarfer. Gan weithio gyda goruchwyliwr ac ar faes pwnc penodol mae'r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar ymchwil. Mae'r radd yn bodoli i hyfforddi ymchwilwyr, a all arwain at waith proffesiynol neu ei defnyddio i baratoi ar gyfer PhD. Gall ddarparu profiad defnyddiol o sut beth yw PhD (Doethur mewn Athroniaeth). Bydd y rhaglen yn dilyn strategaethau ymchwil nodweddiadol y pwnc astudio, gan gynnwys ymchwil gysylltiedig, ystyried safbwyntiau moesegol, edrych ar ddyluniadau amgen, datblygu a gweithredu datrysiadau addas, a gwerthuso'r gwaith. Fel rhan o'r rhaglen, anogir myfyrwyr i ysgrifennu papurau ymchwil priodol, cyhoeddi canlyniadau eu hymchwil ac i hyrwyddo ac amlygu eu hymchwil yn gyhoeddus gyda chyflwyniadau a chynadleddau.
Meysydd Ymchwil
Mae dewis eich pwnc ymchwil yn dasg bwysig. Mae angen cysoni pynciau ymchwil â phynciau grwpiau ymchwil yr Ysgol a hefyd â diddordebau a phrofiadau darpar oruchwyliwr. Dylai ymgeiswyr edrych ar grwpiau ymchwil yr Ysgol, a chynghorir ymgeiswyr i nodi enw darpar oruchwyliwr ymchwil.