Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen MRes newydd ac arloesol hon yn edrych ar lywodraethu technolegau’r cyfryngau digidol, ac ar sut i gael mwy o fuddion gan dechnoleg a llai o elfennau negyddol. Pan ofynnir cwestiynau amserol ynghylch sut i reoli pŵer cwmnïau megis Facebook, Amazon a Google, a sut i ddelio â dulliau newydd o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, ni fu cynnwys y rhaglen hon erioed yn fwy perthnasol.
Mae'r rhaglen yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am dechnolegau newydd y cyfryngau mewn perthynas â gwerthoedd cymdeithasol, diwylliant (diwylliannau), creadigrwydd, moeseg, y gyfraith, hawliau dynol a dulliau llywodraethu eraill. Yn bwysig ddigon, mae'n galluogi myfyrwyr i ddod yn ymchwilwyr effeithiol gyda'r sgiliau allweddol mewn dulliau ymchwil allweddol sydd eu hangen i fynd i'r afael â materion a phroblemau’r cyfryngau digidol newydd a’r modd y mae eu llywodraethu.
Mae'r rhaglen yn tynnu ar gryfderau ymchwil presennol a chaiff ei darparu gan arbenigwyr yn y maes. Yn eu plith mae ymchwilwyr blaenllaw ym maes moeseg a llywodraethu deallusrwydd artiffisial, creadigrwydd digidol, newyddiaduraeth ddigidol a thwyllwybodaeth.
Mae'r ymchwil hon yn cysylltu â dwy fenter ymchwil ar draws y brifysgol: Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol a Rhwydwaith Astudio’r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r MRes hwn yn cynnig modiwlau hyfforddedig yn y pynciau a ganlyn:
Deallusrwydd Artiffisial: Dyfodol, Llywodraethu a Moeseg
Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gynnydd ym mhob sector o'r gymdeithas, gan gynnwys y cyfryngau. Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r offer cysyniadol ac enghreifftiau cyfoes i’r myfyrwyr fedru deall y lle canolog sydd i Ddeallusrwydd Artiffisial, a'r materion moesegol ac ymarferol y mae'n eu codi o ran ei lywodraethu - nid yn unig sut y caiff ei reoleiddio, ond hefyd y foeseg, y normau a’r gwerthoedd sylfaenol sydd iddo
Bydd y myfyrwyr yn agored i feddylwyr cyfoes o astudiaethau’r cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu, cymdeithaseg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg a moeseg. Trwy astudiaethau achos o’r byd go iawn, galwadau ar-lein gyda’r rhai sy’n gyfrifol am llywodraethu, ac asesiadau sy'n cynnwys ymateb i friffiau polisi o'r byd go iawn, bydd y myfyrwyr yn ymdrin â materion ymarferol, polisi a rheoliadol sy'n ymwneud â moeseg Deallusrwydd Artiffisial. Bydd hyn yn cynnwys pynciau fel yr isod:
- Sut mae dadansoddi a gwneud synnwyr o’r technolegau Deallusrwydd Artiffisial sy'n datblygu (e.e. Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol) mewn perthynas â gwerthoedd cymdeithasol, diwylliant, moeseg, y gyfraith, hawliau dynol a dulliau llywodraethu eraill.
- Sut mae deall y technolegau Deallusrwydd Artiffisial sy'n datblygu a phryderon ynghylch llywodraethu mewn perthynas â’r cyd-destun byd-eang, Ewrop a'r UD.
- Sut mae beirniadu'r technolegau Deallusrwydd Artiffisial a llywodraethu sy'n datblygu parthed cwestiynau o ragfarn gymdeithasol ac amrywiaeth, yn ogystal â llywodraethu “caled”.
Cyfryngau Digidol, Cymdeithas a Gwleidyddiaeth
Mae'r cyfryngau digidol bellach yn cyfryngu llawer o brosesau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd, ac maent yn datblygu'n gyflym o ran ffurf a chwmpas. Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r offer a'r enghreifftiau cysyniadol i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ddeall effaith y cyfryngau digidol cyfoes sy’n codi ar gymdeithas a gwleidyddiaeth.
Bydd y myfyrwyr yn astudio amrywiol feddylwyr cyfoes o astudiaethau’r cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu, cymdeithaseg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg a moeseg. Trwy astudiaethau achos o’r byd go iawn, galwadau ar-lein gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, ac asesiadau sy'n cynnwys ymateb i friffiau polisi o'r byd go iawn, gofynnir i’r myfyrwyr ddatrys problemau cymdeithasol a gwleidyddol a materion sy'n codi o’r lle canolog sydd i’r cyfryngau digidol mewn bywyd beunyddiol. Bydd hyn yn cynnwys pynciau fel a ganlyn:
- Cynnydd gwyliadwriaeth ddigidol, camwybodaeth a thwyllwybodaeth a'u heffaith ar bobl, cymdeithas a gwleidyddiaeth.
- Mae drwg effeithiau eang a chynyddol y digidol yn dod i'r amlwg (e.e. amharu ar breifatrwydd, dylanwad gormodol ar bleidleiswyr, amharu ar hawliau dynol a rhyddid meddwl).
- Atebion drwy bolisïau i ddiogelu cymdeithas y dyfodol rhag niwed digidol o'r fath, er mwyn sicrhau y daw budd i gymdeithas o le canolog y cyfryngau digidol mewn bywyd beunyddiol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Dyfofol Digidol a Llywodraethu Modiwlau tudalen.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf o safon Baglor ym Mhrydain (neu gymhwyster cyfwerth) 2(ii) neu uwch mewn pwnc perthnasol (e.e. Cyfryngau, Gwyddorau Cymdeithas).
Bydd ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio / sydd â phrofiad o weithio ym maes y cyfryngau a chyfathrebu a chanddynt gymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried yn unigol ac efallai y gofynnir i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eu cais
Hyfedredd Saesneg (ar gyfer siaradwyr Saesneg neu Gymraeg nad ydynt yn frodorol): Sgôr IELTS o 6.0 (heb yr un elfen o dan 5.5) neu gymhwyster cyfwerth.
Gyrfaoedd
Mae’r MRes hwn yn mynd i'r afael â chwestiynau polisi a thechnoleg y byd go iawn sy’n ymwneud â’r cyfryngau digidol newydd a bydd yn cysylltu myfyrwyr ag ymarfer real. Mae cyfleoedd gyrfa yn rhychwantu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus, sefydliadau rhyngwladol, a sefydliadau nid-er-elw. Bydd y radd o ddiddordeb i fyfyrwyr sy'n awyddus i gael swyddi lefel mynediad, yn ogystal â'r rhai sy'n gobeithio sicrhau dilyniant gyrfa neu newid gyrfa trwy gymwysterau addysgol. Mae cyfleoedd gyrfa penodol yn cynnwys:
- Y diwydiannau hysbysebu a marchnata, gan gynnwys marchnata digidol, cynllunio / prynu ar gyfer y cyfryngau;
- Adrannau / asiantaethau'r llywodraeth e.e. unedau polisi cyhoeddus, unedau economeg / ystadegau / cynllunio
- Addysg uwch, canolfannau ac unedau ymchwil
- Rheoli data mewnol mewn cwmnïau mawr
- Cwmnïau cyfreithiol, adrannau cyfreithiol, adrannau cydymffurfio a risg
- Ymgyngoriaethau Rheoli
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae eich athrawon yn cynnal cysylltiadau gwaith agos gyda diwydiannau, busnesau a mentrau creadigol yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol a rhyngwladol, seneddau, cyrff safonau technoleg byd-eang, a chyrff anllywodraethol.
Trwy'r cysylltiadau hyn, gofynnir i chi ddatrys problemau byd go iawn mewn asesiadau ar ffurf briffiau polisi, sy'n cynnwys ymchwilio ac ysgrifennu adroddiadau ar broblemau'r byd go iawn y mae chwaraewyr ym maes llywodraethu yn eu hwynebu. Mae asesiadau eraill yn cynnwys traethodau a thraethawd hir.