Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs Meistr mewn Dylunio Perthynol yn ddull newydd cyffrous o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau lles mewn rhanbarth. Ffocws y rhaglen yw antur, twristiaeth ac addysg, yng nghyd-destun y cyfle a geir yn sgil y diwydiant llesiant sy’n werth tair triliwn ewro.
Byddwch yn dysgu sut i gyfuno asedau cymdeithasol, technolegol ac ecolegol rhanbarth mewn modd sy’n creu ffyrdd newydd o wneud bywoliaeth, gwasanaethau hyfyw, a mentrau cynaliadwy, a bydd y cyfan wedi ei seilio ar ffyrdd creadigol o gysylltu’r cwestiynau “beth yw?” gyda “beth os?”.
Nid cwrs Meistr damcaniaethol yw hwn. Mae wedi ei gynllunio i'ch helpu i achosi newid sylweddol mewn project byw. Felly bydd eich ymdrechion ymchwil yn cael eu cyflwyno ar ffurf Cynnig Busnes, Arddangosfa, a Chyflwyniad cyhoeddus i randdeiliaid a chyd-fyfyrwyr.
Bydd ein staff a'n harbenigwyr mewnol yn eich helpu i ddatblygu ac adrodd eich stori yn effeithiol. Trwy gydol y cwrs, bydd gennych fynediad at ein huwch-ymgynghorydd, John Thackara - yn ystod ei ymweliadau asesu, ac ar ffurf un-i-un ar skype ar adegau eraill.
Mae hwn yn gwrs sy’n canolbwyntio ar bobl a lle, sydd wedi'i alluogi gan dechnoleg dan arweiniad dylunio. Mae'n rhoi sgiliau ymarferol i fyfyrwyr mewn dylunio, prototeipio, a threialu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, ac arloesi modelau busnes.
Mae'r cwrs Meistr wedi'i leoli yn un o ranbarthau mwyaf gwydn Ewrop. Mae Gogledd Cymru yn gallu brolio tir heb ei ddifetha, aer glân a bioamrywiaeth; digonedd o ddŵr; y môr; dwysedd poblogaeth isel a gwreiddiau diwylliannol hynafol sy’n parhau i ffynnu. Mae i ranbarth Gogledd Cymru ecosystem arloesi ddeinamig o gwmnïau lleol, gwneuthurwyr, hacwyr, a Chymuned Technegol Gogledd Cymru.
Mae'r cwrs wedi'i leoli yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor. Mae'r ganolfan gelfyddydau ac arloesi ffyniannus hon yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng addysg, ymchwil, a chymunedau cymdeithasol a busnes lleol. Bydd gennych fynediad at nifer o arbenigwyr academaidd o safon rhyngwladol, gan gynnwys rhai er enghraifft ym meysydd gwyddorau’r amgylchedd, gwyddorau chwaraeon a seicoleg, yn ogystal ag arbenigwyr ym meysydd cyfrifiadureg a pheirianneg electronig.
Yn rhyngwladol, mae cyswllt rhwng y rhaglen Meistr â phrojectau byw mewn dinasoedd a sefydliadau angori sy'n weithredol ym meysydd Trawsnewid a Dylunio Tiriogaethol, Iechyd, Lles a Thwristiaeth. Rydym hefyd yn ymwneud â rhwydweithiau sy'n datblygu modelau busnes a llywodraethu newydd megis Llwyfannau Cydweithredu.
Arholiad llafar y byddwch yn ei gael; caiff ei gynnal cyn y cyflwyniad cyhoeddus a’r arddangosfa o’ch gwaith. Cynhelir yr arholiad llafar gan arholwr mewnol, arholwr allanol, a chadeirydd. Mae'r cwrs yn parhau, yn fwriadol felly, tan fis Awst i roi amser i chi adfyfyrio a pharatoi cam nesaf eich taith yn ymchwilio i arloesi.
Cyfleoedd Ymchwil
Un o'r ffyrdd y mae Dylunio Perthynol yn creu gwerth yw trwy ganolbwyntio ar gydweithredu â chwmnïau bach a chanolig eu maint, mentrau cymdeithasol, sefydliadau angori a chyrff y sector cyhoeddus.
Mae gan Ogledd Cymru rwydwaith o gwmnïau bach. Maent yn amrywio o chwaraeon eithafol, lles, iechyd a thwristiaeth antur, i fioburo, grawn a rwydweithiau ffibr - a chymuned o gwmnïau technoleg bach ond blaengar.
Mae partneriaid busnes strategol Arloesi Pontio ar hyn o bryd yn cynnwys Creo Medical, DMM, Paper Trail, Rib Ride, Zipworld, Locly. Mae’r FabLAB (>450 o aelodau) a Chymuned Technoleg Gogledd Cymru (>500 o aelodau) gan ddarparu mynediad pellach at ddylunwyr, gwneuthurwyr a chwmnïau peirianneg yn y rhanbarth
Nodwedd allweddol o ddylunio perthynol yw nodi chwaraewyr newydd a darpar bartneriaid. Mae cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol helaeth ein staff yn golygu y bydd modd i chi gydweithio ag ymgyngoriaethau masnachol, cynghorau lleol, sefydliadau amgylcheddol (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain, sefydliadau y mae gan lawer ohonynt swyddfeydd rhanbarthol wedi'u lleoli ym Mangor, a sefydliadau ymchwil y llywodraeth (e.e. Canolfan Ecoleg a Hydroleg) yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae'r Deyrnas Unedig a llywodraethau eraill yn gwthio mewn ffyrdd amrywiol i gynyddu gweithgarwch dinasyddion yn yr awyr agored ac yng nghefn gwlad. Yn y Deyrnas Unedig, mae sefydliadau fel Sport England eisoes yn datblygu rhaglenni mewn partneriaeth â’r Outdoor Industries Association (OIA). Gallai fod cyfle i Fangor arloesi mewn Ardaloedd Gwella Busnes ar gyfer Bioranbarthau.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Meysydd Ymchwil
Dylunio Perthynol: Llesiant o fewn Cyd-destun Rhanbarthol (Antur, Twristiaeth, Addysg)
Strwythur
Rhennir y flwyddyn yn bedwar cyfnod. Bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y cyfnodau, ond mae'r cyfeirbwyntiau ffurfiol isod wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn rhoi sylw i’r holl elfennau angenrheidiol. Mae amseriad ac allbynnau'r rhaglen yn cyd-fynd ag amserlen cais am fisa Haen I, pe bai ar fyfyriwr rhyngwladol angen nawdd i aros yn y rhanbarth, ar ôl graddio
- Darganfod (Medi-Rhagfyr) - Wrth i chi ymgartrefu yn y rhanbarth, a dod i adnabod y bobl a’r lle, bydd cyfres o ymarferion dylunio byr, dwys, ynghyd â chymhelliant, yn gyfle i chi ymgyfarwyddo ag offer a dulliau i'w defnyddio yn nes ymlaen. Byddwn yn eich cyflwyno i'r FabLab (gwaith coed, argraffu digidol 3D â chyfansoddion, torri â laser ac offer uwch-weithgynhyrchu eraill) ac yn esbonio prosesau’r grŵp creadigol a ddefnyddir yn ein gofod CoWorking. Trwy gymryd rhan mewn gweithgaredd Menter trwy Ddylunio, a fydd yn cynnwys myfyrwyr israddedig, chwaraewyr lleol, rhanddeiliaid ac ymchwilwyr eraill, byddwch yn ymarfer sut i ddylunio proses cefnogi penderfyniadau grŵp, ac arwain tîm amlddisgyblaethol, o fewn project gyda nifer o randdeiliaid.
- Diffinio (Ionawr-Chwefror) - Mae a wnelo dylunio perthynol â gwneud cysylltiadau rhwng asedau cymdeithasol, naturiol a diwylliannol, ac adeiladu'r llwyfannau cydweithredu y gellir eu defnyddio i weithio gyda'i gilydd. Ym mis Ionawr, byddwch yn paratoi fersiwn gyntaf eich cynnig project; caiff ei gyflwyno mewn asesiad ffurfiol o’ch Cynnig Project ar ddiwedd y mis. Gydag adborth o'r asesiad hwnnw, byddwch yn datblygu ac yn mireinio eich cynnig project ymhellach ym mis Chwefror
- Datblygu a Chyflawni (Mawrth-Mehefin) - Paratoi eich Cynnig Busnes, eich Arddangosfa a'ch Cyflwyniad Cyhoeddus.
- Adfyfyrio a Chynllunio at y Dyfodol (Gorffennaf-Awst) - Ar ôl yr Arholiad Llafar, a'r Arddangosfa a'r Cyflwyniad Cyhoeddus, rydym wedi neilltuo dau fis i chi i fyfyrio, yn gyntaf, ar yr hyn yr ydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn; ac, yn ail, i gynllunio'r camau y mae angen eu cymryd i roi eich project ar waith, yn lleol neu yn eich gwlad eich hun. Bydd ein tîm ar gael i ddarparu adborth a mentora trwy gydol y cam olaf hwn.
Cynnwys
Mae'r cwrs Meistr mewn Dylunio Perthynol yn radd sy'n seiliedig ar ymchwil. Efallai bod eich pwnc ymchwil yn syniad am broject sydd eisoes yn bodoli - wedi'i ysbrydoli efallai gan ddiwydiant, llywodraeth neu sefydliad angori o'ch gwlad eich hun - neu gallwch ddiffinio eich pwnc ymchwil ar ôl i chi gyrraedd Bangor. Mae'r adrannau isod yn amlinellu, yn gyntaf, y tri maes y byddwn yn canolbwyntio arnynt, gydag enghreifftiau i sbarduno eich syniadau eich hun; ac yn ail, caiff pedwar cyfnod y cwrs blwyddyn eu hegluro yn fanwl.
Antur
Gall cyfoeth naturiol ysblennydd Gogledd Cymru, a'r rhwydwaith o gwmnïau bach deinamig, fod yn sail i ddatblygiadau arloesol mewn amrywiaeth eang o weithgareddau antur a chwaraeon: dringo, rhedeg, plymio, caiacio, gwersylla, beicio mynydd, dringo coed, gwifren-wib, a llawer mwy. Gallai partneriaid ymchwil gynnwys brandiau lles byd-eang, datblygwyr apiau, neu fentrau iechyd cyhoeddus megais rhaglen UK Active Forestry.
Twristiaeth
Mae teithio egnïol, teithiau dysgu, a thwristiaeth bioamrywiaeth, yn rhannau sy’n tyfu'n hynod gyflym o fewn y diwydiant byd-eang enfawr hwn. Mae trigolion dinasoedd, sy'n gofalu am eu hiechyd, yn chwilio am gysylltiadau o’r pridd-i’r-bwrdd trwy fodelau megis ffermio cymdeithasol, Wwoofing, Workaway, a Fibersheds. Mae gwersylloedd adfer afonydd, coedwigoedd ac ecosystemau yn tyfu mewn poblogrwydd. Fel rhan o’r mudiad Pentrefi Clyfar, mae adeiladau treftadaeth yn cael eu hadfer fel safleoedd Coworking/Coliving (CoWoLi). Gall adeiladau hanesyddol eraill - colegau cymunedol, capeli, tafarndai, llyfrgelloedd, amgueddfeydd rhanbarthol, hosteli, swyddfeydd post, siopau lleol - hefyd ddod yn ganolfannau gwledig fel rhan o rwydwaith ar gyfer gweithgarwch gan ymwelwyr sy'n creu ffyrdd newydd o wneud bywoliaeth i drigolion lleol; mae AirBNB Experiences yn enghraifft dda.
Addysg
Mae Gogledd Cymru yn gyrchfan ddysgu amgen yn ei hawl ei hun. Mae ysgolion a chanolfannau amgylcheddol y rhanbarth yn chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r cyhoedd - o wyddoniaeth dinasyddion a chynlluniau artistiaid preswyl, i ganolfannau gwneuthurwyr, dysgu ar y tir, a chodio yng nghefn gwlad.Mae lle i deithiau dysgu ar sail thema hefyd, megis y Llwybrau Eplesu sy'n cael eu datblygu yn Latfia, y Llwybrau Mêl poblogaidd yn Slofenia, neu'r ap Deep Time Walk a geir yng Ngholeg Schumacher yn Nyfnaint. Mae Ecoamgueddfa newydd Cymru yn fodel ysbrydoledig arall i adeiladu arno. Mae dysgu sut i gyfuno sgiliau ymarferol â chreu busnes newydd yn gyfle arall; yn Sisili, er enghraifft, mae ffermwyr sitrws a phrentisiaid yn defnyddio bioburo fel sylfaen ar gyfer cynnyrch iechyd a maeth newydd.
Gofynion Mynediad
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan weithwyr proffesiynol ar ganol gyrfa neu raddedigion pensaernïaeth, dylunio, peirianneg a busnes; mae croeso hefyd i ymgeiswyr o gefndiroedd eraill, megis ecoleg, neu ddaearyddiaeth. Caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinweddau ei hun, ynghyd â phrofiad gwaith neu fusnes.
Mae gennym brofiad ers blynyddoedd lawer o wneud cynigion i ymgeiswyr yn seiliedig ar gymwysterau a enillwyd ledled y byd ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol. Bydd rhaid cael cymhwyster y bernir ei bod yn gyfwerth â gradd baglor yn y Deyrnas Unedig i gael mynediad. Fel rheol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg. Fel rheol, y gofynion sylfaenol o ran yr iaith Saesneg yw:
- IELTS 6.5 gydag o leiaf 6.0 ym mhob elfen unigol
- Pearson PTE: sgôr o 62 (heb unrhyw elfen yn is na 58)
- Prawf Saesneg Caergrawnt - Uwch: 176 (heb unrhyw elfen yn is na 169
Gyrfaoedd
Mae astudiaeth ddiweddar gan y Global Wellness Institute yn cyfrifo bod y diwydiant lles byd-eang yn farchnad gwerth $3.7 triliwn. Mae’r sectorau allweddol yn cynnwys:
- Harddwch a Gwrth-Heneiddio ($999bn)
- Bwyta'n Iach, Maeth a Cholli Pwysau ($648bn) Twristiaeth Lles ($563bn)
- Ffitrwydd a’r Corff a’r Meddwl ($542bn)
- Meddygaeth Ataliol a Meddygaeth wedi'i Bersonoli ac Iechyd y Cyhoedd ($534bn)
- Meddygaeth Gyflenwol ac Amgen ($ 199bn)
- Eiddo Tiriog Ffordd Lesol o Fyw ($119bn)
- Diwydiant Sbas ($99bbn.)
- Ffynhonnau Cynnes/Mwynol ($51bn)
- Lles yn y Gweithle ($43bn)
Ffynhonnell: https://www.globalwellnessinstitute.org/press-room/statistics-and-facts/
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Llafur yr Unol Daleithiau, Twristiaeth Antur yw’r sector sy’n tyfu gyflymaf yn y diwydiant twristiaeth, a’r twf a ragwelir mewn swyddi yn y diwydiannau iechyd a lles yn ei gyfanrwydd, rhwng 2014 a 2024, yw 13 y cant - cyfradd twf cyflymach na'r rhan fwyaf o feysydd eraill.
O fewn y dirwedd ddeinamig hon o gyfleoedd, mae'r cwrs Meistr mewn Dylunio Perthynol yn addas i’r rhai sy'n dymuno:
- datblygu syniad project sydd eisoes yn bodoli - efallai mewn cydweithrediad â diwydiant, llywodraeth neu sefydliad angori o'ch gwlad eich hun;
- dod o hyd i gyflogaeth yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat yn un o'r sectorau a restrir uchod - er enghraifft gyda brand lles, teithio neu letygarwch byd-eang;
- dechrau menter newydd;
- gweithio ym maes polisi datblygu neu arloesi rhanbarthol, neu yn yr economi ymchwil.
Mae cwrs Meistr Pontio yn rhoi sgiliau ymarferol i fyfyrwyr mewn dylunio, prototeipio, a threialu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, ac arloesi modelau busnes. Mae'n canolbwyntio ar broses, gan ddefnyddio dulliau dylunio gwasanaeth a chynnyrch ystwyth ac ailadroddol.
Yn ogystal â dod o hyd i gyflogaeth benodol yn seiliedig ar yr wybodaeth arbenigol a gafwyd yn ystod eich ymchwil, bydd eich cyflogadwyedd cyffredinol yn cael ei wella gan dystiolaeth o'ch gallu i weithio'n annibynnol, i feddwl yn ddadansoddol ac yn flaengar, a chysyniadu a chwestiynu.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol hanfodol megis sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth da, a gwella'ch profiad ymarferol.
Gwneud Cais
I gael ragor o wybodaeth am y cwrs a'r broses ymgeisio, cysylltwch â:api@pontio.co.uk.
Camau i wneud cais:
Cam 1. Bydd rhaid ymgeiswyr â diddordeb anfon CV ac enghraifft gwaith / portffolio i: api@pontio.co.uk.
Cam 2. Cyfweliad 1 - Gwahoddir ymgeiswyr i gwrdd am drafodaeth gychwynnol i drafod y cwrs a gofynion mynediad
Cam 3. Cyfweliad 2 - Gwahoddir ymgeiswyr sy'n cyflawni'r gofynion mynediad hanfodol i gwrdd (drwy fideo) i drafod prosiect penodol
Cam 4. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i wneud cais yn ffurfiol, trwy ddilyn y botwm 'Gwneud Cais' ar wefan y brifysgol.