Fy ngwlad:
Ocean floor

Gwyddorau'r Eigion Ôl-raddedig trwy Ymchwil - Mynediad: 2024

Manylion y Cwrs

  • Cymhwyster MSc
  • Hyd 1 flwyddyn
  • Modd Astudio

    Llawn amser

    Rhan amser

  • Lleoliad

    Bangor

Llong ymchwil Prince Madog ar Y Fenai

Darllen mwy: Gwyddorau Eigion

Mae Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yn unigryw am ei fod yn cwmpasu astudiaeth o bob agwedd ar amgylchedd môr y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor.  Mae ymchwil gwyddorau'r eigion ym Mhrifysgol Bangor yn rhychwantu'r byd ac yn amrywio o ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr iâ ym Môr yr Arctig i weithio ar y cyd â NASA yn archwilio cyfraniad llanw'r môr at esblygiad cynnar y blaned Fenws.

Morlo yn y môr

Darllen mwy: Bioleg Môr

Mae Bioleg Môr wedi cael ei ddysgu ym Mhrifysgol Bangor ers bron i 100 mlynedd. Mae ein lleoliad unigryw rhwng môr a mynydd, a'n cyfleusterau, sy'n cynnwys llong ymchwil gyda'r holl offer priodol, yn ein gwneud yn un o'r prifysgolion mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig i astudio Bioleg Môr.

Tonnau môr gyda thyrbinau gwynt yn y cefndir

Darllen mwy: Ffiseg

Rydym wedi bod yn dysgu Ffiseg Eigion ers dros 50 mlynedd. Mae ein hymchwil yn seiliedig ar ddatblygu a chymhwyso technegau arsylwi a modelu rhifiadol o'r radd flaenaf. Nod ymchwil gyfredol yw gwella rhagfynegiadau'r hinsawdd a'r tywydd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar swyddogaeth y llanw a'u hesblygiad yn ystod Hanes y Ddaear.

Tyrbin gwynt a ffotofoltaidd

Darllen mwy: Ynni Adnewyddadwy

Mae ein staff yn gweithio ar bob agwedd ar ymchwil ac addysgu adnewyddadwy ym maes ynni adnewyddadwy. Mae ein hymchwil ym maes cynhyrchu ynni solar a'r genhedlaeth nesaf o baneli solar yn arwain yn y maes ac mae'n thema sy'n rhedeg trwy ein holl addysgu ac ymchwil. Mae ein staff yn arwain y byd ym maes ymchwil ynni adnewyddadwy o'r môr, maent wedi ysgrifennu “y” gwerslyfr ar y pwnc, ac ar flaen y gad o ran datblygiadau masnachol ac ymchwil a datblygu yn y sector, gan arwain projectau ymchwil mawr a rhoi arweiniad yn llawer o'r cynadleddau pwysicaf yn y byd.