Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Prif nod y rhaglen hon yw datblygu Sgiliau Ymchwil Gwyddonol myfyrwyr ôl-radd blaengar sy'n bwriadu cael gyrfa mewn ymchwil wyddonol. Bydd y rhaglen yn cyfuno ymchwil labordy â chynnwys hyfforddedig cefnogol ac integreiddiol penodol i alluogi'r myfyriwr i ddehongli a chyfleu canfyddiadau gwyddonol yn effeithiol. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi trylwyr, cysyniad o ymarfer diogel mewn labordy a'r gallu i ddehongli a gwerthuso'n feirniadol y llenyddiaeth wyddonol a'r data a gynhyrchwyd ganddynt eu hunain. Anogir creadigrwydd a gwreiddioldeb yn null myfyrwyr o wneud ymchwil mewn labordy. Bydd graddedigion llwyddiannus hefyd yn ennill sgiliau cyflogadwyedd ehangach gan gynnwys aml-ddisgyblaethedd, rheoli data, rhifedd, ystadegau, trosi ymchwil i ymarfer ac mewn dadansoddi data in silico sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sectorau academaidd a diwydiannol.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Meini prawf academaidd: O leiaf gradd BSc cyfwerth â gradd 2.ii yn y DU mewn pwnc gwyddorau biolegol perthnasol. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ymgeiswyr 25 oed neu hŷn sydd â llawer o brofiad gwaith/academaidd perthnasol.
Gofynion iaith Saesneg (o leiaf): IELTS 6.0 (dim elfen o dan 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd gan raddedigion llwyddiannus y wybodaeth, dealltwriaeth a'r gallu i ddilyn gyrfa mewn ymchwil foleciwlaidd yn gysylltiedig â meddygaeth ar lefel PhD, neu fel gwyddonwyr technegol arbenigol/canolig mewn sefydliadau biofeddygol/meddygol academaidd, meddygol neu ddiwydiannol.
Gwneud Cais