Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r diddordebau ymchwil yn cynnwys: Nanowneuthuriad laser ac addasiadau arwyneb; glanhau laser; cynhyrchu laser o nanoddefnyddiau; Sbectrosgopeg Dadansoddiad a ysgogwyd gan laser (LIBS); Priodweddau electronig a dielectrig deunyddiau biolegol; Trin electroginetig bioronynnau; polymerau biolegol, ensymau a chelloedd; Microwneuthuriad bioffatri a labordy-ar-sglodyn; Therapiwteg a diagnosteg feddygol.
Cysylltiadau  Diwydiant
Mae rhai o'n myfyrwyr wedi cwblhau PhD wrth weithio yn y diwydiant ac astudio'n rhan-amser tra'n gweithio. Mae myfyrwyr yn ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant ac mae'r cwmni lleol yn gallu manteisio ar yr ymchwil ddiweddaraf.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda neu gyfwerth. Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg at lefel IELTS 6.0 yn gyffredinol a dim elfen islaw 5.5 gyda sgôr ysgrifennu o 6.5. Gellir dilyn cwrs cyn-sesiynol proffesiynol priodol ELCOS (Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor) i gyflawni'r lefel iaith Saesneg ofynnol.