Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gellir astudio am raddau PhD/MPhil a PhD/ MPhil Ymchwil ar Sail Ymarfer mewn pynciau ar draws sbectrwm cyfan y Diwydiannau Creadigol, gyda photensial i arbenigo mewn meysydd fel: ffilm ac/neu astudiaethau cyfryngau, cyfryngau newydd, drama, cyfathrebu a meysydd cysylltiedig. Mae ein staff yn arbenigo mewn ystod eang o feysydd pwnc, megis sinema'r byd, diwylliant gweledol, cyfryngau digidol a rhyngweithiol, gemau ac amgylcheddau rhithwir, y celfyddydau digidol a diwylliant, newyddiaduraeth, astudiaethau cyfryngau a diwylliannol, ysgrifennu ac addasu ar gyfer y sgrin, drama a pherfformio. Mae ein staff Ymchwil ar Sail Ymarfer yn arbenigo mewn meysydd fel cyfryngau digidol a rhyngweithiol, ysgrifennu proffesiynol (newyddiaduraeth ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin), cynhyrchu i'r cyfryngau a ffilm, a pherfformio.
Ni allai'r awyrgylch astudio ym Mangor fod yn well ar gyfer astudio ar lefel ôl-raddedig. Byddwch yn ymuno â chymuned ôl-raddedig fywiog a phrifysgol sydd â phrofiad sylweddol o ddysgu'r diwydiannau creadigol ar lefel ôlraddedig.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd llawn-amser, 6 blynedd rhan-amser; MPhil: 2 flynedd llawn-amser, 4 blynedd rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, byddem yn disgwyl i fyfyrwyr sy’n dechrau ar PhD neu MPhil fod â gradd dosbarth cyntaf neu radd dda yn yr ail ddosbarth. Yn aml, mae ymgeiswyr PhD a MPhil wedi astudio hyd at lefel Meistr, er nad yw hynny'n orfodol. Rydym yn gallu derbyn myfyrwyr sy’n dysgu o bell, ond dylent eisoes fod wedi ennill y sgiliau a ddysgir yn y seminarau rhagarweiniol, neu dylent drefnu i fynd i seminarau cyfatebol mewn sefydliad arall, ar eu cost eu hunain. Yn achos myfyrwyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, disgwylir fod ganddynt sgôr IELTS o fan leiaf 7.0.
Gyrfaoedd
Ar ôl cwblhau eu graddau ymchwil, mae cyn-raddedigion wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth o sefydliadau academaidd o fri yn ogystal ag mewn diwydiannau creadigol (a chysylltiedig), gan gynnwys darlledu a gwneud ffilmiau, hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus, datblygu gemau a thwristiaeth.
Rydym yn ceisio rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â chyrff perthnasol yn y diwydiant a threfnu amrywiaeth o weithdai a chystadlaethau proffesiynol, e.e. trwy'r cynllun Menter trwy Ddylunio.