Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Y prif feysydd ymchwil yw: cynllunio ac optimeiddio rhwydwaith, rhwydweithiau data diwifr, a phrotocolau rhwydwaith. Ceir cysylltiadau cryf allanol gyda'r grwpiau ymchwil eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â llawer o gwmnïau blaenllaw'r ardal.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser
Gofynion Mynediad
- Deallusrwydd artiffisial a chyfryngau deallus: mae angen gradd anrhydedd dda neu gyfwerth.
- Rhwydweithiau a phrotocolau cyfathrebu: mae angen gradd anrhydedd da neu gyfwerth mewn peirianneg electronig neu wyddoniaeth gyfrifiadurol.
- Delweddu ac efelychu meddygol: mae angen gradd anrhydedd dda neu gyfwerth â chyfrifiadureg.
- Adnabod patrymau/dosbarthwyr: mae angen gradd anrhydedd dda neu gyfwerth â chyfrifiadureg.
Gyrfaoedd
Mae cysylltiadau cryf gyda diwydiant a grwpiau ymchwil eraill yn y maes hwn. Mae Cyfrifiadureg ym Mangor wedi bod ymhlith prifysgolion gorau'r DU yn gyson o ran cyflogadwyedd yn ôl tablau cynghrair. Mae llawer o gyfleoedd hefyd yn y diwydiant TG mewn sawl sector oherwydd presenoldeb nifer uchel o gwmnïau TG a busnesau bach a chanolig yn lleol.