Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MARes yn raddau uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau'n llwyddiannus hyfforddiant ac ymchwil uwch gan arwain at draethawd ymchwil. Nod gradd ymchwil yw darparu hyfforddiant eang ym maes gwyddor gymdeithasol, yn ogystal â hyfforddiant penodol mewn meysydd pwnc arbenigol sy'n berthnasol i'r project ymchwil. Drwodd a thro, mae'r hyfforddiant yn darparu'r cyd-destun a'r sgiliau i gyflawni ymchwiliad gwreiddiol, gan arwain at baratoi traethawd ymchwil sy'n gyfraniad annibynnol a gwreiddiol at wybodaeth.
Rydym yn darparu amgylchedd cyffrous a chefnogol ar gyfer hyfforddiant ôl-radd. Mae'r pwyslais ar grwpiau bach, cysylltiadau gwaith agos rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ymchwil, a datblygu cyfranogiad proffesiynol llawn yn y maes pwnc. Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil ESRC lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws sbectrwm eang o bynciau.
Mae'r MARes yn rhaglen blwyddyn, a gyflawnir yn gyfan gwbl trwy ymchwil ar bwnc a gynigiwyd gan yr ymgeisydd ac a gymeradwywyd gan y brifysgol. Penodir goruchwyliwr a fydd yn rhoi goruchwyliaeth ymchwil ffurfiol i'r ymgeisydd am gyfnod o 12 mis. Ar ddiwedd y cyfnod, bydd disgwyl i chi gyflwyno darn o waith oddeutu 40,000-50,000 o eiriau.
Gofynion Mynediad
Y meini prawf ar gyfer mynediad i'r rhaglen fel rheol yw o leiaf radd 2.ii neu gyfwerth, cynnig boddhaol ar gyfer ymchwil, a gallu'r Ysgol i oruchwylio'r traethawd hir arfaethedig yn effeithiol.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.