Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Newydd ar gyfer 2024
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn falch o gynnig tri llwybr ar gyfer Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd trwy Ddysgu o Bell:
- PGCert Addysg i'r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd (60 credyd): Hyd - 1 flwyddyn, rhan-amser. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno dysgwyr i theori ac ymarfer addysg y proffesiynau meddygol ac iechyd ac yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau wrth edrych yn feirniadol ac yn greadigol ar eu hymarfer eu hunain. Gwybodaeth i ddilyn yn fuan.
- PGDip Addysg i'r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd (120 credyd): Hyd - 2 flynedd, rhan-amser. Mae’r cwrs hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth mewn ymchwil addysg proffesiynau meddygol ac iechyd, mewn meysydd arbenigol fel addysg ryngbroffesiynol, datblygiad proffesiynol, technoleg dysgu, a/neu arweinyddiaeth. Dysgwch fwy am y PGCert isod.
- Addysg Feddygol a Phroffesiynau Iechyd MA (180 credyd): Hyd - 3 blynedd yn rhan-amser. Mae'r flwyddyn meistr yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil o'ch dewis chi, a all fod naill ai'n draethawd hir neu'n adolygiad manwl o lenyddiaeth berthnasol.
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu o bell rhan-amser; dros 3 blynedd.
Nod yr MA Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg feddygol ac iechyd i academyddion, clinigwyr, a staff cefnogi sy'n gyfrifol am addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o unrhyw ddisgyblaeth neu ar unrhyw lefel.
Mae'r cwrs ar sail ymarfer ac yn seiliedig ar ddamcaniaeth. Bydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau i chi sy’n ymwneud ag addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd yng nghyd-destun y brifysgol a’r cyd-destun clinigol, gan eich galluogi i wella eich ymarfer addysgu a datblygu dull adfyfyriol, beirniadol a damcaniaethol o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso profiadau addysgiadol eich myfyrwyr.
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio fel cwrs hyblyg, rhyngbroffesiynol i ddiwallu anghenion datblygu addysgwyr ar bob cam o'u gyrfa, gyda chymwysterau ymadael ar lefelau tystysgrif a diploma yn ogystal â lefel Meistr llawn.
I gydnabod gwaith ac ymrwymiadau eraill gweithwyr proffesiynol meddygol ac iechyd, mae'r rhaglen Meistr hon wedi ei chynllunio fel rhaglen ddysgu o bell, ran-amser am dair blynedd, sy’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf posib i gyfuno gwaith ac astudio.
Mae’r cwrs yn cyfuno gweithdai rhyngweithiol ar-lein o ansawdd uchel ag astudio hunan-gyfeiriedig, wedi ei gefnogi gan diwtorialau, adborth unigol ar weithgareddau ac aseiniadau a chyfarfodydd un-i-un. Mae’r rhaglen yn defnyddio dull amlddisgyblaethol sy’n seiliedig ar ymchwil i addysgu’r modiwlau ac mae’n gofyn i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau byw ar-lein a thrafodaethau a gweithgareddau ar-lein yn eu hamser eu hunain.
Beth mae'r rhaglen hon yn ei gynnig?
Bydd y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hymddygiad i fodloni’r nodau canlynol:
- Bydd yn darparu fframwaith lle gall addysgwyr clinigol a staff cefnogi adolygu'n feirniadol a datblygu safbwyntiau damcaniaethol a sgiliau ymarferol wrth hwyluso profiad eu myfyrwyr.
- Cefnogi cyfranogwyr i ddadansoddi cymhlethdodau addysg y proffesiynau meddygol ac iechyd mewn modd systematig a chreadigol; defnyddio technegau sy'n adeiladu ar eu profiad eu hunain; defnyddio dysgu gweithredol ac adfyfyriol a sicrhau bod theori ac ymarfer cyfoes yn rhan greiddiol o’r rhaglen.
- Helpu i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer swyddi arweinyddiaeth ym maes addysg ac ymarfer addysgol rhyngbroffesiynol cydweithredol.
- Galluogi myfyrwyr i gael profiad ymarferol o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso cyrsiau.
- Cefnogi a pharatoi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u diddordeb mewn ymchwil i ymarfer ac addysgeg addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd.
Gofynion Mynediad
Darpar ymgeiswyr
- Ymarferwyr gofal iechyd cymwys, academyddion, staff gwasanaethau proffesiynol neu reolwyr addysg sydd â rhywfaint o brofiad o oruchwylio, addysgu neu gefnogi dysgwyr yn eu gwaith beunyddiol, a mynediad at hynny;
- Fel arfer yn meddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2.ii neu uwch), cymhwyster lefel gradd, neu gymhwyster proffesiynol wedi ei ategu gan brofiad perthnasol.
- Disgwylir iddynt ddarparu datganiad personol cryf a thystlythyr(au) (academaidd a/neu gysylltiedig â gwaith) fel rhan o'u cais.
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Mae sgôr IELTS o 6.5 (heb yr un elfen o dan 6.0) neu gyfwerth yn angenrheidiol.
Gellir gwahodd ymgeiswyr am gyfweliad rhithwir.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Bydd graddedigion y cwrs hwn wedi caffael amrywiaeth eang a pherthnasol o sgiliau trosglwyddadwy pwnc-benodol gyda phwyslais ar adfyfyrio, dadansoddi beirniadol ac ysgrifennu academaidd a gyflawnwyd trwy gymryd rhan mewn trafodaethau ac amrywiaeth o gyfryngau a fformatau ysgrifenedig.
Mae'r rhaglen yn rhoi gwell sgiliau cyflogadwyedd i raddedigion a'r gallu i ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi addysgol mewn addysg i’r proffesiynau meddygol ac iechyd. Mae’r pwyntiau ymadael ym mhob un o'r tair blynedd yn rhoi'r dewis i fyfyrwyr adael gyda chymhwyster PGCert, PGDip neu radd Meistr.
Gall myfyrwyr Meistr ddewis gwneud project ymchwil a allai arwain at gyhoeddiadau gwyddonol neu bortffolio proffesiynol yn seiliedig ar waith, a bydd y ddau ohonynt yn rhoi hwb pellach i'w gyrfaoedd.
Gall cwblhau'r PGCert alluogi graddedigion cymwys i dalu'n annibynnol i gwblhau cais am Gymrodoriaeth AAU yn uniongyrchol gydag AdvanceHE.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru gysylltiadau cryf â'r GIG yn y rhanbarth hwn gan gefnogi'r gweithlu a datblygiad proffesiynol trwy ei rhaglenni israddedig, ôl-radd a datblygiad proffesiynol parhaus.