Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi sylfaen wybodaeth gref yn seiliedig ar brofiad a damcaniaeth, ynghyd â hyfforddiant llawn, mewn dysgu Therapi Gwybyddol sy'n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) neu ddysgu Lleihau Straen ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR) yng nghyd-destun proffesiynol y myfyriwr ei hun. I weithwyr proffesiynol cymwys ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu addysg, mae'n rhoi cyfle i ennill cymhwyster academaidd, a Certificate of Competence in Teaching MBSR/MBCT, a ddyfernir gan y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, sy'n uchel ei chlod am safonau rhagoriaeth yn y maes hwn. Mae rhaglen y cwrs yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol y mae'n rhaid eu cymryd y naill ar ôl y llall dros bedair blynedd, gyda'r tri chyntaf yn cael eu cyflwyno dros bum penwythnos y flwyddyn, tra bod elfen ddysgu'r modiwl terfynol yn cael ei chyflwyno mewn bloc preswyl 7 niwrnod.
Defnyddir y flwyddyn gyntaf (modiwl Sylfaen) i ddatblygu a dyfnhau eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar personol eich hun ac i ddysgu am ddamcaniaethau allweddol sy'n sail i ymwybyddiaeth ofalgar. O hynny ymlaen, bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael dealltwriaeth fanwl ac ymarfer wrth ddysgu'r cwrs ymwybyddiaeth ofalgar 8 wythnos; hefyd, i gael eu hasesu ar sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn y grŵp dysgu, yn ogystal ag ar eu dealltwriaeth a'u sgiliau mewn dadansoddiad beirniadol o'r damcaniaethau a'r rhesymeg sy'n sail i gyrsiau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Yn y modiwl olaf, Project Dysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar, caiff myfyrwyr eu hasesu trwy eu recordiadau o ddysgu cwrs sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar yn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain, yn ogystal â thrwy waith ysgrifenedig.
Gofynion Mynediad
Fel rheol bydd ymgeiswyr yn meddu ar y canlynol: gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig, yn ogystal â phrofiad personol o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar y ffurf a ddysgir yn Dulliau Gweithredu Ymwybyddiaeth Ofalgar Gofynnwn hefyd eich bod wedi bod ar gwrs MBSR neu MBCT 8 wythnos.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn rhoi hyfforddiant llawn i chi ddod yn athro neu'n athrawes MBSR neu MBCT yn eich cyd-destun proffesiynol eich hun. Mae gennych gyfle i ennill y cymhwyster dysgu ymwybyddiaeth ofalgar uchaf sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd; y Certificate of Competence in Teaching. Cyrsiau sy'n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau proffesiynol ac mae rhai yn datblygu busnesau ac yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn llawn amser.
Ymchwil / Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r rhaglen hon gysylltiadau dysgu ac ymchwil helaeth â chyrff allanol, yn enwedig mewn cysylltiad â defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar mewn cyd-destunau fel gofal iechyd a gofal cymdeithasol, addysg ac yn y gwaith. Defnyddir y cysylltiadau hyn yn llawn i sicrhau bod y rhaglenni'n berthnasol i'r cyd-destunau amrywiol y bydd graddedigion yn ymuno â hwy.