Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl o egwyddorion a phrosesau amaethgoedwigaeth fel rhan o system cynhyrchu bwyd cynaliadwy, gan gynnwys ei gyd-destunau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd yn paratoi myfyrwyr i roi'r ymchwil ddiweddaraf ar waith i feddwl am systemau cynhyrchu cynaliadwy, a bydd yn hwyluso mynediad i yrfaoedd sy'n gysylltiedig ag amaethgoedwigaeth. Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs yn:
- Archwilio agwedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol amaethgoedwigaeth yng nghyd-destun diogelu'r cyflenwad bwyd a'r amgylchedd sy'n newid.
- Astudio sut y gall arferion rheoli amaethgoedwigaeth dethol wella effeithlonrwydd adnoddau a chynaliadwyedd cyffredinol cynhyrchu bwyd.
- Magu persbectif byd-eang i gwestiynu a ellir, a sut y gellir, diwallu'r galw cynyddol am fwyd o adnoddau tir cyfyngedig trwy amaethgoedwigaeth a dwysáu cynaliadwy.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio rhwng 3 a 6 modiwl y flwyddyn, yn dibynnu ar eu statws fel myfyrwyr rhan-amser neu lawn-amser. Ar gyfer y radd Meistr, bydd myfyrwyr yn cwblhau cyfanswm o 6 modiwl a phroject traethawd hir. Mae rhai modiwlau’n orfodol, ac mae eraill yn ddewisol (yn dibynnu ar y galw). Cynghorir darpar ymgeiswyr i drafod eu hopsiynau gyda chyfarwyddwr y rhaglen.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd (Dysgu o bell).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol i gael mynediad i'r cwrs hwn. Byddai gradd is ynghyd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol yn cael ei hystyried, ynghyd â myfyrwyr hŷn heb radd ond gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn swydd o gyfrifoldeb amlwg.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.5 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 6.0) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs