Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw cyflwyno gradd ôl-radd integredig iawn sy'n adeiladu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r arbenigedd ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer symud ymlaen i ymchwil PhD moleciwlaidd meddygol a / neu gyflogaeth mewn diagnosteg foleciwlaidd neu'r diwydiant meddygol.
Bydd graddedigion llwyddiannus wedi datblygu arbenigedd pwnc manwl a set o sgiliau ymarferol allweddol sy'n ofynnol ar gyfer cymhwyso bioleg foleciwlaidd fodern yn llwyddiannus yn y gwyddorau meddygol ac ymchwil feddygol. Bydd graddedigion llwyddiannus hefyd wedi ennill y sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol i addasu ac optimeiddio methodolegau gwyddonol yn annibynnol, dehongli a gwerthuso'n feirniadol llenyddiaeth a data gwyddonol a gynhyrchwyd a chyhoeddwyd ganddynt eu hunain a defnyddio agwedd hunanddibynnol yn bennaf tuag at waith labordy, astudio ac ymchwil.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen o leiaf gradd BSc cyfwerth â gradd 2.ii yn y DU mewn pwnc gwyddorau biolegol perthnasol. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ymgeiswyr 25 oed neu hŷn sydd â llawer o brofiad gwaith/academaidd perthnasol. Meini prawf iaith Saesneg (o leiaf): IELTS 6.0 yn gyffredinol (dim elfen yn is na 5.5). Asesiad Prifysgol Bangor o hyfedredd Saesneg.
Gyrfaoedd
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau PhD yn ogystal ag i gyflogaeth - rydym wedi lleoli cyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Imperial Llundain, Labordy Sainsbury ym Mhrifysgol East Anglia, Reliance Industries ym Mumbai, India a Siemens Diagnostic Healthcare yn y DU.