Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn i fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf yn yr amgylchedd, ac sydd am gynyddu eu gwybodaeth am faterion cadwraeth. Mae’r cwrs yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â defnydd cynaliadwy o gefn gwlad. Mae’n archwilio cynefinoedd, bywyd gwyllt a thirweddau, a’r ffactorau naturiol a dynol sy’n dylanwadu arnynt. Ar ben hynny, mae’r cwrs yn archwilio’r modd y gellir rheoli gweithgareddau economaidd, megis ffermio a choedwigaeth, mewn modd sy’n dderbyniol o safbwynt yr amgylchedd, a’r modd y gellir cynnwys mwynhad pobl o gefn gwlad o fewn dull integredig o reoli tir.
Mae'r rhan hyfforddedig o'r cwrs yn rhoi cyfle i archwilio ystod eang o bynciau yn fanwl a datblygu sgiliau ac arbenigedd personol.
Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, ysgrifennu ymarferol ac arholiadau ar-lein ac ysgrifenedig. Neilltuir y cyfnod o fis Mehefin i fis Medi ar gyfer cynhyrchu traethawd hir ar bwnc ymchwil a ddewiswyd gennych mewn ymgynghoriad â'ch goruchwyliwr academaidd.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae'r cwrs MSc hwn yn rhan o grŵp ymchwil Cadwraeth ym Mangor, gyda chysylltiadau cryf ag ymchwil sy'n berthnasol i gadwraeth yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae gennym hefyd gysylltiadau ymchwil cryf â llawer o sefydliadau cadwraeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar (RSPB), Coed Cymru, ffermwyr lleol a diwydiannau bwyd.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cadwraeth a Rheoli Tir.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol i gael mynediad i'r cwrs hwn. Anogir ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, sydd â phrofiad perthnasol mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, cadwraeth neu ddefnydd tir. Croesewir ceisiadau gan bobl â chefndiroedd eraill a chânt eu hystyried ar sail unigol.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion wedi cael gwaith gydag asiantaethau cadwraeth, cyrff anllywodraethol a sefydliadau'r llywodraeth a gyda sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor. Mae'r cwrs MSc hwn hefyd wedi cynhyrchu gwyddonwyr o safon uchel ym meysydd newid yn yr hinsawdd, amaethyddiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy a chlefydau anifeiliaid ac iechyd pobl.