Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MSc Cadwraeth a Rheoli Tir i fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf yn yr amgylchedd, ac sydd am gynyddu eu gwybodaeth am faterion cadwraeth. Mae’r cwrs yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â defnydd cynaliadwy o gefn gwlad. Mae’n archwilio cynefinoedd, bywyd gwyllt a thirweddau, a’r ffactorau naturiol a dynol sy’n dylanwadu arnynt. Ar ben hynny, mae’r cwrs yn archwilio’r modd y gellir rheoli gweithgareddau economaidd, megis ffermio a choedwigaeth, mewn modd sy’n dderbyniol o safbwynt yr amgylchedd, a’r modd y gellir cynnwys mwynhad pobl o gefn gwlad o fewn dull integredig o reoli tir.
Mae'r rhan hyfforddedig o'r cwrs yn rhoi cyfle i archwilio ystod eang o bynciau yn fanwl a datblygu sgiliau ac arbenigedd personol.
Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, ysgrifennu ymarferol ac arholiadau ar-lein ac ysgrifenedig. Neilltuir y cyfnod o fis Mehefin i fis Medi ar gyfer cynhyrchu traethawd hir ar bwnc ymchwil a ddewiswyd gennych mewn ymgynghoriad â'ch goruchwyliwr academaidd.
Cysylltiadau â Diwydiant y cwrs MSc Cadwraeth a Rheoli Tir
Mae'r cwrs MSc hwn yn rhan o grŵp ymchwil Cadwraeth ym Mangor, gyda chysylltiadau cryf ag ymchwil sy'n berthnasol i gadwraeth yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae gennym hefyd gysylltiadau ymchwil cryf â llawer o sefydliadau cadwraeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar (RSPB), Coed Cymru, ffermwyr lleol a diwydiannau bwyd.