Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn datblygu'ch dealltwriaeth o ecosystemau coedwigoedd a'u rôl yn yr amgylchedd byd-eang, ac o'r nwyddau a'r gwasanaethau y gall coedwigoedd eu darparu. Gall y cwrs fod â ffocws tymherus neu drofannol, yn dibynnu ar yr elfennau dewisol a ddewisir.
Mae'r rhan hyfforddedig o'r cwrs yn rhoi cyfle i archwilio ystod eang o bynciau yn fanwl a datblygu sgiliau ac arbenigedd personol. Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, ysgrifennu ymarferol ac arholiadau ar-lein ac ysgrifenedig.
Neilltuir y cyfnod o fis Mehefin i fis Medi ar gyfer cynhyrchu traethawd hir ar bwnc ymchwil a ddewiswyd gennych mewn ymgynghoriad â'ch goruchwyliwr academaidd. Gall traethodau hir fod â ffocws tymherus neu drofannol, a gallant gynnwys gwaith maes naill ai'n lleol, mewn mannau eraill yn y DU, neu dramor.
Cysylltiadau  Diwydiant
Mae Bangor wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer ymchwil Coedwigaeth ers blynyddoedd lawer, ac mae gan y Brifysgol gysylltiadau parhaus a chynhyrchiol ag ystod amrywiol o sefydliadau yn Affrica, Asia, Ewrop ac America. Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan Sefydliad Coedwigwyr Siartredig y DU (ICF) ac mae'n gwneud myfyrwyr yn gymwys am aelodaeth gyswllt.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Coedwigaeth Amgylcheddol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol. Fel arall, gellir derbyn gradd gyntaf mewn pwnc anghysylltiedig ynghyd â phrofiad ymarferol perthnasol. Caiff ymgeiswyr eu barnu yn ôl eu teilyngdod unigol, ac ystyrir eu hoedran, profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.
Gyrfaoedd
Yn erbyn cefndir economaidd tywyll weithiau, mae rheoli adnoddau naturiol, a rheoli coedwigoedd yn benodol, yn dod yn fwyfwy pwysig, a chanlyniad hyn yw bod prinder sgiliau a gydnabyddir yn gyffredinol yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae pa mor gyflym y mae ein graddedigion yn cael gwaith yn adlewyrchu hyn. Mae graddedigion o'r cwrs hwn wedi symud ymlaen i gyflogaeth berthnasol mewn sefydliadau sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor. Mae'r cwrs MSc hwn hefyd yn ffordd dda o symud ymlaen mewn ymchwil ôl-radd, ac mae wedi cynhyrchu gwyddonwyr ymchwil o safon uchel ym meysydd bioleg coed, gwyddor coedwigoedd, a rheoli adnoddau naturiol.