Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac mae’n cyflawni gofynion mynediad i Aelodaeth Broffesiynol yn rhannol.
Rhaglen integredig o'r radd flaenaf dros gyfnod o ddwy flynedd yw’r cwrs sydd â'r nod o gymhwyso graddedigion i ymdrin â'r heriau enfawr sy'n wynebu coedwigoedd trofannol. Mae'r staff addysgu yn ymchwilwyr brwd a bydd y myfyrwyr yn elwa o'n cysylltiadau niferus ledled y byd.
Cynigir y cwrs gan gonsortiwm o bum prifysgol yn Ewrop:
- Cyfadran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Copenhagen, Denmarc
- Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd.
- Prifysgol Technoleg Dresden, Sefydliad Cynnyrch Coedwigaeth a Choedwigoedd Rhyngwladol, Tharandt, yr Almaen
- AgroParisTech (Sefydliad Technoleg Bywyd, Bwyd a Gwyddorau’r Amgylchedd Paris), Montpellier, Ffrainc
- Coleg Amaethyddiaeth, Prifysgol Padova, Padova, yr Eidal.
Caiff blwyddyn gyntaf y cwrs ei threulio yn astudio yn un o dri sefydliad (Bangor, Copenhagen, Dresden) a chaiff yr ail flwyddyn ei threulio yn arbenigo mewn pynciau gwahanol a gynigir gan y pum sefydliad. Mae'n ofynnol i'r myfyrwyr dreulio'r ail flwyddyn mewn prifysgol wahanol i’r flwyddyn gyntaf. Nod y flwyddyn gyntaf yw cynnig cyflwyniad trylwyr ac eang i goedwigaeth drofannol gynaliadwy. Mae'r deilliannau dysgu yn debyg ar gyfer y tri sefydliad yn y flwyddyn gyntaf ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis fel y mynnant o blith y pum opsiwn arbenigol yn yr ail flwyddyn. Daw’r flwyddyn gyntaf gyda Modiwl ar y Cyd yr Haf sy’n cynnwys gwaith maes mewn gwlad drofannol.
Yr opsiynau ar gyfer arbenigo yn yr ail flwyddyn yw:
- Systemau amaethgoedwigaeth (Bangor)
- Economeg gymdeithasol coedwigaeth drofannol (Copenhagen)
- Rheoli coedwigoedd trofannol (Dresden)
- Rheolaeth amgylcheddol a pholisïau ar gyfer coedwigoedd trofannol (Montpellier)
- Moeseg mewn coedwigaeth a masnach gyfrifol yng nghynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd trofannol (Padova).
I gael gradd ddwbl mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy ynghyd â Diploma Ychwanegol bydd y myfyrwyr yn gwneud 120 o gredydau drwy astudio mewn dau o sefydliadau’r Consortiwm gan wneud o leiaf 60 credyd ym mhob un. Gellir cwblhau holl weithgareddau modiwlaidd y rhaglen yn Saesneg, ac eithrio'r ail flwyddyn ym Montpellier sydd ar gael yn Ffrangeg yn unig.
Dyfernir y graddau canlynol: MSc mewn Coedwigoedd a Bywoliaethau yn Copenhagen, MSc mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy ym Mangor, MSc mewn Coedwigaeth Drofannol yn Dresden, MSc mewn Gwyddorau Amaethyddol, gan arbenigo mewn Rheolaeth Amgylcheddol dros Ecosystemau a Choedwigoedd Trofannol ym Montpellier, ac MSc mewn Coedwigaeth a Gwyddorau’r Amgylchedd yn Padova.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth fanwl am y Radd Meistr mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Yn y 5 uchaf am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (Tabl Cynghrair The Complete University Guide 2021).
- Mae'r ysgol yn 7ed yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil (Amaethyddiaeth a Choedwigaeth - The Complete University Guide 2021).
Cyllid
Disgwylir y bydd tua 20 o ysgoloriaethau Erasmus Mundus ar gael i fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd a thrydydd gwledydd
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Gorfodol Bangor:
Asesu Adnoddau Coedwigoedd: Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i adnoddau a pholisi coedwigoedd ledled y byd.
Coedwriaeth: Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o goedwriaeth a rheoli coedwigoedd a rhyngweithiad systemau rheoli â'r amgylchedd ffisegol. Elfen gyffredin yw archwilio'r systemau a’r ymyriadau coedwriaethol a ddefnyddir i wireddu cyflwr dymunol y goedwig yn y dyfodol.
Cyfathrebu a Chynllunio Ymchwil: Amcan y modiwl hwn yw cefnogi’r gwaith o gynllunio traethawd hir ac annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am y broses ymchwil.
Newid yn yr Hinsawdd a Choedwigaeth Drofannol - Monitro a Pholisïau: Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar drafodaethau poblogaidd am y berthynas rhwng newid yn yr hinsawdd, coedwigoedd a bywoliaeth.
Paratoi Gwaith Maes yn y Trofannau: Mae'r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth ffeithiol, fanwl, lleoliad-benodol sy'n berthnasol i faterion coedwigaeth yn y trofannau.
Ysgol Haf Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy: Mae'r modiwl hwn yn cymhwyso dulliau casglu a gwerthuso data yn y maes.
Systemau ac Ymarfer Amaethgoedwigaeth: Mae'r modiwl yn cyflwyno'r cysyniadau y tu ôl i'r system defnydd tir hon, a'r ffyrdd y mae'n cael ei defnyddio ar draws y byd. Y pynciau sy’n cael sylw yw egwyddorion rhyngweithiadau ecolegol a bioffisegol, a'r manteision cymdeithasol ac economaidd a’r manteision i’r ecosystem.
Rheoli Adnoddau Naturiol: Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i fyfyrwyr o'r dull systemau o reoli adnoddau naturiol i ddarparu gwasanaethau ecosystemau amrywiol, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol o'r ffyrdd y gall rheolwyr adnoddau naturiol dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth iddynt hwythau ac eraill gael gwybod am effeithiau ymyriadau rheoli tir.
Modiwlau Dewisol:
Mae’r dewis o fodiwlau dewisol yn dibynnu ar ble y dewisir treulio’r ail flwyddyn. Mae manylion modiwl llawn y sefydliadau partner ar gael trwy ddilyn y cysylltiadau canlynol: Prifysgol Copenhagen, Denmarc; AgroParisTech-ENGREF, Ffrainc; Prifysgol Dechnoleg Dresden, yr Almaen; Prifysgol Padova, yr Eidal.
Gofynion Mynediad
Y prif feini prawf ar gyfer dewis myfyrwyr yw: gradd israddedig dda; CV yr ymgeisydd; dogfennaeth yn dangos hyfedredd mewn Saesneg (a Ffrangeg os yw'n dewis Montpellier); datganiad cymhelliant personol yr ymgeisydd; dau eirda, ac un ohonynt o leiaf yn un academydd.
Gyrfaoedd
Gwneud Cais
Gwnewch gais drwy wefan SUTROFOR