Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi hyfforddiant i chi mewn rheoli adnoddau coedwigoedd, dealltwriaeth o'r egwyddorion gwyddonol, academaidd ac ymarferol sy'n sail i reoli coedwigoedd, a swyddogaeth ecosystemau coedwigoedd a'r gydberthynas rhwng coedwigoedd y llywodraeth, diwydiant a chymunedau a'r defnydd tir cysylltiedig.
Gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn un o ddwy 'elfen' gradd benodol. Mae'r elfen Ecoleg a Rheolaeth wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â mwy o ddiddordeb mewn ecoleg a gwyddoniaeth (gan gynnwys mathemateg) tra bod yr elfen Coed, Coedwigoedd a Phobl yn apelio at yr ymgeiswyr hynny sy'n awyddus i ddysgu mwy am y gydberthynas rhwng coedwigoedd a chymdeithas.
Cysylltiadau  Diwydiant
Mae cysylltiad agos rhwng y cwrs hwn a phob agwedd ar y diwydiant coedwigoedd, yn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Anogir myfyrwyr i chwilio am gyfleoedd a gwneud eu cysylltiadau eu hunain sy'n ymwneud â'u maes diddordeb ac arbenigedd eu hunain, a chânt eu cefnogi yn y broses hon. Mae myfyrwyr ar y cwrs yn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch y newyddion diweddaraf, swyddi, lleoliadau a chyfleoedd eraill yn y sector coedwigaeth
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Coedwigaeth (dysgu o bell).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol i gael mynediad. Bydd ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn nad oes ganddynt gymwysterau addysg uwch, ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol, yn cael eu hystyried.
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr cyfredol a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar wedi cael swyddi fel rheolwyr coedwigoedd masnachol, syrfewyr coedwigoedd, ymgynghorwyr ecolegol, cynghorwyr cyllid coedwigaeth ac wedi cychwyn busnesau. Mae rhagolygon gyrfa hefyd yn cynnwys dyrchafiad i'r rheini sydd eisoes yn y proffesiwn coedwigaeth neu broffesiynau cysylltiedig. Mae'r cwrs yn agor nifer o gyfleoedd ar gyfer astudio, teithio, ysgolheictod ac ymchwil, ac anogir myfyrwyr i fanteisio ar y rhain.