Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac yn rhoi cyflawniad rhannol o Fynediad Aelodaeth Broffesiynol.
Ydych chi eisiau cyfrannu at y wybodaeth a'r dystiolaeth sydd ei hangen i greu, rheoli a gwarchod coedwigoedd, coetiroedd a choed? Hoffech chi gael y fraint a'r cyfrifoldeb dros reoli coedwigoedd a choetiroedd er budd cymdeithas, bioamrywiaeth a'r economi? Os felly, ymunwch â'n rhaglen MSc Coedwigaeth, a fydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth i fynd i'r afael â heriau o'r fath. Bydd y radd
MSc Coedwigaeth yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau damcaniaethol, dadansoddol, digidol, rhyngbersonol, a hunan-reoli sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn coedwigaeth a phroffesiynau cysylltiedig.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn addysgu Coedwigaeth ers dros 120 mlynedd a mae ein graddedigion yn gweithio ym maes coedwigaeth a gwyddorau coedwig ledled y byd.
- Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau coedwigaeth ac amgylcheddol yn y DU a thramor, ac mae staff y sefydliadau hyn yn gwneud cyfraniadau rheolaidd at y rhaglen.
- Mae'r rhaglen hon wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac yn rhoi cyflawniad rhannol o Fynediad Aelodaeth Broffesiynol.
- Bydd cyfuniad o gymhwyster MSc Coedwigaeth a phrofiad proffesiynol yn eich galluogi i wneud cais i ddod yn Goedwigwr Siartredig llawn, marc y goedwigwr proffesiynol, a defnyddio'r ôl-enw anrhydeddus 'MICFor'.
Cyfleoedd Ymchwil
Mae cysylltiad agos rhwng y cwrs hwn a phob agwedd ar y diwydiant coedwigoedd, yn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Anogir myfyrwyr i chwilio am gyfleoedd a gwneud eu cysylltiadau eu hunain sy'n ymwneud â'u maes diddordeb ac arbenigedd eu hunain, a chânt eu cefnogi yn y broses hon. Mae myfyrwyr ar y cwrs yn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch y newyddion diweddaraf, swyddi, lleoliadau a chyfleoedd eraill yn y sector coedwigaeth
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r elfen a addysgir (120 credyd) yn cynnwys modiwlau sydd werth 15 credyd ac efallai y bydd yn cynnwys gwaith cwrs a/neu arholiad(au).
Mae'r elfen traethawd hir (60 credyd) yn cynnwys traethawd hir - prosiect ymchwil annibynnol a arweinir gan y myfyriwr, sydd yn gweithio'n agos gydag uwch-diwtor academaidd i gyflwyno eu hymchwil ôl-raddedig o safon uchel eu hunain.
Gall ymgeiswyr nad ydynt yn dymuno astudio am y MSc llawn (180 credyd) gymryd dyfarniadau gadael naill ai o Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma Ôl-raddedig (120 credyd).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Coedwigaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd Anrhydedd israddedig 2(i) mewn pwnc gwyddoniaeth neu dechnoleg perthnasol, fel Bioleg, Garddwriaeth, Amaethyddiaeth, Cyfraith, Economeg, Peirianneg, Gwyddor Amgylcheddol. Bydd ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt gymwysterau addysg uwch ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol ac sydd wedi gweithio am o leiaf 2 flynedd mewn swydd o gyfrifoldeb a pherthnasedd i'r radd hefyd yn cael eu hystyried.
Gofynnir am IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen islaw 5.5).
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar wedi sicrhau swyddi fel rheolwyr coedwigoedd masnachol, syrfewyr coedwigoedd, ymgynghorwyr ecolegol, rheoleiddio coedwigoedd, ymgynghorwyr cyllid coedwigaeth, yn ogystal â rolau adfer coetiroedd a fel busnesau newydd. Mae rhagolygon gyrfaoedd hefyd yn cynnwys dyrchafiad i'r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes coedwigaeth neu broffesiynau cysylltiedig.