Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Amcan y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth fanwl i raddedigion addas o'r dechnoleg, ac ysgogwyr y dechnoleg, ym maes cyfathrebu band eang a symudol. Bydd y cwrs hefyd yn creu cysylltiad â gweithgaredd ymchwil cyfredol yn y maes. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd gennych ddealltwriaeth fanwl o'r arferion a'r cyfarwyddiadau cyfredol yn y pwnc hwn, a byddwch yn gallu eu cymhwyso i'r dasg o barhau i gyflwyno gwasanaethau cyfathrebu uwch ledled y byd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Amcan y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth fanwl i raddedigion addas o'r dechnoleg, ac ysgogwyr y dechnoleg, ym maes cyfathrebu band eang a symudol. Bydd y cwrs hefyd yn creu cysylltiad â gweithgaredd ymchwil cyfredol yn y maes.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfathrebu Band Eang ac Optegol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae'r radd hon wedi'i hanelu at ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Anrhydedd mewn Peirianneg Electronig, Ffiseg neu ddisgyblaeth wyddonol gysylltiedig, ar lefel 2.ii neu uwch neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhyngwladol. Bydd ymgeiswyr sydd â graddau cyntaf mewn disgyblaethau eraill yn cael eu hystyried yn unigol, gyda'r asesiad yn seiliedig ar botensial yr ymgeisydd i lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono.
Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg at lefel IELTS 6.0 yn gyffredinol a dim elfen islaw 5.5. Gellir dilyn cwrs cyn-sesiynol proffesiynol priodol ELCOS (Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor) i gyflawni'r lefel iaith Saesneg ofynnol.
Gyrfaoedd
Gall graddedigion ddisgwyl dod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant cyfathrebu sy'n datblygu'n gyflym, o gylch lleol o ddarparwyr gwasanaeth i gwmnïau rhwydwaith ôl-drosglwyddo data. Bydd gennych sgiliau uwch wrth ddadansoddi a dylunio systemau a chydrannau cyfathrebu band eang, gyda phwyslais arbennig ar gyfathrebu optegol. Bydd y sgiliau hyn yn berthnasol ar unwaith yn y diwydiant cyfathrebu sy'n tyfu fwyfwy bob dydd.