Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Drwy gwblhau pob arholiad ar y cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu cael 11 eithriad o'r CIMA. I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau CIMA ewch i'n tudalen Cydnabyddiaeth ac Achrediadau Proffesiynol.
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Oherwydd newidiadau yn yr amgylchedd busnes mae’n rhaid i unigolion sy'n dymuno cael swyddi fel uwch reolwyr fod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfoes mewn cyfrifeg a chyllid.
Mae’n hanfodol bod rheolwyr yn deall y materion damcaniaethol ac ymarferol hynny oherwydd maent yn aml yn gorfod gwneud penderfyniadau cyflym a phellgyrhaeddol ynglŷn â gweithrediadau ariannol tymor byr a strategaethau tymor hir busnesau.
Mae'r MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn gyfle gwych i ddatblygu gwerthfawrogiad o achosion ac arwyddocâd datblygiadau cyfredol yn y sector ariannol a'r sector corfforaethol, ac i astudio theori ac ymarfer uwch sy'n ymwneud â chyfrifeg a chyllid.
Nod y rhaglen yw darparu i raddedigion, ac unigolion eraill sydd wedi cael hyfforddiant ymarferol mewn cyfrifeg chyllid, yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddilyn gyrfa broffesiynol ar lefel uwch mewn cyfrifeg, gwasanaethau ariannol neu sectorau perthnasol o'r economi.
Ymhlith y materion y byddwch yn mynd i’r afael â nhw fel rhan o raglen radd yr MSc Cyfrifeg a Chyllid mae:
- Sut mae cyfrifon ariannol cwmnïau’n cael eu llunio, a sut maen nhw'n wahanol ymhlith awdurdodaethau?
- Pa faterion asiantaethol sy'n bwysig wrth greu cyfrifon cwmni?
- Sut mae theori cyfrifeg yn dylanwadu ar arferion cyfrifeg ariannol a rheoli?
- Sut mae rheoleiddio’n effeithio ar berfformiad cwmnïau, a sut mae arferion cyfrifeg yn rhoi sylw i wireddu elw a/neu golled?
- Pa dechnegau empirig y gellir eu defnyddio i werthuso perfformiad cwmni?
- Ym mha ffyrdd y dylanwadodd methiannau cwmnïau diweddar ar ofynion cyfrifeg ariannol ac archwilio?
- Beth yw'r berthynas rhwng risg ac elw sy'n rheoli buddsoddiad mewn cyfranddaliadau cwmni ac offerynnau deilliadol eraill?
- Pa ffactorau sydd fwyaf tebygol o ddylanwadu ar werthuso a gweithredu projectau buddsoddi rhyngwladol?
- Sut gallwn ni gyfrifo cost cyfalaf addas i arfarnu'r penderfyniad buddsoddi cyfalaf?
- Sut ddylai buddsoddwyr sefydliadol fynd ati i lunio portffolio o asedau i sicrhau’r enillion mwyaf posibl i’r buddsoddwyr?
- Sut mae dyfodol, opsiynau, deilliadau a chyfnewidiadau yn cael eu defnyddio i reoli risgiau mantolen a di-fantolen?
- Beth yw egwyddorion allweddol rheoli portffolio rhyngwladol mewn byd o symudiadau cyflym ac anrhagweladwy mewn cyfraddau cyfnewid?
- Sut mae defnyddio rhagolygon ariannol i brisio busnesau, a pha dechnegau y dylid eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau a chymharu cwmnïau’n well?
Gyda'r anghenion hynny mewn golwg, cafodd rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid Bangor ei chynllunio i ddatblygu sgiliau presennol y cyfranogwyr trwy gynllun astudiaeth uwch arbenigol. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i bawb, fel y byddant yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy'n ymwneud â chyfrifeg a chyllid. Mae'r rhaglen yn darparu fframwaith damcaniaethol cydlynol i’r gwahanol feysydd pwnc, ond mae'r pwyslais drwyddi draw ar ddefnyddio technegau cyfrifeg a thechnegau ariannol yn ymarferol yng nghyd-destun y byd go iawn.
Strwythur y Cwrs
Myfyrwyr newydd mis Ionawr: Ymgymerir â’r modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin a rhwng Mis Medi a mis Ionawr a byddant yn astudio 120 o gredydau. Mae'r traethawd hir (neu broject cyfatebol) yn werth 60 credyd ac ymgymerir â hwnnw yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Myfyrwyr newydd mis Medi: Ymgymerir â’r modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Mehefin a byddant yn cynnwys 120 o gredydau. Mae'r traethawd hir (neu broject cyfatebol) yn werth 60 o gredydau ac ymgymerir â hwnnw yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw’r cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna’n cael hyfforddiant arbenigol i’w paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan Fitch Learning, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu’n cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd â dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r CFA Institute.
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar ôl i chi gyrraedd Bangor. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag owain.apgwilym@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol:
Dulliau Ymchwil: Mae'r modiwl yn datblygu gwybodaeth am ddulliau ymchwil canolradd ac uwch, ac mae’n cynnig sylfaen mewn methodoleg ymchwil i'r rheini sy’n bwriadu dilyn graddau ymchwil yn y pen draw.
Theori Cyfrifeg: Mae'r modiwl yn gwerthuso'n feirniadol set eang o theorïau sy'n esbonio ymddygiad cyfrifeg ac allbwn rheoleiddio cyfrifeg.
Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol: Mae'r modiwl yn rhoi trosolwg o’r offerynnau ariannol mewn byd aml-arian-cyfred, ac mae’n ystyried damcaniaeth portffolio o ran y berthynas rhwng risg ac adenillion, arallgyfeirio risg, a phrisio asedau.
Adrodd a rheoleiddio Ariannol Uwch: Mae'r modiwl yn cynnig ymdriniaeth fanwl o'r prif egwyddorion damcaniaethol sy'n sail i adrodd ariannol, a goblygiadau ymarferol cyfundrefnau rheoleiddio amgen.
Dadansoddi Ariannol: Mae'r modiwl yn dadansoddi'r technegau a ddefnyddir i werthuso sefyllfa a pherfformiad ariannol cwmnïau.
Cyfrifeg a Rheolaeth: Mae’r modiwl yn cynnig dealltwriaeth o ddefnydd data ariannol wrth fesur a gwerthuso perfformiad busnes, ac o osod nodau strategol y sefydliad.
Modiwlau Dewisol (dewis 2):
Moeseg a Rheoleiddio Ariannol: Mae'r modiwl yn ystyried moeseg ariannol ac ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol o ran rheoleiddio busnes. Mae'n rhoi sylw i nifer o bryderon ynghylch ymarfer moesegol gwael yn y gwasanaethau ariannol, moeseg busnes a sut mae sicrhau arferion moesegol yn y maes ariannol.
Rheoli Strategaeth a Phortffolio Buddsoddi: Mae'r modiwl yn gwerthuso datblygiad strategaethau buddsoddi ar gyfer marchnadoedd bondiau, sydd wedi'u cynllunio i gyflawni'r canlyniadau o ran y risg-adenillion gorau posibl, ac mae’n ystyried sut mae mesur a gwerthuso perfformiad portffolio o fuddsoddiadau.
Rheolaeth Ariannol Ryngwladol: Mae’r modiwl yn ymdrin â rheolaeth ariannol dros gwmnïau amlwladol, a dylanwad amgylcheddau macro-economaidd, cyllidol, arian cyfred a gwleidyddol ar brosesau gwneud penderfyniadau busnes a phenderfyniadau ariannol mewn cyd-destun rhyngwladol a byd-eang.
Rheoli Strategaeth a Phortffolio Buddsoddi: Mae'r modiwl yn gwerthuso datblygiad strategaethau buddsoddi ar gyfer bondiau, ecwitïau a’r deilliadau sydd wedi'u cynllunio i gyflawni'r canlyniadau o ran y risg-adenillion gorau posibl, ac mae’n ystyried sut mae mesur a gwerthuso perfformiad portffolio o fuddsoddiadau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifeg a Chyllid.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon ein graddedigion yn rhagorol os ydynt am ddilyn gyrfa mewn ystod eang o swyddogaethau yn sectorau'r economi fyd-eang gan gynnwys cyfrifeg, busnes, bancio a chyllid. Mae pwyslais y rhaglenni ar sicrhau dealltwriaeth ymarferol yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y sectorau uchod. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol wrth gynnal ymchwil annibynnol ac wrth weithio mewn tîm.
Mae gan raddedigion Ysgol Busnes Bangor record lwyddiannus o ran cyflogadwyedd ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi mewn swyddi uwch ledled y byd, o Stryd Downing a'r Deutsche Bank i Accenture Luxembourg ac Awdurdod Ariannol Ynysoedd y Caiman.