Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen MSc Cyfrifiadureg ar gyfer Gwyddor Data sydd wedi'i hysbrydoli gan ymchwil o'r radd flaenaf a gydnabyddir yn rhyngwladol yn ychwanegu Gwyddor Data a sgiliau cyfrifiadurol cysylltiedig eraill at gymhwyster sy'n bodoli eisoes. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar bynciau a all gynorthwyo wrth drin a dadansoddi data gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol cyfoes (megis dysgu peirianyddol). Mae'r llwybr hwn yn ychwanegu sgiliau llythrennedd digidol a data sydd eu hangen i gyrraedd at amrywiaeth o yrfaoedd Economi Data.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar bynciau a all gynorthwyo wrth drin a dadansoddi data gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol cyfoes (megis dysgu peirianyddol). Mae'r llwybr hwn yn ychwanegu sgiliau llythrennedd digidol a data sydd eu hangen i gyrraedd at amrywiaeth o yrfaoedd Economi Data.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifiadura ar gyfer Gwyddor Data.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig gydnabyddedig o leiaf trydydd dosbarth, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.