Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MSc Cyfrifiadureg Gyffredinol yn darparu llwybr i Gyfrifiadureg a gyrfaoedd cysylltiedig i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth. Mae'r rhaglen hon yn rhoi'r dewis ehangaf o bynciau a modiwlau i fyfyrwyr i gefnogi diddordeb cyffredinol mewn defnyddio cyfrifiaduron yn eu disgyblaeth wreiddiol. Bydd myfyrwyr yn ymdrin â theori sylfaenol a sgiliau ymarferol i'w galluogi i wneud defnydd priodol o dechnoleg gyfrifiadurol. Rhoddir sylw hefyd i thema proffesiynoldeb a moeseg ar gyfer cyfrifiadura fel y gall myfyrwyr ddeall pryderon a gwneud dewisiadau priodol yn eu hymarfer yn y dyfodol. Caiff pob un o'r modiwlau eu haddysgu gan arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi'r dewis ehangaf o bynciau a modiwlau i fyfyrwyr i gefnogi diddordeb cyffredinol mewn defnyddio cyfrifiaduron yn eu disgyblaeth wreiddiol. Bydd myfyrwyr yn ymdrin â theori sylfaenol a sgiliau ymarferol i'w galluogi i wneud defnydd priodol o dechnoleg gyfrifiadurol. Rhoddir sylw hefyd i thema proffesiynoldeb a moeseg ar gyfer cyfrifiadura fel y gall myfyrwyr ddeall pryderon a gwneud dewisiadau priodol yn eu hymarfer yn y dyfodol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifiadura.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig gydnabyddedig o leiaf trydydd dosbarth, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.