Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs Cyfrifiadureg Uwch yn adeiladu ar sylfeini rhaglen israddedig Cyfrifiadureg, yn astudio pynciau ar lefel uwch fel cyfrifiadureg perfformiad uchel a realiti estynedig/cymysg/rhithwir. Mae myfyrwyr yn ymchwilio i waith mewnol y technolegau hyn ac yn dysgu sut i'w defnyddio ar gyfer rhaglenni'r genhedlaeth nesaf. Cefnogir hyn i gyd gan ein hymrwymiad parhaus i broffesiynoldeb a moeseg, fel y gall y genhedlaeth nesaf wneud y dewisiadau mwyaf priodol wrth ddefnyddio technoleg i ymdrin â phroblemau'r byd.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifiadureg Uwch.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig gydnabyddedig mewn Cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig gydag o leiaf ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfatebol rhyngwladol.
Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg gydag IELTS ar lefel 6.0, heb gynnwys yr un gydran islaw 5.5.
Gyrfaoedd
Mae Cyfrifiadureg ym Mangor wedi bod ymhlith prifysgolion gorau'r DU yn gyson o ran cyflogadwyedd yn ôl tablau cynghrair. Mae Cyfrifiadureg yn helpu i feithrin cydweithio â chwmnïau TG lleol. Mae llawer o gyfleoedd hefyd yn y diwydiant TG mewn sawl sector oherwydd presenoldeb nifer uchel o gwmnïau TG a busnesau bach a chanolig yn lleol.number of IT companies and SMEs locally.