Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bwriedir i'r cwrs Datblygiad Peiriannau alluogi graddedigion o faes Seicoleg a meysydd cysylltiedig i ychwanegu at eu sgiliau gyda dulliau avant-garde o feysydd Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol, Seicoleg Wybyddol a Niwrowyddoniaeth.
Dylanwadwyd yn fawr ar y rhaglen hon gan ymchwil o'r ddwy ddisgyblaeth a chaiff ei chyflwyno trwy addysgu sydd wedi ennill safon aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu gan arbenigwyr yn y maes. Mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i elwa o'r ddwy ddisgyblaeth er mwyn symud ymlaen ar y llwybr gyrfa o’u dewis.
Ceir ymdeimlad cryf o broffesiynoldeb a moeseg trwy gydol y rhaglen, sy’n amlygu natur sensitif y pwnc dan sylw.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Datblygiad Peiriannau.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf gradd israddedig gydnabyddedig trydydd dosbarth, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.