Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cyflwynir ein dysgu yn yr arddull ryngweithiol, gyfranogol, gydweithredol a ddefnyddir wrth ddysgu dulliau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn cyd-destunau eraill. Mae opsiwn i astudio modiwlau a fydd yn arwain at ennill 'The Certificate of Competence in Teaching MBSR/MBCT’. Sef yr ardystiad uchaf i athrawon yn y DU ar hyn o bryd.
Bwriad y radd MSc/MA mewn Dulliau Gweithredu Ymwybyddiaeth Ofalgar yw rhoi sylfaen wybodaeth brofiadol a damcaniaethol gadarn i chi fel sail i ymarfer proffesiynol, addysgu ac ymchwil yn y maes hwn. Mae'r cwricwlwm wedi ei gynllunio i ymestyn eich profiad personol o'r arfer o ymwybyddiaeth ofalgar, gwybodaeth am MBAs, a'ch sgiliau a'ch dealltwriaeth wrth ddysgu'r rhain.
Hyd y Cwrs
Rhaglen Meistr ran-amser yw hon, gyda'r rhan fwyaf o'r modiwlau 30 credyd yn cael eu dysgu dros bum penwythnos, wedi eu gwasgaru ar draws y flwyddyn academaidd. Gellir cwblhau'r radd Meistr lawn mewn 3 blynedd, neu hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf.
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Fel rheol bydd ymgeiswyr yn meddu ar y canlynol: gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig, yn ogystal â phrofiad personol o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar y ffurf a ddysgir mewn Dulliau Gweithredu Ymwybyddiaeth Ofalgar Gofynnwn hefyd eich bod wedi bod ar gwrs MBSR neu MBCT 8 wythnos.
Gyrfaoedd
Gallai'r cwrs hwn eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa mewn sawl ffordd. Mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau proffesiynol ac mae rhai yn datblygu busnesau ac yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn llawn-amser. Gall myfyrwyr ddewis mynd ymlaen i astudiaeth ôl-radd bellach gan arwain at PhD. I weithwyr proffesiynol cymwys ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu addysg, mae'r cwrs yn cynnig cyfle cyffrous am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Ymchwil / Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r rhaglen hon gysylltiadau dysgu ac ymchwil helaeth â chyrff allanol, yn enwedig mewn cysylltiad â defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar mewn cyd-destunau fel gofal iechyd a gofal cymdeithasol, addysg ac yn y gwaith. Defnyddir y cysylltiadau hyn yn llawn i sicrhau bod y rhaglenni'n berthnasol i'r cyd-destunau amrywiol y bydd graddedigion yn ymuno â hwy.
Gwneud Cais
Our system is open all year round to apply.
If we fill the course for a particular year we will then close applications for that year and make that clear on our website.
We start interviewing around January each year.
Please note that this course is part-time and so will not enable students to get a student visa to the UK. International students who apply will have to independently arrange visas to allow them to attend the teaching days over a 3-5 year period.