Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Esblygodd yr MSc mewn Geowyddoniaeth Fôr Gymhwysol o'i ragflaenydd, y cwrs Geotechneg Fôr a oedd â thraddodiad hir o 30 mlynedd.
Lluniwyd cyfres o fodiwlau i egluro'r prosesau sy'n ffurfio ac yn nodweddu amrywiaeth eang o amgylcheddau gwaddodol, o'r arfordir i'r cefnfor dwfn. Mae'r rheolaethau hynny'n amrywio o'r rhai deinamig, cemegol, hinsoddol i ddaearegol; mae cysylltiad rhwng pob un ohonynt. Rydych chi hefyd yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau arolygu er mwyn mapio'r amgylcheddau hyn, a thrwy hynny'n cael gwell dealltwriaeth o'r prosesau sy'n eu llunio. Mae agwedd olaf y cwrs yn cynnwys esboniad o sut mae'r deunyddiau gwaddodol hyn yn ymateb i lwythi gosodedig - sut maen nhw'n ymddwyn yn geodechnegol.
Cysylltiadau  Diwydiant
Yn nodweddiadol, mae cwmnïau'n gwneud cyflwyniadau trwy gydol y flwyddyn ac weithiau'n cynnal cyfweliadau yn yr Ysgol. Cynhelir cwrs byr gan ymarferydd proffesiynol yn semester 2. Mae gan lawer o brojectau ymchwil bartneriaid project diwydiannol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Geowyddoniaeth Môr Gymhwysol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, mae gan ymgeiswyr llwyddiannus radd Anrhydedd isradd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu maent yn disgwyl cael gradd o'r fath. Anogir ymgeiswyr o feysydd pwnc eraill yn y gwyddorau (BSc), neu sydd â phrofiad o waith cyflogedig perthnasol, i wneud cais, ar yr amod eu bod yn gallu dangos lefelau uchel o gymhelliant a phrofiad yn eu Datganiad Personol a'u CV.
IELTS: Gofynnir am 6.0 (heb gynnwys yr un elfen o dan 5.5).
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn dod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant datblygu alltraeth (olew, nwy, ynni adnewyddadwy), cwmnïau contract geoffisegol (yn enwedig y rhai sy'n gwasanaethu contractwyr peirianneg), byrddau afonydd a harbwr, y diwydiant cloddio mwynau mâl yn y môr, a labordai'r llywodraeth. Gall y cwrs hwn hefyd fod yn fodd o ganiatáu i raddedigion mewn gwyddoniaeth bur fynd ymlaen i ymchwil ôl-raddedig mewn geowyddorau môr. Yn nodweddiadol, bydd myfyrwyr wedi sicrhau cyflogaeth erbyn dechrau'r haf yn ystod y cwrs. Dros y degawd diwethaf, sicrhaodd tua thri chwarter waith mewn swydd geo-gysylltiedig, ac aeth y gweddill ymlaen i ymchwil bellach (PhD).