Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Sefydlwyd y radd Meistr mewn Gwarchod Amgylchedd Môr yn 1988, ac mae wedi datblygu enw da dros ddegawdau am ei hyfforddiant amlddisgyblaethol o ansawdd uchel mewn materion amgylcheddol y môr cymhwysol. Mae'r cwrs yn adnabod bygythiadau amrywiol i systemau cynnal bywyd y ddaear trwy ystod o effeithiau anthropogenig, o ddinistrio cynefin, llygredd, a gor-ecsbloetio adnoddau, i effaith fyd-eang newid yn yr hinsawdd. Mae'n bwysicach nag erioed rhagweld effeithiau. Mae'r cwrs yn rhoi sgiliau maes a thechnegau a thechnolegau uwch i fyfyrwyr sydd eu hangen i weithredu yn amgylchedd y môr, sgiliau meintiol i asesu adnoddau a rhagfynegi bygythiadau, dealltwriaeth realistig o lywodraethu a masnach y môr; a sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol i gydweithio i ddod â'u canfyddiadau gerbron y rhai sy'n gwneud penderfyniadau fel bod datblygu yn y dyfodol yn gynaliadwy.
Cysylltiadau  Diwydiant
Mae cysylltiadau â chyrff allanol yn adlewyrchu diddordebau ymchwil amrywiol, pur a chymhwysol staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae'r cysylltiadau hyn yn dod â nifer o gyfleoedd ar gyfer projectau ymchwil yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwarchod Amgylchedd y Môr.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae mynediad i'r MSc/Diploma Gwarchod Amgylchedd y Môr yn gofyn am radd Anrhydedd israddedig dda mewn maes pwnc perthnasol. Anogir ymgeiswyr o feysydd pwnc eraill yn y gwyddorau, neu sydd â phrofiad o waith cyflogedig perthnasol, i wneud cais, ar yr amod eu bod yn gallu dangos tystiolaeth o gymhelliant a phrofiad yn eu Datganiad Personol a'u CV.
IELTS: Gofynnir am 6.5 (heb gynnwys yr un elfen o dan 6.0).
Gyrfaoedd
Mae graddedigion wedi cael ystod amrywiol o gyflogaeth ac fel rheol yn dod o hyd i gyflogaeth mewn addysg uwch ac ymchwil. Dyma enghreifftiau: Cynorthwyydd ymchwil ac ymchwil PhD mewn Gwyddorau môr amgylcheddol yn y DU a thramor; addysgu (e.e. gwyddorau amgylcheddol mewn ysgolion a chanolfannau gweithgareddau); sector preifat (e.e. cwmnïau ac ymgynghoriaethau sy'n arbenigo mewn arolygu morol ac asesu effaith amgylcheddol, dyframaeth, diwydiant olew, twristiaeth a hamdden); ffurfio'u busnesau eu hunain (e.e. ym maes ymgynghoriaeth amgylcheddol forol); sector cyhoeddus (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaethau Cadwraeth Natur, CEFAS, Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr, Partneriaethau Llywodraeth Leol a Chynghorau Sir, a sefydliadau tebyg dramor); sefydliadau anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddol (e.e. Cronfa Byd-eang ar gyfer Natur, Greenpeace, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth).