Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MSc.Gwyddor Data Uwch yn galluogi graddedigion o raglenni israddedig Cyfrifiadureg neu Wyddor Data i ehangu a dyfnhau eu sgiliau a'u gwybodaeth am reoli, prosesu a dadansoddi data. Mae'r llwybr hwn hefyd yn caniatáu llwybr i arbenigo eu profiad Cyfrifiadureg gan ganiatáu gyrfaoedd mewn deallusrwydd busnes, dadansoddeg data mawr, neu ymchwil a datblygu. Mae'r rhaglen yn rhannu'r un ymrwymiad i broffesiynoldeb a defnyddio data a thechnoleg yn foesegol. Mae'r delfrydau hyn yn hollbwysig wrth inni fynd mewn i Chwyldro Diwydiannol 4.0 a'r defnydd cynyddol o ddata i ddiffinio bywyd bob dydd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen yn rhannu'r un ymrwymiad i broffesiynoldeb a defnyddio data a thechnoleg yn foesegol. Mae'r delfrydau hyn yn hollbwysig wrth inni fynd mewn i Chwyldro Diwydiannol 4.0 a'r defnydd cynyddol o ddata i ddiffinio bywyd bob dydd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Data Uwch.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig gydnabyddedig mewn Cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig gydag o leiaf ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfatebol rhyngwladol.
Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg gydag IELTS ar lefel 6.0, heb gynnwys yr un gydran islaw 5.5.