Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bwriad y cynllun gradd modiwlaidd hwn yw galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu eu diddordeb israddedig mewn hanes, ac i ddatblygu’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud ymchwil pellach i'r gorffennol. Mae'n cyfuno hyfforddiant mewn technegau ymchwil a dadansoddi damcaniaethol a hanesyddiaethol, gydag ystod eang o gyrsiau hyfforddedig, modiwlau sgiliau a thraethawd hir dan oruchwyliaeth. Ceir dewis o fodiwlau arbenigol sy'n ymdrin ag ystod o gyfnodau, o’r oesoedd canol i hanes cyfoes, sy'n cyd-fynd â diddordebau ymchwil y staff addysgu.
Nod y rhaglen hon yw cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faes academaidd penodol trwy hyfforddiant ymchwil trylwyr. Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â materion damcaniaethol hanesyddol perthnasol a dulliau o ddehongli a defnyddio tystiolaeth. Mae hefyd yn rhoi'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i fyfyrwyr gynhyrchu darn gwreiddiol o ymchwil hanesyddol mewn maes astudio o'u dewis, a hynny dan oruchwyliaeth gefnogol.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser; Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhoddir MA ar ôl cwblhau’r 180 credyd i gyd yn llwyddiannus. Dyfernir Diploma ar ôl cwblhau’r 120 credyd cyntaf yn llwyddiannus.
Rhan Un:
Yn rhan gyntaf y rhaglen MA, mae gofyn i bob myfyriwr astudio cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol.
Mae'n rhaid i bob myfyriwr astudio'r modiwlau gorfodol canlynol:
- Themâu a Materion mewn Hanes (20 credyd): Mae’r modiwl hwn yn annog dealltwriaeth o syniadau a dadleuon cyfredol trwy drafodaeth fanwl a beirniadol, ac mae hefyd yn ymgysylltu â chyd-destun damcaniaethol ac athronyddol gwahanol ddulliau. Bydd trafodaethau'n cael eu seilio ar enghreifftiau penodol, lle bo’n briodol, a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymhwyso'r syniadau a'r beirniadaethau i amrywiaeth o wahanol astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol a'r gallu i gymryd rhan mewn dadleuon ar faterion dehongli a methodoleg
- Sgiliau Ymchwil (40 credyd): Mae hwn yn fodiwl sgiliau lefel uwch sydd â thri nod: hyfforddi myfyrwyr i ddechrau projectau ymchwil, eu hymgyfarwyddo â sut i feirniadu papur seminar ymchwil, a chyflwyno sgiliau iddynt a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn dilyn modiwl dogfennau a ffynonellau 20 credyd sy'n cyflwyno myfyrwyr i ystod eang o fathau o ffynonellau a phroblemau o ran dehongli, trosglwyddo, derbyn a goroesiad ffynonellau. Mae myfyrwyr yn dewis naill ai Dogfennau a Ffynonellau: Canoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar, neu Dogfennau a Ffynonellau: Modern.
Yn ogystal, mae gofyn i fyfyrwyr ddewis dau fodiwl pellach o’r modiwlau sydd ar gael.
Er y gall modiwlau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, mae opsiynau diweddar yn cynnwys:
- Cenhedloedd, Gwladwriaethau ac Ymerodraethau yn y Byd Cyn-fodern
- Ail-ddehongli'r Plasty
- Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a’r Gorffennol
- Lleoliad Gwaith
- Deall y Canol Oesoedd
- Cenedlaetholdeb a Lleiafrifoedd
- Treftadaeth y Byd
- Pobl, Grym a Gweithredu Gwleidyddol: Mudiadau Protest yn Ewrop 1817–1989
Rhan Dau:
Ar ôl cwblhau'r modiwlau sy'n rhan o Ran Un y rhaglen, mae Rhan Dau’n cynnwys Traethawd hir 15,000 i 20,000 o eiriau (60 credyd) ar bwnc o'ch dewis, wedi'i ymchwilio a'i ysgrifennu dan oruchwyliaeth unigol arbenigwr pwnc. Bydd eich traethawd hir yn gosod cwestiynau ymchwil a bydd strwythur yn cael ei benderfynu. Bydd yn disgrifio ac yn dadansoddi’r pwnc a ddewiswyd gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth wreiddiol ac eilaidd berthnasol.
Canllaw yn unig yw'r modiwlau a gallant newid o flwyddyn i flwyddyn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Hanes.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig dda; bydd o leiaf 2.ii yn ofynnol fel arfer.
Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 yn gyffredinol (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Mae MA mewn Hanes yn gymhwyster amlbwrpas a bydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o'r ddisgyblaeth a'r gallu i wneud gwaith ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad hanesyddol. Bydd yn gwella'ch cyfleoedd gyrfa mewn amrywiaeth o broffesiynau yn niwydiannau'r cyfryngau a chyfathrebu, addysgu, treftadaeth ac amgueddfeydd, gweinyddiaeth gyhoeddus, cyhoeddi ac ymchwil. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Hanes yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Hanes, trwy wneud cais am le i astudio am PhD mewn Hanes.