Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bwriedir i'r cwrs Deallusrwydd Artiffisial a Gwyddor Data alluogi graddedigion o faes Seicoleg a meysydd cysylltiedig i ychwanegu at eu sgiliau gyda dulliau avant-garde o feysydd Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol, Seicoleg Wybyddol a Niwrowyddoniaeth.
Mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i elwa o'r ddwy ddisgyblaeth er mwyn symud ymlaen ar y llwybr gyrfa o’u dewis.
Ceir ymdeimlad cryf o broffesiynoldeb a moeseg trwy gydol y rhaglen, sy’n amlygu natur sensitif y pwnc dan sylw.
Gofynion Mynediad
O leiaf gradd israddedig gydnabyddedig trydydd dosbarth, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.