Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MMus Perfformio yn ddelfrydol i berfformwyr offerynnol neu leisiol hyfedr sy'n dymuno gwella eu datblygiad cerddorol ac artistig trwy astudiaeth â ffocws. Ar y rhaglen hon byddwch yn mireinio eich sgiliau technegol a dehongli ar offeryn o’ch dewis neu’r llais. Mae'r MMus Perfformio yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o gyd-destunau cyfoes a hanesyddol sy'n ymwneud ag addysgeg offerynnol neu leisiol, a datblygu llwybrau a methodolegau i ymgymryd ag ymchwil arbenigol sy’n seiliedig ar ymarfer. Byddwch hefyd yn hogi sgiliau lefel uchel o ran meddwl yn feirniadol, meddwl yn gysyniadol, datrys problemau, dadansoddi, cyfathrebu, hunangyfeirio a gwreiddioldeb.
Byddwch yn gweithio'n glos â chyfansoddwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol.
Mae astudio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn gweithgareddau perfformio cyhoeddus unigol ac ensemble ac mae cysylltiadau clos â phartneriaid mewn diwydiant a’r trydydd sector megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinffonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Stiwdios Ffilm Aria, Canolfan Celfyddydau Pontio, Venue Cymru, Canolfan Celfyddydau Ucheldre, Canolfan Gerdd William Mathias, Cadeirlan Bangor, Gŵyl Gerdd Bangor, Gŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Hyd y Rhaglen
MMus: Blwyddyn yn llawn-amser, 2-5 mlynedd yn rhan-amser.
Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Bydd y cwricwlwm eang yn datblygu eich hyfedredd technegol a deongliadol ar yr offeryn o’ch dewis/llais a byddwch yn meithrin eich gwybodaeth a’ch profiad trwy ymchwil pedagogaidd sy’n seiliedig ar ymarfer.
- Rhaglen astudio hyblyg a fydd yn eich galluogi i archwilio’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi mewn cerddoleg.
- Cwrs cyfoes sy’n mynd i’r afael ac yn hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n berthnasol i’r diwydiant cerddoriaeth heddiw.
- Hyfforddiant arbenigol gan academyddion ac ymarferwyr enwog ym meysydd perfformio cerddoriaeth ac addysgeg.
- Cyfleusterau ymarfer rhagorol gydag offerynnau o’r radd flaenaf ar gyfer gwersi 1-i-1, gweithdai, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau cyhoeddus.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhennir yr MMus Perfformio’n ddwy ran;
- Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau)
- Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs ei dysgu dros ddau semester i fyfyrwyr llawn amser. Caiff y Project Meistr ei gyflawni dros yr haf. Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach. Mae myfyrwyr MMus Perfformio yn cael 36 awr o wersi offerynnol neu leisiol arbenigol gydag addysgwyr profiadol yn ystod y rhaglen; maent hefyd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda cherddorion o fri rhyngwladol. Darperir cyfeilydd proffesiynol ar gyfer yr holl fodiwlau datganiadau.
Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y Diploma mewn Cerddoriaeth yn cwblhau elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs yn unig. Ar gyfer yr MA Cerddoriaeth bydd angen i’r myfyrwyr gwblhau'r elfen Astudio Hyfforddedig a'r Project Meistr.
Astudiaeth Hyfforddedig (120 o gredydau) (Diploma):
Ar y rhaglen byddwch yn gwneud Projectau Perfformio Unigol yn y ddau semester, a fydd yn arwain at ddatganiad byr ar ddiwedd pob un. Mae aseiniadau sy’n seiliedig ar ymchwil yn mynd gyda'r datganiadau hynny gan gynnwys paratoi nodiadau rhaglen (semester 1) a chyflwyniad llafar (semester 2). O dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol profiadol ac arweinwyr gweithdai, byddwch yn archwilio ac yn datblygu sgiliau seiliedig ar ymarfer a gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiant cerddoriaeth, er enghraifft, fel cerddorion cerddorfa/band/sesiwn, cyfeilyddion/repetiteur, perfformwyr opera/theatr gerdd, therapi cerdd, tiwtoriaid offerynnol/llais, ac athrawon dosbarth ac yn y blaen.
Semester 1
- Perfformio Unigol (20 o gredydau)
- Mae Cerddoriaeth a Syniadau (20 o gredydau) yn archwilio astudiaeth achos a ddewisir o blith nifer o opsiynau sy'n seiliedig ar arbenigeddau’r staff, ynghyd â chyfres o seminarau ymchwil cyhoeddus a gyflwynir gan y staff a siaradwyr allanol.
- Mae Archwilio Cerddoriaeth (20 o gredydau) yn dod â myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio ynghyd; mae’n archwilio amrywiol faterion cyfoes o safbwyntiau gwahanol a chysylltiedig.
Yn semester 2
- Perfformio Unigol (20 o gredydau)
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn eich paratoi i ymgymryd â phroject ymchwil yr haf; mae’n ymdrin ag agweddau megis methodolegau ymchwil, ysgrifennu cynigion, rheoli eich project.
- Bydd Perfformio mewn Cyd-destun (20 o gredydau) yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae eu gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymarfer yn cael eu llywio'n uniongyrchol gan ddisgyblaethau cyd-destunol.
Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff y Project Meistr ei baratoi dros yr haf. Mae’n cynnwys datganiad cyhoeddus sy’n para 50–60 munud, neu ddatganiad darlith oddeutu 40 munud, a roddir fel arfer ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae'r datganiadau hynny fel arfer yn digwydd yn lleoliad cerddoriaeth siambr y Brifysgol, Neuadd Powis. Mae gan y neuadd acwsteg ardderchog a phiano traws Cyngerdd Steinway D ardderchog (a gaffaelwyd yn 2021).
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gorffen y rhaglen radd gydag MMus Perfformio gwblhau'r Project Meistr yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Perfformiad.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Rhaid i ymgeiswyr y rhaglen hon fedru dangos sgiliau perfformio rhagorol. Bydd gan y rhan fwyaf naill ai radd ragorol mewn datganiad israddedig yn y flwyddyn olaf (gradd dda 2.i neu uwch), marc uchel mewn DipABRSM (neu gyfwerth), neu o leiaf farc pasio LRSM (neu gyfwerth). Gellir gofyn i ymgeiswyr ddod i glyweliad neu, os nad yw hynny'n ymarferol, i anfon perfformiad fideo heb ei olygu a recordiwyd yn ddiweddar ac sy'n cynnwys repertoire cyfebyniol (25-30 munud). Gellir gofyn hefyd am enghraifft o waith academaidd.
Rhaid i ymgeiswyr nad yw'r siarad Cymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMUs mewn Perfformio yn ehangu eich profiad o berfformio a bydd yn datblygu eich sgiliau academaidd sy'n gysylltiedig â'ch ymarfer. Bydd y rhaglen yn eich paratoi at astudio perfformio ac/neu gerddoleg ymhellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd hefyd yn rhoi sgiliau i chi mewn creadigrwydd, hunanddisgyblaeth, dadansoddi a chyfathrebu, a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt iddo. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel perfformwyr proffesiynol, hyrwyddwyr cyngherddau, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol a phobl fusnes.