Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MSc mewn Plismona Uwch yn rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr o faterion cyfoes ym maes plismona a chyfiawnder troseddol. Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar flaenoriaethau plismona cenedlaethol megis trais yn erbyn menywod a merched, bregusrwydd ymhlith dioddefwyr a chymunedau, bygythiadau seiberdroseddu, gwrthderfysgaeth a delio â throseddu trefnedig.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion sydd â chefndir mewn plismona, y gyfraith, troseddeg a chyfiawnder troseddol, a gwyddorau cymdeithas eraill, gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn plismona ar sail tystiolaeth, ymchwiliadau i droseddau difrifol a threfnedig, a dulliau arwain a rheoli ym maes plismona. Drwy gydol y radd, byddwch yn ymgysylltu ag egwyddorion sydd wrth wraidd plismona yng Nghymru a Lloegr, megis plismona trwy gydsyniad, ymddiriedaeth y cyhoedd a hyder mewn plismona, cyfreithlondeb a moeseg mewn plismona.
Bydd yr MSc yn tynnu ar ein cysylltiadau gwaith ac ymchwil gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae ein cysylltiad agos â Heddlu Gogledd Cymru yn caniatáu i ni gynnig cipolwg i fyfyrwyr ar amgylchedd gwaith yr heddlu.
Pam astudio Plismona Uwch ym Mhrifysgol Bangor?
- Cysylltiadau cryf ag asiantaethau trosedd cenedlaethol a heddluoedd lleol, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru.
- Wedi'i addysgu gan gyn Swyddogion Heddlu profiadol ac arbenigwyr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol sy'n cynnal ac yn cyhoeddi ymchwil yn y maes.
- Cyfleoedd i astudio'n rhan amser ochr yn ochr â'ch rôl bresennol i helpu i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.
- Archwilio materion cyfoes sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau plismona cenedlaethol cyfredol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y radd hon yn rhoi’r cyfle ichi ganolbwyntio ar sgiliau ymchwil a sgiliau sy’n allweddol yn ystod ymchwiliad, sydd eu hangen ar gyfer swyddi uwch ym maes plismona. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio ystod eang o dechnolegau mewn plismona sy'n codi cwestiynau am y terfynau priodol ar wyliadwriaeth yr heddlu a'r wladwriaeth, moeseg technolegau a'u caffaeliad.
Bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddilyn astudiaeth bellach ar sgiliau arwain, materion byd-eang trosedd a chyfiawnder, bregusrwydd a throseddau difrifol, a materion cyfoes ym maes plismona.
Mae’r MSc mewn Plismona Uwch yn cynnwys y modiwlau canlynol;
- Ymchwilio i droseddau cymhleth a mawr
- Gwyliadwriaeth, Technoleg a Chyfiawnder Troseddol
- Strategaeth a Chynllun Ymchwil
- Proses ac Ystyr Ymchwil
- Traethawd Hir Plismona ar sail Tystiolaeth
Rhaid i chi ymgymryd â chredydau pellach o blith y modiwlau canlynol:
- Materion Allweddol mewn Troseddeg
- Trosedd a Chyfiawnder yn Fyd-eang
- Bregusrwydd, Erledigaeth a Thrais Difrifol
- Grymuso Arweinyddiaeth Feirniadol mewn Plismona
Cofiwch y gall modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, a bod yr uchod at ddibenion rhoi arweiniad yn unig.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu trwy gyfuniad o:
- Darlithoedd
- Gweithdai
Bydd yr asesiad yn cynnwys cymysgedd o’r canlynol:
- Briffiau gweithredol
- Cyflwyniadau
- Asesiadau adfyfyriol
- Traethawd hir
Dim ond canllaw yw'r wybodaeth hon ac mae'n bosib y bydd yn newid.
Gofynion Mynediad
Gradd 2.i BSc (Anrhydedd) (neu gyfwerth) o leiaf mewn maes pwnc perthnasol (y Gyfraith, Plismona, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol neu Wyddorau Cymdeithas). Disgwylir i ymgeiswyr ddangos diddordeb amlwg yn y pwnc yn eu datganiad personol. Rhaid wrth ystod dda o sgiliau TG, gan gynnwys gallu defnyddio pecynnau prosesu geiriau, taenlenni, pecynnau meddalwedd cyflwyno a defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth foddhaol o’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Saesneg ysgrifenedig a llafar: IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen dan 5.5). Os nad ydych wedi llwyddo i gyrraedd yr isafswm lefel iaith Saesneg sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gallwch wneud cais i ddilyn cwrs Saesneg cyn-sesiynol ym Mhrifysgol Bangor. Am fanylion llawn am y gofynion iaith Saesneg, yr ystod o brofion hyfedredd Saesneg a dderbynnir a chyrsiau iaith Saesneg dwys sydd ar gael, ewch i'n tudalennau am y gofynion iaith Saesneg.
Gyrfaoedd
Mae'r MSc hwn mewn Plismona Uwch yn cynnig astudiaeth uwch ac yn cyfleu gwybodaeth am faterion cyfoes ym maes plismona a chyfiawnder troseddol. Yn ddelfrydol i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ymhellach o fewn yr heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol neu sydd eisiau datblygu eu gyrfa academaidd.
Wrth astudio, byddwch yn ennill ystod o sgiliau gan gynnwys ymchwil uwch, meddwl yn feirniadol, sgiliau dadansoddi, ymchwilio ac arwain, y mae’r cyfan yn ddeniadol iawn i gyflogwyr plismona a chyfiawnder troseddol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu hennill o'r radd hon yn eich helpu i ddod o hyd i waith mewn ymchwil, plismona ac asiantaethau cyfiawnder troseddol. Bydd hefyd yn cynnig hyfforddiant perthnasol i unigolion sy'n ystyried gyrfa mewn polisi neu ymchwil, ac yn eich paratoi at ymchwil doethurol mewn plismona a chyfiawnder troseddol.
Mae'r cwrs yn ddelfrydol i swyddogion heddlu ac ymarferwyr cyfiawnder troseddol sydd eisoes mewn cyflogaeth ac sy'n ceisio datblygu eu gyrfa.
Mae rolau nodweddiadol sy'n gysylltiedig â'r radd hon yn cynnwys;
- Uwch Swyddog yr Heddlu
- Arweinydd Staff yr Heddlu
- Asiantaethau Troseddu Cenedlaethol
- Academaidd
- Ymchwilydd