Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn integreiddio rheolaeth amgylcheddol ag arferion busnes.
Bydd y cwrs hwn yn cymryd golwg integredig ar reolaeth amgylcheddol o fewn cyd-destun busnes. Bydd yn darparu'r hyfforddiant rhyngddisgyblaethol arbenigol sy'n ofynnol i integreiddio amcanion datblygu cynaliadwy yn llawn i reoli busnesau. Mae gradd MScRes blwyddyn, sy'n wahanol i'r rhaglenni Meistr hyfforddedig trwy roi mwy o bwyslais ar y project ymchwil. Mae hwn hefyd ar gael yn y Gwyddorau Biolegol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu gymhwyster tebyg gan unrhyw sefydliad arall fel rheol. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion wedi cael gwaith mewn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor, yn ogystal â dod yn ymgynghorwyr hunangyflogedig ym maes Rheoli'r Amgylchedd a Busnes.