Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Mae'r MSc mewn Rheoli Buddsoddiadau'n addysgu myfyrwyr am sylfaen ddamcaniaethol buddsoddi ac am dechnegau rheoli risg modern, ac yn eu paratoi i ymuno â'r diwydiant rheoli buddsoddiadau, sy'n ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym. Nod y rhaglen yw ymdrin â maes llafur traddodiadol gradd Meistr mewn Cyllid ynghyd â darparu hyfforddiant rheolaeth a busnes lefel uwch i fyfyrwyr am feysydd buddsoddi arbenigol, megis rheoli portffolios ecwiti a bondiau; technegau masnachu; rheoli risg; rheoli gwarantau deilliadol a chyfnewid tramor; ac am fuddsoddi mewn egin-farchnadoedd. Bydd myfyrwyr yn elwa o gael cyfle unigryw i ddefnyddio cronfeydd data ar-lein amrywiol sydd ar gael yn Ysgol Busnes Bangor, megis DataStream.
Bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth arbenigol a sgiliau uwch mewn ystod o gymwysiadau buddsoddi ar lefelau strategol a gweithredol. Byddant yn datblygu sgiliau deallusol ac arbenigedd ymchwil ym maes dadansoddi buddsoddiadau a rheoli portffolios; sgiliau technegol sy'n berthnasol i weithrediad a rheolaeth marchnadoedd ariannol; sgiliau beirniadol wrth edrych ar ddamcaniaethau lefel uwch a thystiolaeth empirig; sgiliau cyfrifiannol fel rhan o weithgarwch gwasanaethau ariannol; a sgiliau dadansoddol wrth archwilio rhagdybiaeth marchnadoedd effeithlon.
Hyd y Cwrs
MSc: Blwyddyn yn llawn amser. Mae fersiwn 10 mis o'r rhaglen hon hefyd ar gael. Bydd myfyrwyr yn astudio 5 modiwl yn yr Hydref a 5 modiwl yn y Gwanwyn.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw’r cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna’n cael hyfforddiant arbenigol i’w paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan Fitch Learning, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu’n cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd â dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r CFA Institute.
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar ôl i chi gyrraedd Bangor. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag owain.apgwilym@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheoli Buddsoddiadau.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (2.ii neu uwch) neu gymhwyster cyfatebol gan brifysgol neu gorff cymeradwy arall sy'n dyfarnu graddau. Gellir ystyried hefyd gymhwyster ac eithrio gradd y bernir ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd. Mae profiad gwaith yn ddymunol.
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon ein graddedigion yn rhagorol os ydynt am ddilyn gyrfa mewn ystod eang o swyddogaethau yn sectorau'r economi fyd-eang gan gynnwys cyfrifeg, busnes, bancio a chyllid. Mae pwyslais y rhaglenni ar sicrhau dealltwriaeth ymarferol yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y sectorau uchod. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol wrth gynnal ymchwil annibynnol ac wrth weithio mewn tîm.
Mae gan raddedigion Ysgol Busnes Bangor record lwyddiannus o ran cyflogadwyedd ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi mewn swyddi uwch ledled y byd, o Stryd Downing a'r Deutsche Bank i Accenture Luxembourg ac Awdurdod Ariannol Ynysoedd y Caiman.