Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r ysgol yn falch o fod y cyntaf i ennill achrediad hyfforddiant proffesiynol ôl-raddedig y BPS ar gyfer y rhaglen MSc hon. Nod y cwrs yw darparu cam un o'r hyfforddiant sy'n ofynnol i ennill statws siartredig ac aelodaeth lawn o is-adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer BPS ar gyfer ymgeiswyr sy'n meddu ar GBC.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae seicoleg chwaraeon ac ymarfer yn ddisgyblaeth benodol o wyddor chwaraeon ac ymarfer sy'n cael ei chymhwyso i boblogaethau sy'n ceisio gwella eu gallu corfforol, perfformiad a / neu eu hiechyd mewn lleoliadau chwaraeon ac ymarfer corff achlysurol.
Mae’r radd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer* wedi cael ei hachredu gan y BPS. Felly, gallai myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd gyflawni hyfforddiant Cam 1 y cymhwyster Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer. Mae hon yn elfen allweddol o'r llwybr gyrfa i fynd yn seicolegydd siartredig. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth wyddonol y myfyriwr o’r meddwl, ymddygiad a’r profiad dynol a’r rhyngweithiadau cymhleth rhwng y rheini a byd chwaraeon ac ymarfer. Cynlluniwyd y cwrs i fod yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion a diddordebau unigol y myfyriwr, ac mae pwyslais mawr yn yr elfen a addysgir, ar y cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Bydd y radd yn rhoi cyfuniad o wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr a fydd yn gam i’w paratoi ar gyfer gyrfa yn gweithio gydag unigolion sy'n ymwneud â’r lleoliadau penodol hyn.
Addysgir y rhaglen trwy ddarlithoedd traddodiadol, seminarau rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un, a sesiynau cyfrifiadurol. Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n annibynnol ac mewn lleoliadau grŵp yn y dosbarth ac mewn sesiynau ymarferol yn ogystal â chwblhau cyfnod sylweddol o hunan-astudio sy'n cynnwys cwblhau prosiect ymchwil. I gyd-fynd â hyn, mae'r rhaglen yn defnyddio agwedd byd real yn bennaf at asesu trwy asesu adroddiadau achos, y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â phoblogaethau amrywiol, a chyflwyno cyflwyniadau (e.e. posteri a sgyrsiau).
Bydd graddedigion yn gallu arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o'r egwyddorion gwyddonol sy'n gysylltiedig ag ymyriadau seicolegol effeithiol mewn lleoliadau chwaraeon ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar berfformiad; dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion gwyddonol a'r gweithdrefnau ystadegol sy'n sail i gynllunio ymchwil effeithiol, casglu data, a dehongli data mewn chwaraeon a gwyddor ymarfer; a dangos sut y gellir defnyddio egwyddorion gwyddonol i gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau cleient mewn lleoliadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer.
Byddant yn datblygu amrywiaeth o dechnegau ymarferol disgyblaeth-benodol y gellir eu defnyddio wrth gasglu data at ddibenion ymchwil a/neu ddibenion cymhwysol. Byddant wedi datblygu ymwybyddiaeth o gyd-destun a sgiliau datrys problemau o ran ystyried sut mae cymhwyso egwyddorion gwyddonol ac ymyriadau ymarferol i chwaraeon ac ymarfer corff a byddant yn gallu dehongli a chyfleu data gwyddonol a yrrir gan seicoleg i gyd-fynd ag anghenion y gynulleidfa. Byddant hefyd yn gallu dangos ystod eang o sgiliau allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ac ystyriaethau moesegol.
Ar ben hynny, bydd graddedigion wedi hogi eu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, sgiliau rhyngweithio a gweithio mewn grwpiau, datrys problemau drwy adfyfyrio a sgiliau rhifedd a sgiliau Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu. Felly, bydd graddedigion yn gallu dangos proffesiynoldeb yn ôl yr angen yn y gweithle.
Asesir y rhaglen yn unol â rheoliadau a chodau ymarfer y Brifysgol. Er mwyn i fyfyrwyr gael y radd hon wedi'i hachredu gan y BPS, rhaid iddynt basio pob modiwl ar 50% neu uwch a rhaid iddynt gwblhau'r prosiect ymchwil a phasio modiwl y prosiect ymchwil ar 50% ac uwch.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer (Achredwyd gan y BPS).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth). Mae ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar Sylfaen Graddedigion ar gyfer Aelodaeth Siartredig yn gymwys i wneud cais am y rhaglen hon, ond ni fydd eu cymhwyster wedi ei achredu gan y BPS.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Gyrfaoedd
Mae holl raglenni ôl-raddedig yr ysgol wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo hynny'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa graddedigion Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae gyrfaoedd ôl-raddedigion Bangor yn cynnwys: Sefydliadau chwaraeon y wlad, cyrff llywodraethu cenedlaethol, yr Olympic Medical Institute, timau a sefydliadau chwaraeon proffesiynol, y diwydiant ffitrwydd, y GIG (ysbytai ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol), dysgu ac addysg (ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig). Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach (h.y. ymchwil doethurol) yn llwybr galwedigaethol arall.