Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Hoffem roi blas i chi ar sut le yw Gogledd Cymru i fyw a gweithio. Os dewch yma, byddwch yn treulio tair blynedd yn gweithio yn un o’r ardaloedd harddaf ym Mhrydain. Mae’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn adnabyddus am ei rhagoriaeth academaidd, ac mae’r rhaglen wedi ei hachredu’n llawn gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, Cymdeithas Seicolegol Prydain a Phrifysgol Bangor.
Oherwydd ein bod yn rhaglen fach, gallwn ymateb i’n hyfforddeion yn unigol. Rydym yn casglu adborth yn rheolaidd gan ein hyfforddeion ar y rhaglen, ac mae hyfforddeion yn aml yn rhoi sylwadau am ba mor addas y gall y rhaglen fod i bobl â theuluoedd. Defnyddir y geiriau ‘cyfeillgar’ a ‘hynaws’ yn gyson, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn adlewyrchiad gwirioneddol ar nodweddion rhaglen fel yr un sydd gennym ni.
Er ein bod yn fach, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o addysgu a phrofiadau clinigol i’n hyfforddeion, a hynny’n aml gan staff sy’n flaenllaw yn genedlaethol yn y maes clinigol penodol hwnnw. Rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn cael y cyfleusterau sydd eu hangen arnoch fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant a roddwn.
I wneud ymholiad cyffredinol, cysylltwch â:
Mared Davies Hill (Cynorthwyydd Gweinyddol Dewis) - m.d.hill@bangor.ac.uk
I wneud ymholiad ynglŷn â’r drefn dewis myfyrwyr, cysylltwch â:
Dr Caroline Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) - c.lamers@bangor.ac.uk
Hoffem roi gwybodaeth i chi am gefndir y rhaglen, ein cysylltiadau a'n hanes, ynghyd â gwybodaeth am y rhaglen ei hun, ein hathroniaeth a phwy sy'n gweithio yma. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi blas i chi o sut beth yw astudio yng Ngogledd Cymru.
Gwybodaeth Gyffredinol
Cynllun ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor yw’r Rhaglen Ddoethurol dair-blynedd hon ac mae ganddi berthynas waith agos â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Enw’r rhaglen yw Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru (NWCPP). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol a fydd yn eu gwneud yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (www.hcpc-uk.org/) ac i gael statws siartredig gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain. Rhaglen Gogledd Cymru oedd y gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu’r Ddoethuriaeth Seicoleg Glinigol, gan fraenaru’r ffordd i raglenni eraill. Mae gan seicolegwyr clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gysylltiadau gwaith eithriadol o glos gyda Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru. Yn ystod ymweliad achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain yn 2019, cymeradwywyd y rhaglen am y cysylltiadau hyn a'r ffordd y mae'r rhaglen yn gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr y Bwrdd Iechyd. Ar hyn o bryd mae tua 110 o seicolegwyr clinigol cymwysedig yng Ngogledd Cymru, yn gweithio ar draws yr ystod oedran, o enedigaeth i farwolaeth, ym meysydd iechyd meddwl ac iechyd corfforol, anableddau deallusol, niwroseicoleg, a gwasanaethau diogelwch canolig. Mae bron pob un ohonynt yn ymwneud â’r rhaglen trwy addysgu, goruchwylio (clinigol/ymchwil), asesu gwaith academaidd, dewis ymgeiswyr a gweithredu fel cynrychiolwyr ar bwyllgorau.
Mae'r Ysgol Seicoleg yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant mewn ymarfer clinigol ac mae'n arbennig o gryf ym meysydd seicoleg glinigol a seicoleg iechyd, niwrowyddoniaeth wybyddol, a seicoleg dysgu a seicoleg datblygiad. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2022, cadwodd Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ei statws fel un o'r adrannau seicoleg gorau yn y Deyrnas Unedig, gydag 86% o’r allbynnau ymchwil yn cael eu hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r gorau yn y byd. Mae ganddi gymunedau ymchwil bywiog a chyfeillgar, a rhoddwyd yr adran yn safle 17 (o 117) am ansawdd ymchwil (Complete University Guide, 2021). Mae’r brif ganolfan yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar hefyd wedi'i lleoli yn yr Ysgol.
Mae'r Athro Michaela Swales, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei harbenigedd mewn therapi ymddygiad dialectig ac sy’n arwain Tîm Hyfforddi Therapi Ymddygiad Dialectig Ynysoedd Prydain, yn gyfarwyddwr y rhaglen ac yn gweithredu'n lleol fel seicolegydd clinigol. Mae Dr Elizabeth Burnside, ein Cyfarwyddwr Academaidd, yn un o 12 hyfforddwr Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) a adolygir gan gymheiriaid. Mae'r hyfforddeion, aelodau tîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol yn awyddus i rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd ac mae eu rhestr o gyhoeddiadau’n sylweddol, bron i 70 dros y pum mlynedd diwethaf yn unig.
Yn ystod ein hymweliad achredu diwethaf ym mis Chwefror 2019, achredwyd y rhaglen gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, a’i hail-ddilysu gan Brifysgol Bangor. Cawsom ein canmol am sawl agwedd ar y rhaglen: integreiddiad ac ymrwymiad clos Panel y Bobl, sef ein grŵp cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a'r systemau cefnogi aml-haenog sydd ar gael i'n hyfforddeion. Roeddent yn gwerthfawrogi ein gwaith estyn allan arloesol i ysgolion uwchradd a'n hymrwymiad i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys: ein hymdrechion i wella darpariaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg a datblygu sgiliau mewn cyd-destun diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol; ymgysylltiad a brwdfrydedd y seicolegwyr clinigol lleol sy'n ymwneud â'r hyfforddiant; a'r cyfraniad seicolegol a seicotherapiwtig i'r gymuned ranbarthol ac i’r gwasanaethau a ddarperir. Roeddem yn falch iawn o gael cymeradwyaeth mor gref gan Gymdeithas Seicolegol Prydain a Phrifysgol Bangor, a chredwn fod hyn yn adlewyrchu natur gadarn a chydlynol y rhaglen. Disgwylir ein hymweliad achredu nesaf yn 2024. Mae'r rhaglen hefyd wedi'i hachredu gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae’r rhaglen yn cydnabod fod seicoleg glinigol yn broffesiwn gofalu a chanddo nifer o nodweddion unigryw. Yn bennaf ymysg y rhain y mae: y rhyngddibyniaeth agos rhwng ymarfer ac ymchwil; y ffordd y cymhwysir modelau, damcaniaethau a thystiolaeth seicolegol yn systematig i anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr; a datblygiad gwasanaethau. Prif nod y rhaglen yw cwrdd ag anghenion y GIG am seicolegwyr clinigol sydd wedi eu cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac sydd yn meddu ar y canlynol:
- ystod eang o sgiliau clinigol a sgiliau trefnu, arwain ac ymchwilio.
- safonau uchel o gywirdeb proffesiynol.
- model mewnol o ymarfer adfyfyriol sy’n ddigon hyblyg i dderbyn newid ac yn sensitif i anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Rydym felly'n hyfforddi seicolegwyr clinigol sy’n hyrwyddo syniadaeth seicolegol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd, gan gyfannu eu sgiliau clinigol ac academaidd a’u sgiliau ymchwil, a thrwy feddwl yn feirniadol, yn adfyfyriol ac yn annibynnol. Mae ganddynt sylfaen gref o werthoedd ac maent yn gweithredu gydag uniondeb i newid bywydau pobl er gwell.
Mae’r rhaglen yn dewis hyfforddeion ar sail eu gwerthoedd, eu hymrwymiad i seicoleg glinigol a’u potensial i ddatblygu lefel uchel o hyfedredd mewn gwaith clinigol ac academaidd ac mewn ymchwil. Rydym yn ceisio meithrin y potensial hwn trwy annog datblygiad sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd sy’n sail i'r cymwyseddau hyn. Mae’r datblygiad hwn yn digwydd o fewn fframwaith cefnogol sy’n hwyluso twf personol a phroffesiynol ac sy’n defnyddio’r cysylltiadau agos sy’n bodoli yng Ngogledd Cymru rhwng y gwasanaethau clinigol a staff academaidd.
Mae gennym agwedd gadarnhaol tuag at amrywiaeth a chynhwysiant cymdeithasol, ac adlewyrchir hynny yn y dulliau dewis, yn yr addysgu, yn y syniadau ymarfer sy’n seiliedig ar werthoedd, ac yn ethos cyffredinol y rhaglen. Yn 2021, gwnaethom sefydlu Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol. Mae hyfforddeion o bob un o dair blynedd y rhaglen, aelodau tîm y rhaglen a chydweithwyr Seicoleg Glinigol y Bwrdd Iechyd lleol yn ymwneud â’r gwaith o adolygu pob agwedd o’r rhaglen am faterion yn ymwneud â hiliaeth, gwahaniaethu, gwynder ac ati. Mae’r drefn ddewis, y lleoliadau, yr aseiniadau a’r ymchwil i gyd yn feysydd sy'n cael eu harchwilio er mwyn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol. Rydym wedi trefnu cyfres o weithdai gyda hyfforddeion, aelodau tîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol i fwrw ymlaen gyda’r agenda hon. Mae’r pwyllgor hwn yn ei ddyddiau cynnar, ac edrychwn ymlaen at y gwaith sydd o’n blaenau. Mae pob un o bwyllgorau eraill y rhaglen yn adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol am y gwaith y maent yn ei wneud i newid ein hymarfer. Ynghyd â Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru, rydym yn cynnig cynllun mentora (a elwir yn ‘Cefnogi’) i ymgeiswyr o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol eraill. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Samantha Owen (Tiwtor Academaidd).
GWYLIWCH SEICOLEGWYR CLINIGOL YN GWNEUD GWAHANIAETH
Rydym yn adolygu'r cynllun hyfforddi'n gyson ac yn gwneud addasiadau drwy’r amser, lle mae angen, yn unol â nodau ac amcanion y rhaglen a chan gyflawni anghenion y cyhoedd a’r proffesiwn. Rydym wedi datblygu ein lleoliadau a'n rhaglen academaidd i adlewyrchu'r dull sy’n seiliedig ar gymwyseddau fel y nodir yn safonau achredu Cymdeithas Seicolegol Prydain. Bydd hyn yn golygu y byddwch yn cwblhau lleoliadau mewn nifer o feysydd clinigol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau asesu a chysyniadoli, ymyriadau therapiwtig, a sgiliau gweithio systemig ac arweinyddiaeth.
O ran dulliau therapiwtig, rydym yn canolbwyntio ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau’r Drydedd Don: yn enwedig Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT) a Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT). Gyda chymorth y Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar, y tîm hyfforddi Therapi Ymddygiad Dialectig, nifer o glinigwyr lleol sy’n defnyddio Therapi Derbyn ac Ymrwymo, yn ogystal â hyfforddwr Therapi Derbyn ac Ymrwymo a adolygir gan gymheiriaid, rydym yn gwella'r dysgu yn y meysydd clinigol cyffrous hyn. Mae gennym hefyd bwyslais cryf ar weithio’n systematig, yn ogystal â Therapi Sgema a Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi. Byddwch hefyd yn cael eich addysgu mewn theori seicodynamig a Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol.
- Dr Elizabeth Burnside Cyfarwyddwr Academaidd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen e.burnside@bangor.ac.uk
- Ms Fiona Greenly-Jones Uwch Weinyddwr a Chynorthwywr Personol i Gyfarwyddwr y Rhaglen f.greenly-jones@bangor.ac.uk
- Mrs Mared Davies Hill Cynorthwyydd Gweinyddol Ymchwil a Dewis m.d.hill@bangor.ac.uk
- Dr Lee Hogan Cyfarwyddwr Ymchwil lee.hogan@bangor.ac.uk
- Dr Jaime Horn Tiwtor Academaidd jaime.horn@bangor.ac.uk
- Mrs Debbie Jones Cynorthwyydd Gweinyddol Cwricwlwm a Chlinigol debbie.jones@bangor.ac.uk
- Mrs Kathryn Jones Cynorthwyydd Gweinyddol Academaidd ac Asesu kathryn.jones@bangor.ac.uk
- Dr Caroline Lamers Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis c.lamers@bangor.ac.uk
- Dr Samantha Owen Tiwtor Academaidd samantha.owen@bangor.ac.uk
- Ms Donna-Marie Pierce Rheolwr Rhaglen d.pierce@bangor.ac.uk
- Dr Lucy Piggin Tiwtor Ymchwil l.piggin@bangor.ac.uk
- Dr Christopher Saville Tiwtor Ymchwil c.saville@bangor.ac.uk
- Dr Laura Spencer-Jones Tiwtor Clinigol l.e.spencer@bangor.ac.uk
- Yr Athro Michaela Swales Cyfarwyddwr y Rhaglen m.swales@bangor.ac.uk
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen yn un lawn-amser ac ni ellir cwtogi hyd y rhaglen drwy achredu dysgu blaenorol neu brofiad. Mae'n rhaid ichi gwblhau'r rhaglen lawn er mwyn cymhwyso.
Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi blas i chi o'r rhaglen, ein gweledigaeth a'n gwerthoedd, a sut beth fyddai hyfforddi gyda ni.
Nod elfen academaidd y rhaglen yw eich cael i gymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu. Un cymorth mawr yw bod pob grŵp blwyddyn yn gymharol fach, sy’n caniatáu digon o le i drafod a datblygu syniadau a sgiliau. Disgwylir i chi gymryd rhan lawn yn yr addysgu trwy ddod â'ch deunyddiau a'ch profiadau clinigol eich hun i’w trafod, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rôl i ddatblygu eich sgiliau. Mae'r cwricwlwm academaidd yn rhoi pwyslais ar bersbectif rhychwant oes. Mae hyn yn golygu y caiff meysydd pwnc eu dysgu gan glinigwyr o nifer o arbenigeddau, gan sicrhau y cewch olwg datblygiadol o’r meysydd hynny a’ch bod yn gwerthfawrogi sut mae'r un modelau damcaniaethol a’r un dulliau gweithredu yn cael eu defnyddio gyda gwahanol grwpiau o gleientiaid o oedrannau gwahanol.
Yn dilyn model gymhwysedd y rhaglen, mae'r rhan fwyaf o'n haddysgu yn cyfateb i'r cymwyseddau a ddatblygwyd ym mhob un o'r pum lleoliad. Ar ddechrau blwyddyn un, darperir addysg sylfaen i chi sy'n berthnasol i waith cyffredinol seicolegwyr clinigol mewn lleoliadau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau creiddiol ymgysylltu ac asesu a sgiliau therapiwtig, yn ogystal â chodau moeseg ac ymddygiad proffesiynol a fframweithiau cyfreithiol perthnasol. Tra byddwch ar leoliad, un o nodau'r addysgu yw eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau damcaniaethol i wneud gwaith asesu a chysyniadoli seicolegol gadarn. Hanner ffordd drwy'r lleoliad hwn byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cwrs ymwybyddiaeth ofalgar am 8 wythnos yn rhan o'ch addysgu, i osod y sylfeini ar gyfer dysgu mwy am ddulliau trydedd don ac am wneud defnydd ohonoch chi eich hun i helpu rheoli gofynion yr hyfforddiant. Yn ystod yr ail a'r trydydd lleoliad, (ymyriad I ac ymyriad II) bydd yr addysgu yn canolbwyntio mwy ar fodelau therapiwtig a datblygu sgiliau, gan gynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Therapi Derbyn ac Ymrwymo a Therapi Ymddygiad Dialectig. Cyflwynir modelau therapiwtig eraill hefyd wrth i'r hyfforddiant fynd rhagddo gan gynnwys Therapi Sgema a Therapi sy'n Canolbwyntio ar Dosturi. Yn ystod eich pedwerydd lleoliad, mae i’r dysgu mwy o bwyslais ar ddamcaniaethau ac ymarfer sy’n ymwneud â gweithio systemig ac arweinyddiaeth.
Rydym yn gweithio’n gyson i ddatblygu ein haddysgu er mwyn iddo gyfrannu at ofynion achredu cymwysterau proffesiynol eraill, megis Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP), achrediad therapyddion ymddygiad gwybyddol, hyfforddiant lefel sylfaen y Gymdeithas Therapi Teuluol ac Ymarfer Systemig (AFT) a chymhwyster Cymdeithas Seicolegol Prydain mewn niwroseicoleg glinigol. Mae ein haddysgu ym maes therapi ymddygiad dialectig (a'r profiad clinigol cysylltiedig) wedi'i ehangu fel y gall hyfforddeion gaffael yr holl gymwyseddau sy'n seiliedig ar wybodaeth a'r rhan fwyaf o'r cymwyseddau sy’n seiliedig ar ymarfer y byddai eu hangen i gael achrediad fel therapydd ymddygiad dialectig gan Gymdeithas Therapi Ymddygiad Dialectig y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, sy'n gweithredu’r safonau achredu rhyngwladol ym maes therapi ymddygiad dialectig.
- Cyn pob lleoliad bydd bloc o addysgu a fydd yn para rhwng pythefnos a phum wythnos. Unwaith y byddwch ar leoliad, bydd dyddiau addysgu wythnosol yn parhau i gael eu cynnal am ran helaeth o'r flwyddyn, sy'n golygu y cewch gadw mewn cysylltiad parhaus â'r rhaglen a chyd-aelodau eich carfan blwyddyn. Cynhelir dau ddiwrnod addysgu arall hefyd bob blwyddyn academaidd, pan ddaw'r tair carfan at ei gilydd, a chaiff pynciau arbenigol a chyfredol eu cyflwyno a'u trafod. Y teitlau ar gyfer diwrnodau addysgu diweddar pob carfan yw 'Seicoleg Glinigol - Deall a Mynd i'r Afael ag Anghyfiawnder, Hiliaeth a Gwahaniaethu Epistemig' a 'Chyfweld Cymhellol a Gweithio gyda Phobl sy'n Camddefnyddio Sylweddau'.
Cewch eich dysgu yn yr ystafelloedd addysgu pwrpasol ym Mhrifysgol Bangor, yn agos at swyddfeydd y tîm staff ac mae cegin a lle bwyta helaeth i’w rannu. Mae gennych hefyd fynediad i ystafell adnoddau helaeth i hyfforddeion i wneud gwaith academaidd ar sawl un o gyfrifiaduron y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd.
Er mai seicolegwyr clinigol ac academaidd o ogledd Cymru sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r addysgu, gwahoddir seicolegwyr o’r tu hwnt i’r ardal a gweithwyr proffesiynol eraill hefyd i gyfrannu lle bo’n briodol. Mae aelodau o ‘Panel y Bobl’ a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr eraill yn cymryd rhan amlwg mewn nifer o sesiynau addysgu trwy gydol y tair blynedd. Mae’r hyfforddeion yn gwerthfawrogi eu persbectif yn arw ac mae'r adborth yn gyson dda. Byddwch yn rhoi adborth ar yr holl sesiynau academaidd, ac mae hynny’n galluogi’r rhaglen i barhau i wella’r safonau addysgu.
Aseiniadau Academaidd - Mae tri aseiniad academaidd i'w cwblhau dros y tair blynedd.
- Rydych chi'n dechrau gydag aseiniad dysgu sy'n seiliedig ar broblemau, y byddwch chi'n ei ddatblygu gyda'ch cyd-hyfforddeion.
- Ym mlwyddyn 2 rydych chi'n rhoi cyflwyniad ar fater proffesiynol sy'n codi o'ch lleoliad systemig ac arweinyddiaeth.
- Ar ôl cyflwyno'r traethawd ymchwil, byddwch yn ysgrifennu aseiniad adfyfyriol ar eich dysgu a gaiff ei asesu'n ffurfiannol.
Er bod diwyg yr aseiniadau wedi'i bennu, chi fydd yn dewis eich pynciau clinigol-berthnasol eich hun ar eu cyfer. Gall siaradwyr Cymraeg gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg.
Mae dysgu yn parhau wrth i chi gymhwyso damcaniaethau a gyflwynwyd yn yr ystafell ddosbarth, drwy astudio annibynnol, a thrwy weithio gyda'ch cleientiaid ar leoliad. Bydd y profiad clinigol yn dechrau tua diwedd mis Hydref yn y flwyddyn gyntaf ac yn para dros dair blynedd y rhaglen. Bydd y lleoliadau yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau asesu, cysyniadoli ac ymyrraeth (Lleoliad Sylfaen) cyn symud ymlaen i ddatblygu sgiliau mewn ymyriadau therapiwtig a therapïau seicolegol penodol (Ymyrraeth I a II). Bydd lleoliadau diweddarach yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau mewn cymwyseddau systemig ac arweinyddiaeth a byddwch yn gorffen eich hyfforddiant gyda lleoliad atodol neu ddethol o'ch dewis.
Mae’r lleoliadau fel a ganlyn:
- Blwyddyn 1: Sylfeini Asesu, Cysyniadoli ac Ymyrraeth (Tachwedd - Ebrill)
- Blwyddyn 1: Ymyrraeth I (Mai - Hydref).
- Blwyddyn 2: Ymyrraeth II (Tachwedd - Mehefin).
- Blwyddyn 2/3 Gweithio gyda Systemau ac Arweinyddiaeth (Gorffennaf - Rhagfyr).
- Blwyddyn 3: Dethol/Atodol (Rhagfyr - Medi).
Bydd pob lleoliad clinigol yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, sy’n ardal ddaearyddol fawr sy'n ymestyn o Wrecsam i Bwllheli ac o Gaergybi i'r Drenewydd a Dolgellau, lle ceir trefi a dinasoedd ôl-ddiwydiannol a chymunedau gwledig.
Mae’r lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Iechyd Meddwl Oedolion: gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd, gwasanaeth gofal fesul cam, gwasanaethau cleifion mewnol, gwasanaeth anhwylderau bwyta, iechyd meddwl amenedigol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau seicosis cynnar.
- Oedolion Hŷn: gan gynnwys clinigau cof a thimau cymunedol.
- Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc: gan gynnwys CAHMS, gwasanaethau mewnol i bobl ifanc a gwasanaethau niwroddatblygiadol.
- Anableddau Deallusol: gwasanaethau oedolion a phlant.
- Gwasanaethau fforensig: uned a charchar diogelwch canolig.
- Gwasanaethau anafiadau i’r ymennydd: gwasanaethau oedolion a phlant.
- Seicoleg Glinigol Iechyd: gan gynnwys gofal arennol, rheoli poen, diabetes, gwasanaethau blinder cronig, oncoleg a gofal lliniarol, gwasanaethau pediatrig, gofal critigol, anhwylderau gwaedu etifeddol, gwasanaeth breichiau artiffisial a gwasanaeth cyhyrysgerbydol.
- Gwasanaethau Cefnogi a Lles Staff.
- Mae'r Dulliau Therapiwtig a ddefnyddir yn cynnwys: Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar gyfer Seicosis, Therapi Ymddygiad Dialectig, Therapi Derbyn ac Ymrwymiad, Therapi Sgema a Therapi sy'n canolbwyntio ar Dosturi.
Caiff cytundebau lleoliad eu trafod rhyngoch chi a’r goruchwyliwr, ar y cyd â staff y rhaglen. Adolygir y cytundebau hynny hanner ffordd trwy’r lleoliad. Caiff pob lleoliad ei werthuso gan eich goruchwyliwr clinigol, a fydd yn asesu ystod lawn o gymwyseddau clinigol a phroffesiynol. Byddwch yn rhoi adborth ar yr holl leoliadau fel rhan o’n hymdrech i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella ansawdd uchel y profiad clinigol.
Yn aml, dyrennir lleoliadau i hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg lle gallwch ddefnyddio'r Gymraeg wrth eich gwaith yn eich ymarfer clinigol a lle bo hynny'n bosibl gyda'ch goruchwyliwr.
Aseiniadau Clinigol -
- Byddwch yn cwblhau adroddiad ar weithgarwch clinigol (RCA) yn eich lleoliad Sylfaen.
- Byddwch yn cwblhau adroddiad ar weithgarwch clinigol (RCA) yn ymwneud â’ch lleoliad Ymyrraeth 1.
- Byddwch yn cwblhau dau adroddiad ar weithgarwch clinigol o'ch lleoliad Ymyrraeth II hirach lle byddwch yn llunio darn o waith o ddau safbwynt damcaniaethol neu therapiwtig gwahanol a byddwch yn cyflwyno un arall o'ch darnau gwaith clinigol.
- Rhaid i un o'ch adroddiadau ar weithgarwch clinigol fod ynghylch therapi ymddygiad gwybyddol.
Mae angen i chi gyflwyno recordiad o sesiwn lle rydych yn defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol, sy'n cael ei raddio gan ddefnyddio'r CTS-R, neu offeryn asesu perthnasol arall.
Nod y cwricwlwm ymchwil yw sicrhau bod hyfforddeion yn meithrin profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil, ac yn cael dealltwriaeth fanwl o'r dystiolaeth sydd wrth wraidd ymarfer clinigol. Mae hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil yn digwydd trwy gydol y tair blynedd.
Aseiniadau Ymchwil -
Mae tri phroject ymchwil i'w cwblhau dros y tair blynedd.
- Byddwch yn dechrau gyda phroject dadansoddi data, gan ddefnyddio setiau data mawr sydd ar gael i'r cyhoedd i ateb cwestiynau gosod.
- Mae'r project ymchwil sy'n gysylltiedig â gwasanaeth yn ddarn o ymchwil hynod gymhwysol, fel archwiliad neu werthusiad o wasanaeth, a gwblheir yn ystod ail flwyddyn y rhaglen.
- Yn olaf, mae gennych eich project ymchwil mawr, a dyna fydd hanfod traethawd ymchwil eich doethuriaeth, y byddwch yn gweithio arno drwy gydol y rhaglen. Mae'r traethawd ymchwil yn cynnwys adolygiad systematig neu feta-ddadansoddiad, astudiaeth empirig a phapur ar oblygiadau ymchwil a chlinigol eich gwaith. Disgwylir i'r gwaith hwn fod o safon y gellid ei gyhoeddi, ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig mae dros 30 o bapurau hyfforddeion wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd. Yn eich blwyddyn olaf bydd gennych arholiad llafar, neu viva, ble byddwch yn amddiffyn eich traethawd ymchwil.
Mae'r rhaglen yn cynnal ffair ymchwil flynyddol, lle mae seicolegwyr clinigol lleol a chynrychiolwyr o ‘Banel y Bobl’ yn cyflwyno ac yn rhannu eu syniadau ymchwil. Anogir hyfforddeion i gysylltu â goruchwylwyr lleol (neu gydweithwyr eraill yn y DU) i drafod a datblygu eu project ymchwil ar raddfa fawr. Mae'r rhaglen yn cefnogi ac yn goruchwylio ymchwil ansoddol a meintiol yn ogystal â phrojectau dadansoddi data eilaidd. Mae'r tîm ymchwil yn ymdrechu i'ch cefnogi i wneud projectau yn eich meysydd diddordeb, yn hytrach na chael eich neilltuo i brojectau o restr.
Meysydd diweddar lle mae hyfforddeion wedi cynnal ymchwil -
- Exploring the Challenges of Intercultural Qualitative Health Research and the Experiences of Doctors in Lesotho.
- Recovery Factors in Type 1 Diabetes Disordered Eating.
- A Thematic Analysis of the Function of Sleep-wake Inversion among Adults with Psychosis.
- Developing Systemic Approaches to Tic Disorders in Education and Healthcare Settings.
- Exploring Healthcare Professionals' Experiences of Providing Care for People with Dementia across the Lifespan.
- The Ghost in Care: Mothers' Experiences of Mental Health and Involvement with Services following Separation from their Child(ren).
- Should it come with the Territory? Experiences and Discourses of two groups of Professionals.
- An Exploration of the role Social Class has in Clinical Psychology Training and for Adults Engaging with Psychological Therapies in the UK.
- An Exploration of Homelessness and Mental Health.
Darperir goruchwyliaeth ymchwil gan dîm y rhaglen, seicolegwyr clinigol lleol a chydweithwyr yn y brifysgol. Mae ymchwil mewn seicoleg glinigol a seicoleg iechyd glinigol yn un o gryfderau’r Ysgol Seicoleg. Mae’r rhaglen yn cefnogi projectau ymchwil o bob cwr o’r traddodiad ymarferwr gwyddonol, gan ddefnyddio methodolegau meintiol ac ansoddol.
Rydym yn cynnal cynhadledd ymchwil flynyddol lle bydd yr hyfforddeion yn cyflwyno eu projectau ymchwil trwy gyfrwng cyflwyniadau neu bosteri. Rydym yn gwahodd hyfforddeion sydd newydd eu derbyn i'r gynhadledd hon cyn iddynt ddechrau ar y rhaglen.
Meysydd diweddar ymchwil hyfforddeion -
Teitlau ymchwil 2017-2020
Dyma deitlau’r projectau ymchwil a wnaed gan ein hyfforddeion o’r tair carfan olaf i gymhwyso. Maent wedi eu dosbarthu dan y categorïau mwyaf perthnasol ond mae meysydd clinigol rhai ohonynt yn gorgyffwrdd.
Mae teitlau’r traethodau ymchwil yn ymdrin â’r adolygiad systematig a’r papur empirig, ac nid ydynt bob amser yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddulliau ansoddol a meintiol a ddefnyddiwyd.
Seicoleg amenedigol
- How do women in North Wales experience accessing a specialist perinatal mental health service?
- Seeing both sides: wellbeing in maternity services post COVID-19.
Plant/pobl ifanc
- Children in crisis: Trends in the mental health and well-being of children and young people in Wales from 2009-2015.
- Exploration of the mechanisms of change in video feedback sessions during Pre-School Autism Communication Therapy: The parents perspective.
- Developing systemic approaches to tic disorders in education and healthcare settings.
Seicoleg oedolion
- Serious mental illness and wellbeing: An exploration of the impact of the Covid-19 pandemic and interventions to improve social functioning.
- Why now? What did an autism assessment and diagnosis in middle age add to someone’s life? A thematic analysis of experiences of individuals seeking an HFA diagnosis in adulthood.
- The ripple effect of sexual trauma: A qualitative exploration of direct effects on women survivors’ romantic relationships.
- Sleep-wake reversal among people with psychosis: A functional contextualist interpretation
- Eating Disorder Recovery: An exploration of the influence of sociocultural factors.
- I can’t get no sleep: An exploration of sleep quality in stigmatised groups.
- The ghost in care: Mothers' experiences of mental health and involvement with services following separation from their child(ren).
- An Exploration of Homelessness and Mental Health.
- Similar yet different: experiences and perceptions of frequently overlooked groups within mental health contexts.
Seicoleg oedolion hŷn
- The experience of mental health problems in later life.
- Exploring healthcare professionals' experiences of providing care for people with dementia across the lifespan.
Rhywedd
- Where voices are heard: An exploration of transgender and gender non-conforming (TGNC) identity in the UK.
- Turning to face difficulty: Overcoming the barriers to men’s mental health.
Dulliau therapiwtig
- Exploring the effectiveness of Dialectical Behavioural Therapy in university students.
- A narrative analysis of an adventure therapy programme in early intervention psychosis services.
- Edrychwch ar y fideo hwn a wnaed am y therapi antur a ymchwiliwyd yn y traethawd ymchwil hwn. Mike Jackson oedd cyfarwyddwr ymchwil y rhaglen a goruchwyliwr y project hwn.
Niwroseicoleg
- Which came first, playing chicken or the egg on the head? Evidence for a causal relationship between paediatric traumatic brain injury and antisocial behaviour from a prospective national cohort study.
Seicoleg fforensig
- Women sent away: The needs and experiences of women in prison and forensic inpatient services.
- Offenders charged with indecent images of children offences: experiences of police contact, accessing support, and consequences for future offending.
- An exploration of female violence and anger.
- Care and compassion: An exploration of care experiences and compassion focused approaches in forensic and inpatient mental health services.
Seicoleg iechyd
- Renal patients' lived experiences and perspectives on conservative kidney management and kidney transplantation.
- The impact of involving young people with chronic health conditions as EBEs, an exploration.
- Young patients’ experiences of adhering to type 1 diabetes treatment.
- Psychological wellbeing and quality of life in multiple sclerosis.
- Exploring the role of social capital in psychological wellbeing and physical health.
Defnyddio sylweddau
- A qualitative exploration of the process and experience of change throughout ‘Moving on in my recovery’: a psychological group intervention promoting recovery from addiction.
- “Two different sides to it”: an exploration of psychotic experiences and cannabis use in young adults.
Staff/GIG
- Staff perspectives on challenges of working within the contemporary NHS.
- Creating more compassionate mental health teams: compassion-based intervention for staff working in inpatient mental health services. A feasibility study.
- Keep quiet and carry on: Living and working (during Covid - 19) in an inpatient unit.
- Exploring the challenges of intercultural qualitative health research and the experiences of doctors in Lesotho.
- Should it come with the territory? Experiences and discourses of two groups of professionals.
- An exploration of the role social class has in clinical psychology training and for adults engaging with psychological therapies in the UK.
Nid oes unrhyw arholiadau ysgrifenedig nas gwelwyd o’r blaen ar y rhaglen, ond byddwch yn cwblhau cyfanswm o 10 aseiniad, gan gynnwys traethawd ymchwil terfynol.
Caiff cymwyseddau mewn agweddau damcaniaethol ar seicoleg glinigol, sgiliau clinigol a materion proffesiynol eu gwerthuso trwy asesu parhaus trwy gyfrwng amrywiaeth o aseiniadau academaidd, cyflwyniadau, gwerthusiadau o gymwyseddau clinigol a phroffesiynol, adroddiadau ar weithgarwch clinigol (gan gynnwys un yn defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol), darn o waith adfyfyriol, project dadansoddi cronfa ddata, project ymchwil sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a phroject ymchwil mawr (y traethawd ymchwil). Er bod ffurf yr asesiadau wedi eu pennu, chi sy'n penderfynu ar y maes pwnc clinigol y mae arnoch eisiau rhoi sylw iddo.
Mae arholwyr allanol a chanddynt brofiad helaeth o raglenni hyfforddi seicoleg glinigol yn chwarae rhan amlwg yn y gwaith o feincnodi ein system farcio. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, caiff y traethawd ymchwil ei werthuso trwy gyfrwng arholiad llafar (viva voce).
Gall hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg wneud eu haseiniadau yn Gymraeg os dymunant. Mae'r rhaglen yn trefnu gwasanaethau cyfieithu.
Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol
Rydym yn parhau i ystyried sut y gallwn ehangu ein hamrywiaeth ym mhob maes a chynyddu ein cynhwysiant cymdeithasol. Mae'r rhain yn gysyniadau mawr, sy'n gofyn am amser ac egni i ddatblygu ac rydym yn falch iawn o'r ffordd yr ydym wedi datblygu hyd yn hyn, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol.
Yn ystod ymweliad achredu Cymdeithas Seicolegol Prydain yn 2019, nodwyd y sylw manwl a roddir i faterion yn ymwneud â’r Gymraeg ac amrywiaeth ddiwylliannol, ymgysylltiad grŵp amrywiol, ymroddedig ac angerddol ar Banel y Bobl, sy’n cyfrannu'n gadarnhaol i'r rhaglen fel un o’r meysydd o arfer da.
Yn 2021, gwnaethom sefydlu Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol. Mae holl feysydd y rhaglen yn cael eu gwerthuso yn erbyn y cysyniadau hyn, ac mae datblygiad ar y gweill i edrych ar sut gall y cwricwlwm fod yn fwy sensitif a dad-drefedigaethol; a oes angen rhoi sylw i dueddiadau yn y broses ddethol; sut gall lleoliadau sicrhau bod gostyngeiddrwydd diwylliannol yn cael eu hyrwyddo; a bod hyfforddeion yn gallu dangos y gostyngeiddrwydd hwn ac adlewyrchu eu dealltwriaeth o'r meysydd hyn yn eu haseiniadau. Mae pob un o bwyllgorau eraill y rhaglen yn adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol am y gwaith y maent yn ei wneud i newid ein hymarfer. Rydym yn gweithio gyda'n hyfforddeion presennol a blaenorol, a chydweithwyr yn y GIG ar hyn, ac yn cysylltu â'r gymuned academaidd ehangach ym Mhrifysgol Bangor. Rydym wedi trefnu cyfres o weithdai gyda hyfforddeion, aelodau tîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol i fwrw ymlaen gyda’r agenda hon.
Rydym yn parhau i ystyried ffyrdd o gynyddu amrywiaeth yn ein proffesiwn. Cynigir dau gynllun mentora:
I gefnogi ymgeiswyr o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y broses ymgeisio, rydym yn gweithio gyda Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru i gynnig chwech i wyth o sesiynau mentora i ymgeiswyr gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Nod y sesiynau hyn yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Gall yr ymgeiswyr hefyd drafod eu profiadau fel ymgeisydd o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Cysylltwch â Samantha Owen (Tiwtor Academaidd) samantha.owen@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora hwn.
Rydym yn awyddus i gefnogi ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg drwy gynnig chwech i wyth o sesiynau mentora iddynt gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Mae’r rhain yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora hwn.
Rydym wedi cefnogi hyfforddeion erioed gyda phrofiad byw ac unwaith eto yr adborth a gawn gan ein hyfforddeion yw ein bod yn gwneud gwaith da yn cynnig cefnogaeth, ail-werthuso cynlluniau hyfforddi ar gyfer yr hyfforddeion a gwneud addasiadau rhesymol eraill. Mae arnom ni hefyd eisiau rhoi mwy o sylw i werthfawrogi profiadau byw ac rydym yn gwneud newidiadau i'r cwricwlwm er mwyn adlewyrchu hyn. Mae gwaith pellach yn yr arfaeth gyda Phanel y Bobl a'r goruchwylwyr.
Wrth ddethol, rydym yn defnyddio gwybodaeth gyd-destunol a ddarperir gan ymgeiswyr yn rhan o'n proses o lunio rhestr fer. Buom yn gweithio gyda rhaglenni eraill yn y Deyrnas Unedig i lunio'r holiadur sy'n gofyn am brofiadau bywyd cynharach a allai fod wedi rhwystro ymgeisydd rhag cyrraedd ei lawn botensial. Byddwn yn ystyried yr wybodaeth hon wrth gynnig cyfweliad. Rydym yn parhau i werthuso effaith y dull hwn ar gyfansoddiad ein carfannau newydd.
Cafodd Grŵp Cyswllt Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr ein rhaglen ei enwi yn 'Panel y Bobl' gan ei aelodau. Sefydlwyd Panel y Bobl yn 2008 gyda'r nod penodol o gryfhau’r modd mae hyfforddeion yn dysgu o safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth/Gofalwyr. Mae gennym gynrychiolwyr dan hyfforddiant o bob blwyddyn carfan ar Banel y Bobl, gan felly ddarparu cyfleoedd rheolaidd i hyfforddeion a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ymgynghori â'i gilydd ar ystod eang o bynciau clinigol a meysydd datblygu perthnasol.
Ar hyn o bryd mae Panel y Bobl yn cynnwys unigolion sydd wedi ymwneud â seicoleg glinigol mewn amryw feysydd fel maes iechyd meddwl oedolion, seicoleg iechyd clinigol, oedolion hŷn, a gwasanaethau anabledd deallusol plant ac oedolion. Mae’r gynrychiolaeth ar y Panel y Bobl yn newid yn rheolaidd gydag aelodau newydd yn ymuno ac aelodau hŷn yn gadael, naill ai pan fyddant yn teimlo bod eu hymwneud wedi cyrraedd ei ddiwedd naturiol neu ar ôl cyfnod o dair blynedd.
Mae aelodau Panel y Bobl yn ymwneud ag ystod o wahanol agweddau ar y rhaglen hyfforddi. Mae ganddynt gynrychiolaeth ar bob pwyllgor rhaglen a rhan allweddol yn ein gweithdrefnau o ddethol hyfforddeion a staff. Mae aelodau Panel y Bobl yn cyd-hwyluso gweithdai therapi ymddygiad gwybyddol lle rhoddir adborth yn uniongyrchol i hyfforddeion ar eu perfformiad o safbwynt defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac maent yn cyfrannu’n frwd at nifer o sesiynau addysgu ar y rhaglen. Mae aelodau Panel y Bobl hefyd yn gweithredu fel ymgynghorwyr ar gyfer yr aseiniad Dysgu Seiliedig ar Broblemau. Mae hyfforddeion yn ystyried y profiad hwn yn un cadarnhaol ac yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi eu cyngor, eu harweiniad a'u hadborth. Mae hyfforddeion yn gofyn yn rheolaidd i aelodau Panel y Bobl am adborth ynghylch agweddau ar eu projectau ymchwil, fel syniadau o gynlluniau cynnar, taflenni gwybodaeth a ffurflenni cydsynio i gyfranogwyr, a chyflwyno projectau ymchwil ar wahanol gamau datblygu i gael cyngor ac adborth. Ceir trafodaethau bywiog yng nghyfarfodydd Panel y Bobl, lle dadleuir a gwyntyllir meysydd o ddiddordebau cyffelyb. Yn aml dywed hyfforddeion bod y cyfnewidiadau hyn wedi eu helpu i ddatblygu eu syniadau a'u meddylfryd ymhellach. Mae aelodau Panel y Bobl yn mynd i’r ffair ymchwil flynyddol, lle maen nhw a seicolegwyr clinigol BIPBC yn rhannu syniadau gyda’r hyfforddeion am aseiniadau ymchwil ac academaidd. Mae aelodau Panel y Bobl yn awyddus i fod yn fwy cysylltiedig ag ymchwil ac mae'r agwedd hon ar gyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael ei datblygu ar hyn o bryd i sicrhau'r cydweithredu a'r cyd-gynhyrchu gorau posibl yn y dyfodol. Mae Panel y Bobl hefyd wedi cynorthwyo i ddatblygu canllawiau cydsynio i gleientiaid ar gyfer hyfforddeion ar leoliad, a ffurflenni ar gyfer adborth defnyddwyr gwasanaeth i'w llenwi ar ddiwedd ymwneud yr hyfforddai.
Yn ymweliad achredu Cymdeithas Seicolegol Prydain â Phrifysgol Bangor yn 2019, canmolwyd Panel y Bobl y rhaglen fel hyn: mae ymwneud grŵp amrywiol, ymroddedig ac angerddol ar Banel y Pobl (grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr), yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r rhaglen yn faes o arfer da.
Rhown anogaeth gref i siaradwyr Cymraeg ymgeisio am le ar ein rhaglen gan fod canran helaeth o boblogaeth Gogledd Cymru yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Wrth lunio rhestr fer rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol am eich gallu i siarad Cymraeg (gan gynnwys dysgwyr). Nodwch ar eich cais pa mor hyfedr ydych chi yn y Gymraeg. Sylwch: gan fod nifer yr ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn parhau'n isel (1% o'r holl ymgeiswyr yn y deyrnas unedig, yn unol â data cyfle cyfartal y tŷ clirio), mae mwyafrif yr hyfforddeion ym mhob carfan yn siarad Saesneg.
Mae ein hymrwymiad i hyfforddi seicolegwyr clinigol sy'n siarad Cymraeg a all gwrdd â’r anghenion clinigol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i gynnwys agweddau ymarferol ar amrywiaeth ddiwylliannol yn ein hyfforddiant, a fydd yn ddeniadol i’n holl hyfforddeion. Mae cyllid ar gael i'r rhai hynny sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu a hoffai ddilyn cwrs gloywi i fagu mwy o hyder. Cynhelir dosbarthiadau gan Brifysgol Bangor yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd Cymru. Gall hyfforddeion hefyd fynd i wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg sylfaenol cyn dechrau'r rhaglen. Dyma wybodaeth am yr hyn y gall y brifysgol ei gynnig: https://www.bangor.ac.uk/cio/index.php.cy
Gall ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith gael cyfweliad Cymraeg a darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Gall hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg gwblhau eu haseiniadau academaidd yn Gymraeg os dymunant. Mae'r rhaglen yn trefnu gwasanaeth cyfieithu i waith ysgrifenedig a chyfieithu ar yr un pryd i gyflwyniadau llafar. Gallwn ddarparu ystod o gyfleusterau i gefnogi hyfforddeion Cymraeg eu hiaith i ddatblygu eu sgiliau ymarfer clinigol yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys lleoliadau a, lle bo’n ymarferol, goruchwyliaeth.
Rydym yn awyddus i gefnogi ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg drwy gynnig chwech i wyth o sesiynau mentora iddynt gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Nod y sesiynau hyn yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen hefyd yn gweithredu'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy ac i drafod y gefnogaeth a all fod ar gael i chi yn ystod y broses ddewis ac unrhyw addasiadau rhesymol y gallech fod eu hangen wrth hyfforddi. Gallwch nodi ar y ffurflen gais (Cynllun Hyderus o ran Anabledd) eich bod yn dymuno i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun. Bydd y meini prawf gofynnol a nodir o dan y gofynion mynediad gyda * yn cael eu cymhwyso i'ch cais.
Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddfa Myfyrwyr Anabl am ragor o wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr.
Ymgysylltiad a Chymorth i Hyfforddai
- Oherwydd maint bychan y carfanau o hyfforddeion mae gan y rhaglen awyrgylch gyfeillgar ac ymlaciol.
- Ar ôl cyrraedd, dyrennir 'cyfaill' i chi o un o'r carfannau eraill, a all helpu i chi ymgyfarwyddo â gogledd Cymru a'r rhaglen, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Er mwyn rhoi sylw i anghenion hyfforddi unigol, mae gan y rhaglen system o bennu Cydlynydd Hyfforddi i bob hyfforddai. Mae’r Cydlynydd Hyfforddi yn aelod seicoleg glinigol o dîm y rhaglen ac mae'n goruchwylio a monitro datblygiad hyfforddeion dros dair blynedd y rhaglen. Gall y Cydgysylltydd Hyfforddi roi cyngor i chi am aseiniadau drafft a dyma fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau.
- Mae cyllid ar gael ichi dderbyn 16 o sesiynau datblygiad personol a phroffesiynol gan gwnselwyr cydnabyddedig, therapyddion neu seicolegwyr clinigol sy’n annibynnol ar y rhaglen. Mae’r sesiynau hyn yn wirfoddol ac yn gyfrinachol i’r hyfforddai a’r cwnselydd ac nid yw’r rhaglen yn gwybod pa hyfforddeion sy’n manteisio ar y sesiynau.
- Gall hyfforddeion ddewis mentor proffesiynol (seicolegydd clinigol GIG lleol) i drafod materion sy’n ymwneud â hyfforddiant.
- Mae cyllideb ar gyfer absenoldeb astudio blynyddol ar gael hefyd i fynd i gynadleddau a gweithdai allanol.
Mae dau gynrychiolydd dan hyfforddiant fesul carfan ar holl bwyllgorau'r rhaglen a Phanel y Bobl. Gofynnir hefyd i hyfforddeion roi sylwadau ar yr holl sesiynau addysgu ac mae gofyn iddynt lenwi ffurflen adborth ar bob lleoliad yr ânt iddo.
Mae ceir les ar gael i hyfforddeion ar y rhaglen ac mae llawer o hyfforddeion yn manteisio ar hyn.
Yn ogystal â llyfrgell y rhaglen ei hun sydd o fewn Llyfrgell Deiniol, caiff hyfforddeion ddefnyddio'r ystod eang o gyfleusterau yn llyfrgell y brifysgol ac yn yr Ysgol Seicoleg, (e.e. labordai seicoleg a chyfrifiadurol). Gall hyfforddeion hefyd gael mynediad i lyfrgelloedd y GIG ym mhrif ysbytai’r ardal. Mae yna ystafell adnoddau bwrpasol i hyfforddeion sy'n cynnwys cyfrifiaduron y brifysgol a'r GIG. Mae gennym ni hefyd lyfrgell brawf gydag asesiadau, y gall hyfforddeion eu benthyca ar gyfer eu gwaith clinigol ac i ymarfer ar gyfer eu hasesiadau cymhwysedd yn rhan o'u lleoliadau.
Caiff pob hyfforddai ei gofrestru gyda llyfrgell Prifysgol Bangor, sy'n cymryd rhan mewn cynllun ledled y DU o'r enw SCONUL Research Extra. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi ymuno a benthyca o lyfrgelloedd prifysgolion eraill a allai fod mewn lleoliad mwy cyfleus i chi. Gallwch fenthyca hyd at 20 eitem o lyfrgell arall y flwyddyn, sy'n eich galluogi i gael gafael ar gyfnodolion, llyfrau a thraethodau ymchwil.
Canolfan Brailsfordyw canolfan chwaraeon y brifysgol ac mae'n darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor ac i'r cyhoedd. Ceir cyfleusterau dan do ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau cadw’n heini, yn cynnwys hyfforddiant pwysau, criced dan do, sboncen, trampolinio a llawer mwy.
Mae cyfleusterau awyr agored helaeth ar gael ar ddau safle, sef Canolfan Brailsford a safle'r Normal. Mae'r ddau o fewn pellter cerdded i'n hystafelloedd dysgu ym Mangor.
Ceir nifer o werthwyr tai ac asiantau gosod tai yn ardal Bangor a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw os bydd rhaid i chi symud dros dro neu'n barhaol yn ystod eich hyfforddiant.
Dyma rai dolenni:
www.reedsrains.co.uk
www.dafyddhardy.co.uk
www.rightmove.co.uk
Mae trefniadau gofal plant ar gael yn y brifysgol neu drwy eich awdurdod lleol, yn dibynnu ble rydych yn byw.
MaeTir Na n-Ogyn feithrinfa ddi-elw a gyllidir gan y brifysgol ac mae'n agored i bob sector o'r gymuned gyda 50 o leoedd gofal plant ar gael, 20 i fabanod o 3 mis oed a 30 i blant bach nad ydynt yn yr ysgol. Yn ogystal, ar gyfer plant 5 – 11 oed mae'r cyfadeilad yn cynnwys canolfan ar ôl ysgol a chynllun chwarae yn ystod gwyliau tymor ysgol.
Ariannu
Mae hyfforddeion yn weithwyr llawn amser Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cael gwyliau blynyddol ac yn derbyn buddion eraill yn unol â hawliau arferol y GIG. Ar ôl dechrau'r rhaglen, cewch eich talu ar bwynt cyntaf Band 6 y graddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid (www.healthcareers.nhs.uk) a byddant yn symud i'r ail a'r trydydd pwynt cyflog yn flynyddol, yn ddibynnol ar symud ymlaen yn llwyddiannus trwy'r rhaglen.
Ariennir swyddi dan hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a fydd hefyd yn talu ffioedd y brifysgol. Ar hyn o bryd cynigir pedwar ar ddeg lle hyfforddi bob blwyddyn.
Oherwydd rheoliadau cyllido a chyfyngiadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), ni allwn dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog) neu Ganiatâd i Aros am Gyfnod Amhenodol/Sefydlog yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am reoliadau statws ffioedd ar wefan UKCISA.
Telir costau teithio o leoliad clinigol y cytunir arno. Bydd taliadau am lety dros nos, naill ai yn ystod lleoliad neu flociau addysgu academaidd, ar gael lle byddai hyn yn fwy cost effeithiol na theithio bob dydd.
Os hoffech wneud cais i Raglen Seicoleg Glinigol Cymru, ac wedi cwblhau, neu yn dilyn rhaglen hyfforddi ar hyn o bryd, a ariannwyd gan gyrff hyfforddi’r GIG yn unrhyw un o’r gwledydd datganoledig, bydd angen bwlch o ddwy flynedd o leiaf rhwng gorffen hyfforddiant a ariennir gan y GIG a dechrau ar hyfforddiant seicoleg glinigol sy’n cael ei ariannu gan y GIG. Os ydych wedi dechrau ar raglen hyfforddi o’r fath cyn 16 Hydref 2023, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais gogyfer â mewnlif 2024. Sylwer: Os ydych wedi dechrau eich hyfforddiant CAAP yn ne Cymru, bydd angen bwlch o 2 flynedd arnoch rhwng gorffen hyfforddiant a ariennir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a dechrau’r rhaglen seicoleg glinigol fel y nodir yn eich contractau.
Gofynion Mynediad
Mae swydd-ddisgrifiad a gofynion personol Seicolegydd Clinigol dan hyfforddiant ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymry ar gael yma.
Defnyddir yr holl feini prawf isod yn y broses o greu rhestr fer. Ceir y wybodaeth angenrheidiol o ffurflen gais y Tŷ Clirio a'ch trawsgrifiad academaidd. Mae'r meini prawf a nodir gyda * yn cyfeirio at y meini prawf sylfaenol y mae'n rhaid i bob ymgeisydd eu cyflawni. Asesir y meini prawf hyn gan Seicolegwyr Clinigol y GIG a staff y rhaglen. Sylwch: Oherwydd trefniadau cyllido Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer lleoedd ar y rhaglen, ni allwn ystyried ceisiadau nad ydynt yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref.
Dim ond y wybodaeth a grybwyllir isod sy'n cael ei lawrlwytho o'ch cais yn ystod y broses o lunio rhestr fer, nid ydym yn gwybod eich enw, oedran, cyfeiriad ac ati. Ni fyddwn yn lawrlwytho’r ffurflen gais gyfan hyd nes y byddwn wedi penderfynu pwy i'w gwahodd am gyfweliad, pan fyddwn yn adolygu'r cais yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio egwyddorion recriwtio diogel.
- Cyn gwneud cais, dylech eisoes feddu ar radd anrhydedd sengl neu gydanrhydedd ddosbarth I neu II(i) mewn Seicoleg (neu radd drosi)* a dylech fod yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Siartredig ar Sail Raddedig. Byddwn, ar y cyd â Chymdeithas Seicolegol Prydain, yn cymhwyso meini prawf tebyg i feini prawf gradd israddedig mewn seicoleg yn achos gradd drosi seicoleg (www.bps.org.uk/membership/eligibility).
- Rydym angen trawsgrifiad o'ch gradd israddedig neu gymwysterau eraill sy'n rhoi cymhwysedd i chi ar gyfer aelodaeth siartredig ar sail raddedig.
- Rydym yn adolygu marciau modiwlau eich blwyddyn olaf ar eich trawsgrifiad ac yn cyfrifo cyfartaledd, heb gymhwyso unrhyw bwysoliad. Mae angen i'ch sgôr cyfartalog fod yn 60% neu'n uwch. Ar gyfer cyrsiau sy'n defnyddio systemau marcio gwahanol, rydym yn cymhwyso'r arweiniad a ddarparwyd i ni gan y Tŷ Clirio ar sut i ddehongli dosbarthiadau gradd eraill. Ar gyfer cwrs trosi, bydd eich holl fodiwlau yn cael eu defnyddio i gyfrifo'r cyfartaledd hwn.
- Dim ond os ydynt wedi cwblhau PhD y caiff ymgeiswyr â gradd israddedig seicoleg 2.2 eu hystyried. Nid ydym yn dyfarnu pwyntiau i raddau nad ydynt mewn seicoleg.
- Mae angen i chi fod wedi cwblhau'r radd sy'n rhoi cymhwysedd i chi ar gyfer aelodaeth siartredig ar sail raddedig pan fyddwch yn gwneud cais, sef eich gradd israddedig neu drosi.
- Disgwylir y byddwch wedi cael blwyddyn o leiaf o brofiad clinigol cyflogedig/profiad ymchwil*. Dylai profiad clinigol perthnasol roi'r cyfle i chi ryngweithio'n helaeth â phobl ag anawsterau iechyd neu seicolegol sylweddol, yn ddelfrydol dan oruchwyliaeth seicolegydd clinigol. Bydd profiad a gafwyd mewn swyddi cyflogedig eraill yn gweithio gyda phoblogaeth glinigol yn berthnasol hefyd (e.e. gweithiwr iechyd meddwl, cynorthwyydd gofal, eiriolwr). Dylai profiad ymchwil gynnwys ymchwilio i ffenomena seicolegol o fewn poblogaeth glinigol. Byddwn yn cydnabod uchafswm cyfwerth â dwy flynedd llawn amser o brofiad perthnasol cyflogedig.
- Nid yw profiad clinigol a gafwyd ac sydd ei angen fel rhan o hyfforddiant/addysg arall, yn hytrach na chyflogaeth â thâl, yn cael ei ystyried yn brofiad clinigol perthnasol.
- Er nad yw gwaith gwirfoddol yn cael ei ystyried yn brofiad clinigol cyflogedig perthnasol, dyfernir pwyntiau am hyn.
- Yn ychwanegol i'r uchod mae disgwyl i chi gyflwyno ffurflen gais* o ansawdd da, a gaiff ei hasesu gan ddau seicolegydd clinigol. Byddant yn edrych ar ramadeg a sillafu, yn ogystal â'ch crebwyll seicolegol a'ch sylfaen gwerthoedd. Er mwyn arddangos y nodweddion hyn, mae'n ofynnol eich bod yn sicrhau eich bod yn rhoi atebion llawn i’r cwestiynau penagored.
- Rhaid i’ch cais gynnwys dau ddatganiad boddhaol o addasrwydd. Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno datganiadau o addasrwydd academaidd a chlinigol da a chefnogol*. Mae angen i un datganiad o addasrwydd fod gan unigolyn sy'n gallu rhoi sylwadau ar eich galluoedd academaidd ac ymchwil. Darlithydd neu diwtor prifysgol yw'r unigolyn hwn fel rheol. Mae'r datganiad addasrwydd arall yn ymwneud â'ch sgiliau clinigol ac yn ddelfrydol fe'i darperir gan y cyflogwr neu'r goruchwyliwr o'ch swydd ddiweddaraf, oni bai eich bod wedi bod yn gweithio gyda'r canolwr am gyfnod cymharol fyr yn unig. Yn yr achos hwnnw gallech ystyried gofyn i'r sawl y buoch yn gweithio gydag ef/gyda hi cyn hynny ac sydd wedi eich adnabod am gyfnod hirach. Mae dau seicolegydd clinigol yn asesu'r datganiad. Os ydynt yn ystyried nad yw'r datganiad yn gefnogol, ni fydd eich cais yn mynd rhagddo. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â'r bobl sy'n darparu eich datganiad addasrwydd i sicrhau y gallant gefnogi'ch cais yn llwyr.
- Rydym hefyd yn cydnabod eich cymhelliant a'ch ymrwymiad trwy ddyfarnu pwyntiau am unrhyw gyflwyniadau mewn cynadleddau, cyhoeddiadau mewn cyfnodolion neu newyddlenni a gwaith gwirfoddol yr ydych wedi'i wneud. Nid oes unrhyw feini prawf isaf ynghlwm â'r adran hon.
- Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth y proffesiwn ac rydym yn defnyddio gwybodaeth gyd-destunol yn ein proses ddethol. Gweler yr adran Dethol Cyd-destunol am ragor o fanylion.
Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg yn gryf i wneud cais am y rhaglen hon ac rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol yn y cyfnod llunio rhestr fer, am eich gallu i siarad Cymraeg: naill ai’n rhugl neu fel dysgwr. Mae statws cyfreithiol y Gymraeg ym mhob maes o fywyd yng Nghymru (gan gynnwys iechyd), a’r gyfran sylweddol iawn o boblogaeth gogledd Cymru a gorllewin Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, yn golygu bod y rhaglen yn croesawu’r cyfle i hyfforddi pobl. i ddiwallu angen gwirioneddol am ddarparu gofal seicolegol o’r ansawdd gorau yn y Gymraeg. Cydnabuwyd yr ymrwymiad hwn yn ystod ymweliad ail-ddilysu Prifysgol Bangor yn 2019. Nodwch ar y ffurflen gais lefel eich hyfedredd yn y Gymraeg.
Gallwn ddarparu ystod o gyfleusterau i gefnogi hyfforddeion Cymraeg eu hiaith i ddatblygu eu sgiliau ymarfer clinigol yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys lleoliadau a, lle bo’n ymarferol, goruchwyliaeth, yn ogystal â chyflwyno gwaith ysgrifenedig a gwaith arall yn Gymraeg. Gallwn hefyd gefnogi hyfforddeion sydd eisiau dysgu Cymraeg, sy’n dymuno gloywi eu sgiliau, neu ddatblygu mwy o hyder i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn ymarferol.
Gan fod nifer yr ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn parhau'n isel (1% o'r holl ymgeiswyr yn y Deyrnas Unedig, yn unol â data cyfle cyfartal y Tŷ Clirio), mae mwyafrif yr hyfforddeion ym mhob carfan yn siarad Saesneg. Rydym yn cynnig sesiynau mentora i ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith. Am fwy o wybodaeth, gweler yr Adran Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar ein gwefan, neu fel arall cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk
Mae hyfforddiant mewn carfan a chymuned ddwyieithog, sy'n aml yn wledig, yn rhoi cyfleoedd gwych i chi wella'ch gwerthfawrogiad diwylliannol a'ch sgiliau o fewn ymarfer clinigol.
Os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, gofynnir i chi roi tystiolaeth eich bod yn medru Saesneg yn ddigonol. Rhaid i chi fod wedi cael lefel 8 yn y cynllun IELTS, heb unrhyw elfennau o dan 7.5. Nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd wedi cwblhau rhaglen seicoleg academaidd yn y Deyrnas Unedig trwy gyfrwng Saesneg, yn cael ei ystyried yn dystiolaeth o’ch gafael ar yr iaith Saesneg.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen yn gweithredu'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Ni fydd prifysgolion fel rheol yn caniatáu i chi gofrestru am Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol os ydych wedi cofrestru am unrhyw radd arall ar hyn o bryd, e.e. PhD neu raglen Meistr. Os oes gennych unrhyw ofynion sy'n weddill o raglen arall, efallai y bydd gofyn i chi dynnu'n ôl o'r rhaglen honno er mwyn derbyn lle neu i barhau â'ch astudiaethau at Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol. Os ydych yng nghamau olaf unrhyw raglen o'r fath, h.y. rydych wedi cyflwyno traethawd ymchwil neu ar fin gwneud hynny ar adeg ymgeisio, efallai y gellir ystyried eich cais.
Mae ein rhaglen wedi cyflwyno prosesau recriwtio cyd-destunol ers y myfyrwyr a dderbyniwyd yn 2022. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth y gall gosod llwyddiannau unigolion yn eu cyd-destun gan ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol am eu cefndir addysgol, cymdeithasol ac economaidd arwain at brosesau dewis tecach a mwy cynhwysol. Gall y wybodaeth hon ein helpu i adnabod unigolion sydd â photensial cryf ar gyfer llwyddiant ar lefel doethuriaeth ac o fewn y proffesiwn, na fyddent efallai wedi cael eu hadnabod fel arall.
Bydd y Tŷ Clirio yn eich gwahodd i gwblhau arolwg i gasglu data Dethol Cyd-destunol ar wahân i’r ffurflen gais. Mae’r Grŵp Hyfforddwyr mewn Seicoleg Glinigol wedi cytuno ar y cwestiynau yn yr arolwg hwn, sydd â thystiolaeth ar gyfer gwella cynwysoldeb a thegwch prosesau recriwtio.
Mae cwblhau’r arolwg hwn yn ddewisol, fodd bynnag, os gallwch ateb unrhyw un o’r cwestiynau sy’n rhoi rhywfaint o gefndir ychwanegol amdanoch, a’ch bod yn hapus i ddarparu hwn i ni drwy’r Tŷ Clirio, yna byddem yn eich annog i wneud hynny.
Rydym yn cynnwys eich gwybodaeth gyd-destunol yng ngham olaf ein proses llunio rhestr fer, ar ôl cymhwyso’r gofynion mynediad gofynnol a ddisgrifiwyd yn gynharach.
Bydd yr ymgeiswyr sy'n bodloni ein holl ofynion sylfaenol, ac nad ydynt yn cael eu gwahodd am gyfweliad ar sail eu safle neu am gael adolygu eu cais o dan y cynllun Hyderus o ran Anabledd, wedyn yn cael eu hadolygu gan ystyried y wybodaeth gyd-destunol a ddarparwyd.
Caiff y rhai sydd â'r nifer uchaf o 'faneri' eu gwahodd am gyfweliad.
Bydd nifer y lleoedd sydd ar gael i ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad gyda detholiad cyd-destunol yn amrywio'n flynyddol. Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd am gyfweliad, ac maent yn cael eu llenwi gan y rhai a wahoddwyd yn seiliedig ar eu sgôr a'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Yna bydd y lleoedd sy'n weddill yn cael eu dyrannu i ymgeiswyr â'r nifer uchaf o faneri.
Yn ystod y broses ddewis byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn unig. Felly, edrychwch ar eich negeseuon e-bost, yn ogystal ag unrhyw e-byst a all fod wedi mynd i'ch ffolder sbam, a rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt.
Mae Seicolegwyr Clinigol y GIG lleol, aelodau o Banel y Bobl a staff y rhaglen yn cyfrannu at bob agwedd ar y broses ddewis, gan gymhwyso’r meini prawf fel y nodir hwy o dan Ofynion Mynediad. Os nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad, rydym yn argymell eich bod yn gwirio eich manylion yn erbyn ein meini prawf dewis.
Disgwylir i'r cyfweliadau ar gyfer 2025 gael eu cynnal 24-28 Mawrth a byddant yn digwydd wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor. Gofynnir i chi hefyd gwblhau tasg ysgrifenedig yr wythnos flaenorol. Os cewch wahoddiad i ddod am gyfweliad, byddwch yn cael eich gwahodd hefyd i ymuno â ni am ddigwyddiad gyda’r nos (y noson cyn eich cyfweliad fel rheol). Yno cewch gyfle i siarad â hyfforddeion presennol a chlywed tipyn mwy am y rhaglen hyfforddi. Ni fydd aelodau'r panel cyfweld yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau pwy ydych chi neu dystiolaeth o'ch statws, er enghraifft, darparu eich pasbort, trwydded yrru ffoto-gerdyn ac ati.
Fel rheol byddwn yn cyfweld tair gwaith y nifer o leoedd wedi eu hariannu sydd ar gael. Mae’r paneli cyfweld fel rheol yn cynnwys seicolegwyr clinigol lleol, aelodau o Banel y Bobl ac aelodau o dîm y rhaglen, ac yn y cyfweliad asesir sgiliau clinigol, academaidd, ymchwil ac adfyfyrio, yn ogystal â’ch addasrwydd ar gyfer hyfforddiant clinigol. Trwy gydol y broses gyfweld cewch eich cefnogi gan staff y rhaglen a fydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i chi deimlo’n gyfforddus.
Cysylltir â phob ymgeisydd cyn gynted ag y bydd y paneli cyfweld wedi gwneud ei benderfyniad. Cynigir amser hefyd i chi ffonio'n ôl i gael sylwadau pellach.
Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth i hyfforddeion newydd ynglŷn â'r rhaglen a'r ardal leol cyn i chi ddechrau hyfforddi. Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch cymwysterau trwy ddarparu tystysgrif wreiddiol a dogfennau perthnasol eraill.
Mae Addasrwydd i Ymarfer yn ofynnol i'r holl broffesiynau sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Yn ystod hyfforddiant (cyn-gofrestru), y Rhaglenni sy'n gyfrifol am fonitro Addasrwydd i Ymarfer. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y Safonau HCPC i gael diffiniad.
Gellir nodi pryderon ynghylch Addasrwydd i Ymarfer yn ystod y broses ddewis. Bydd hyn yn cynnwys natur a thôn cyfathrebiadau ysgrifenedig a llafar gyda'r rhaglen yn ystod unrhyw gam o'r broses ddewis, yn ogystal ag ymddygiad yn ystod y broses gyfweld.
Yn ystod y broses ddewis, bydd materion a allai amharu'n sylweddol ar eich gallu i ymarfer yn cael eu nodi mewn modd agored ac adfyfyriol. Gallai'r rhain gynnwys, er enghraifft, a ydych yn fodlon derbyn sylwadau ynghylch unrhyw bryderon perthnasol, yn dangos hunanymwybyddiaeth briodol mewn perthynas ag anawsterau sy'n effeithio ar eich gallu i weithio, ac yn fodlon cydweithio â staff perthnasol i roi sylw iddynt (a'u goresgyn gobeithio).
Ar ôl i chi gael cynnig lle, caiff eich Addasrwydd i Ymarfer ei asesu trwy weithdrefnau sgrinio. Mae cael cynnig lle i wneud hyfforddiant yn amodol ar wiriadau boddhaol gyda'r Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol lleol a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Os ydyw gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn datgelu bod yr ymgeisydd wedi cael euogfarnau, bydd Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Clinigol a Chyfarwyddwr y Rhaglen yn ystyried a ellir derbyn yr ymgeisydd ar y rhaglen.
Os codir pryderon yn y gwiriad iechyd galwedigaethol, gellir tynnu’r cynnig yn ôl os na ellir gwneud addasiadau rhesymol i alluogi’r ymgeisydd i ddilyn yr hyfforddiant.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen yn gweithredu'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i drafod y gefnogaeth a all fod ar gael i chi yn ystod y broses ddewis ac unrhyw addasiadau rhesymol y gallech fod eu hangen yn ystod yr hyfforddiant. Gellwch nodi ar y ffurflen gais (Cynllun Hyderus o ran Anabledd) eich bod yn dymuno i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun. Bydd y meini prawf gofynnol a nodir o dan y gofynion mynediad gyda * yn cael eu cymhwyso i'ch cais.
Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddfa Myfyrwyr Anabl am ragor o wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr.
Mae gallu siarad Cymraeg yn nodwedd ddymunol yn y gofynion personol am seicolegydd clinigol dan hyfforddiant Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, gan mai Cymraeg yw iaith gyntaf cyfran sylweddol o gleientiaid. Ystyrir felly fod siarad Cymraeg yn sgil dymunol ac felly pan fydd gan ddau ymgeisydd sgoriau tebyg (tebyg i ddau bwynt degol) yn ystod y cam llunio rhestr fer neu gyfweliad, a bod un ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg, cynigir cyfweliad neu le hyfforddi i’r siaradwr Cymraeg.
Rydym yn defnyddio gweithredu cadarnhaol fel y caniateir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn cydnabod bod ymgeiswyr o leiafrifoedd hil a dynion heb gynrychiolaeth ddigonol yn y proffesiwn seicoleg glinigol. Mae'r ddau yn nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
I grynhoi: Os bydd gan ymgeiswyr sgôr tebyg ar y cam llunio rhestr fer neu gyfweld, yna bydd y cyfweliad neu le hyfforddi yn cael ei gynnig, yn nhrefn blaenoriaeth, i ymgeisydd sy’n siarad Cymraeg, ymgeisydd o gefndir hil, ac ymgeisydd sy’n hunaniaethu fel gwryw.
Cwestiynau Cyffredin
Dros y blynyddoedd gofynnwyd llawer o gwestiynau i ni am y rhaglen, y broses ddethol a materion eraill. Rydym wedi eu coladu ac wedi ceisio rhoi'r atebion i chi yn y Cwestiynau Cyffredin hyn.
1. Pa mor anodd yw hi i gael lle ym Mangor?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer y ceisiadau wedi cynyddu’n gyson. Ar gyfer cyfweliadau 2019 cawsom 257 o geisiadau. Fel rheol mae gennym ddeg lle hyfforddi. Fel rheol byddwn yn cyfweld â 36 ymgeisydd.
2. Nid oedd fy ngraddau Lefel A yn dda. A oes gobaith imi fynd ar raglen hyfforddiant clinigol Bangor?
Nid ydym yn ystyried eich Lefelau A. Mae gennym ddiddordeb yn eich perfformiad ar lefel gradd israddedig ac o bosibl y tu hwnt. Byddem yn disgwyl fod yr ymgeiswyr wedi cyflawni o leiaf 2:1 yn eu gradd. Yn anffodus, nid ydym bellach yn ystyried ceisiadau gyda 2.2. neu is, hyd yn oed os ydych chi wedi ennill gradd meistr. Dim ond PhD a allai wneud iawn am radd israddedig isel.
3. Ar hyn o bryd rwyf yng nghanol fy astudiaethau israddedig ac rwy’n ansicr a oes angen gradd 2:1 arnaf. Er imi gyrraedd safon 2: 1 yn y rhan fwyaf o’r asesiadau, safon 2: 2 fu’r canlyniad mewn rhai meysydd. Os caf radd 2:2 yn y pen draw, a wnaiff hynny gyfyngu ar fy siawns?
Mae gofynion academaidd uchel i Raglenni Seicoleg Glinigol a rhaid i chi allu dangos y gallwch ymdopi â’r gofynion hynny. Mae tystiolaeth o lwyddiant mewn astudiaethau israddedig yn dda o beth. Byddwn yn eich annog i ganolbwyntio ar gael gradd 2:1 os oes modd. Gweler hefyd yr ateb i gwestiwn 2.
Os nad yw’ch gradd israddedig o safon 2.1, awgrymaf eich bod yn edrych ar wefan Tŷ Clirio am feini prawf dewis y rhaglenni eraill. Mae yna raglenni sy’n ystyried 2.2 gyda gradd Meistr. Ar raglenni eraill gallwch sefyll arholiad mynediad, waeth beth yw eich gradd israddedig.
4. Rwy’n fyfyriwr israddedig yn fy mlwyddyn olaf ac yn awyddus i astudio seicoleg glinigol. Beth yw’r ffordd orau o fynd ati i gael lle?
Mae angen i chi ganolbwyntio ar ennill y radd academaidd uchaf bosibl. Dyma’ch blaenoriaeth os ydych am wneud yn fawr o’r cyfle. Sicrhewch fod tiwtor academaidd, a fydd yn gallu rhoi geirda academaidd cefnogol iawn i chi, yn sylwi ar eich gwaith.
Rydym hefyd yn disgwyl bod gan ymgeiswyr brofiad taledig o weithio gyda phoblogaeth glinigol sy’n debyg i’r bobl y byddai seicolegydd clinigol yn eu gweld. Fel arfer mae hynny’n golygu ennill profiad cyn a/neu ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae angen o leiaf blwyddyn o waith taledig, a bydd gan y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr gryn dipyn yn fwy na hynny. Er mwyn cael y mathau hyn o swyddi, mae’n debygol y bydd angen i chi feddu ar brofiad perthnasol arall. Weithiau gall gwaith gwirfoddol fod yn gam tuag at gyflogaeth daledig. Ystyriwch swyddi fel cynorthwyydd gofal, eiriolwr iechyd meddwl, cynorthwyydd ystafell ddosbarth, gweithiwr iechyd meddwl. Gwyddom ei bod yn anodd cael swyddi yn y gwasanaeth iechyd.
Mae yna wahanol lwybrau at le ar raglen hyfforddiant clinigol. Mae gan rai ymgeiswyr gefndir clinigol yn bennaf, a bod wedi gwneud ymchwil a’u bod hefyd yn meddu ar rywfaint o brofiad clinigol.
5. Rwy’n fyfyriwr seicoleg yn fy mlwyddyn olaf ac mae gen i ddiddordeb dilyn gyrfa mewn seicoleg glinigol. Fe’m cynghorwyd i wneud PhD sy’n berthnasol yn glinigol cyn gwneud cais, oherwydd bod y gystadleuaeth mor gryf. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn cytuno bod hwnnw’n llwybr da i’w ddilyn, yn hytrach na chael profiad fel seicolegydd cynorthwyol.
Mae PhD mewn maes clinigol yn llwybr derbyniol at ennill profiad defnyddiol, a fydd wedyn yn gefn i gais am hyfforddiant clinigol. Rydym yn chwilio am gyfuniad o gymhwysedd academaidd, cymhwysedd o ran ymchwil, profiad clinigol a rhinweddau personol. Byddai PhD llwyddiannus yn golygu fod gennych y ddau gyntaf ond nid o reidrwydd yr un olaf.
6. Rwyf newydd gwblhau gradd, nad yw Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) o reidrwydd yn ei chydnabod. A allaf ddilyn fy niddordeb mewn Seicoleg Glinigol er hynny?
Un o’r gofynion mynediad sylfaenol yw gradd y mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn cydnabod ei bod yn cyflawni Sail Graddedigion ar gyfer Aelodaeth (http://www.bps.org.uk/membership). Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws eich rhaglen radd, gofynnwch i aelod o staff eich adran israddedig neu mynnwch olwg ar wefan Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am y manylion: http://www.bps.org.uk/careers.
7. Nid Seicoleg oedd fy ngradd. Mae gen i ddiddordeb mewn ymchwil clinigol. Tybed pa gyfleoedd sydd i gymryd rhan yn hynny?
Mae’r rhaglen DClinPsy yn rhaglen o hyfforddiant proffesiynol i hyfforddi seicolegwyr clinigol. Os mai ymchwil yn unig yw eich diddordeb, gallech fwrw golwg dros wefan yr Ysgol Seicolegam fanylion unrhyw gyfleoedd ymchwil yn yr adran seicoleg. Efallai y byddai’n werth ymchwilio i’r posibilrwydd o wneud rhaglen drosi mewn seicoleg, a allai gyflawni’r Sail Graddedigion ar gyfer Aelodaeth gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (gweler cwestiwn 6). Ar ôl i chi gwblhau rhaglen drosi, byddai gennych y dewis o wneud cais am hyfforddiant clinigol.
8. Pa fath o brofiad sydd gan ymgeisydd nodweddiadol?
Fel rheol mae gan ymgeiswyr llwyddiannus fwy na 12 mis o gyflogaeth daledig mewn maes sy’n rhoi cyfle iddynt weithio gyda phoblogaeth glinigol debyg i eiddo seicolegydd clinigol. Gweler hefyd gwestiynau 5.
9. Mae gen i flwyddyn neu ddwy o brofiad yn gweithio’n llawn amser ym maes iechyd meddwl ond nid yn uniongyrchol gyda seicolegwyr clinigol. A fydd fy nghais yn cael ei gymryd o ddifrif?
Mae’r profiad rydych chi’n ei ddisgrifio yn swnio’n berthnasol. Nid yw cryfder y profiad sydd gennych o reidrwydd yn dibynnu ar weithio’n uniongyrchol gyda seicolegydd clinigol. Fodd bynnag, hoffem ichi fod wedi gweithio mewn fframwaith seicolegol ac un ffordd o gyflawni hynny yw trwy weithio o dan oruchwyliaeth seicolegydd clinigol. Awgrymwn i chi barhau i feddwl am agweddau seicolegol unrhyw waith a wnewch, hyd yn oed os nad gwaith seicolegol yw ei ffocws.
10. Mae angen profiad gwaith ym maes iechyd meddwl ar rai prifysgolion neu brofiad o ymchwil clinigol. Pa un sydd orau? Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn cael profiad gwaith perthnasol. Pa fath o brofiad gwaith sydd ei angen i fod â gobaith go lew o ymuno â’r rhaglen?
Disgwyliwn i ymgeiswyr ddangos rhywfaint o ddealltwriaeth o rôl seicoleg yn y gwaith y maent yn ei wneud. Fel arfer mae hynny’n golygu ennill profiad ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae angen o leiaf blwyddyn o waith taledig arnom – ond bydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr lawer mwy na hynny. Yn ogystal â phrofiad clinigol yn unig, mae ymchwil neu brofiad o werthuso gwasanaeth clinigol hefyd yn werthfawr.
11. Rwy’n weithiwr gwirfoddol, sy’n cynnwys helpu rhai sydd ag afiechyd meddwl, ond rwyf newydd gael cynnig swydd fel seicolegydd cynorthwyol. Tybed pa swydd y byddech chi’n edrych yn fwyaf ffafriol arni wrth ystyried ymgeiswyr?
Mae eich gwaith gwirfoddol yn berthnasol a bydd yn gefn i chi wrth i chi ymgeisio am swyddi taledig eraill. Disgwyliwn i ymgeiswyr feddu ar brofiad o gyflogaeth daledig mewn proffesiwn sy’n helpu, a bydd manteision mawr i swydd lle mae goruchwyliaeth seicolegydd clinigol ar gael. Mae gwaith yn y GIG yn hynod fuddiol oherwydd byddai’n eich galluogi i ddod i ddeall y cyd-destun y cewch eich cyflogi ynddo yn ystod yr hyfforddiant.
12. Beth ydych chi’n chwilio amdano mewn ymgeiswyr o ran profiad ôl-radd? A fyddai’n well imi wneud MSc gyda gwaith gwirfoddol neu a fyddai’n well treulio peth amser yn gweithio fel cynorthwyydd seicoleg neu gynorthwyydd ymchwil?
Yn gyffredinol, ni roddir mwy o bwys ar brofiad clinigol nac ymchwil glinigol. Ochr yn ochr â chefndir academaidd cryf, bydd angen i chi feddu ar brofiad clinigol. Mae gradd gyntaf dda, dosbarth 1af neu 2.1 yn gam cyntaf pwysig. Mae rhywfaint o brofiad academaidd neu ymchwil pellach mewn maes sy’n gysylltiedig yn glinigol ar ôl eich gradd yn sicr yn berthnasol. Mae’n debyg y byddai ymchwil anghlinigol yn llai addas o ystyried y byddwch eisoes wedi dangos eich galluoedd academaidd. Gellid hefyd ennill profiad uniongyrchol o weithio gyda phoblogaeth glinigol trwy ymchwil. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael swydd seicoleg gynorthwyol mewn lleoliad clinigol, efallai yr hoffech chi ystyried ennill profiad o weithio gyda phobl mewn cyd-destun clinigol arall sy’n berthnasol i seicoleg glinigol.
13. Erbyn i’r cyfweliadau gael eu cynnal, byddaf wedi ennill 6 mis o brofiad gwaith ond ar hyn o bryd dim ond ychydig wythnosau o brofiad sydd gennyf mewn rôl ofal. A oes diben imi wneud cais nawr? A fyddech chi’n gwrthod fy nghais yn syth?
Byddwn yn ystyried y profiad sydd gennych hyd at adeg gwneud y rhestr fer (sy’n tueddu i fod tua chanol mis Chwefror), bydd eich contract yn dod i ben cyn hynny. Rydym yn chwilio am o leiaf blwyddyn o brofiad mewn rôl daledig yn gweithio gyda phoblogaeth glinigol, ond mae profiadau eraill fel gweithio mewn rôl ymchwil hefyd yn cyfrannu – er enghraifft, a fuoch chi’n casglu data gydag unigolion neu grwpiau o bobl?
14. Nid chefais fy nghyflogi am dâl erioed fel seicolegydd cynorthwyol ond, ar ôl gofalu am rywun yn y teulu sydd ag iselder ysbryd, rwy’n teimlo fy mod wedi ennill cyfoeth o brofiad – a yw hyn yn cyfrif?
Mae’r rhaglen yn edrych yn gadarnhaol ar ymgeiswyr sydd â phrofiadau personol. Er nad yw profiadau o’r fath o reidrwydd yn gyfwerth â chyflogaeth broffesiynol, maent yn gwneud cyfraniad da a gallech sôn amdanynt yn natganiad personol y ffurflen gais. Fodd bynnag, bydd angen y profiad taledig perthnasol ychwanegol arnoch fel y nodir yn y cwestiynau blaenorol yn gefn i’ch cais.
15. Mae’n anodd iawn cael swyddi seicoleg cynorthwyol. Sut arall y gallaf ennill y profiad sydd ei angen?
Gwyddom ei bod hi’n anodd cael swyddi cynorthwywyr y dyddiau hyn. Fodd bynnag, nid drwy swyddi seicolegwyr cynorthwyol yn unig y mae ennill profiad. Rydym yn chwilio am brofiad taledig o weithio gyda phoblogaeth glinigol, yn debyg i brofiad seicolegydd clinigol. Gallech wneud hynny er enghraifft trwy weithio fel cynorthwyydd gofal mewn cartref gofal i bobl hŷn, gweithio gyda phobl sydd ag anabledd deallusol neu gorfforol, eiriolwr iechyd meddwl neu gynorthwyydd dosbarth. Gall swydd IAPT fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â swyddi iechyd meddwl eraill. Yr her mewn swydd lle nad yw’r oruchwyliaeth gan seicolegydd clinigol, yw cadw ffocws ar elfen seicolegol eich gwaith.
16. Yn y gorffennol, bûm yn gweithio ym myd busnes mewn maes sydd i’w weld yn berthnasol i seicoleg glinigol. A fydd hyn yn cael ei ystyried yn berthnasol?
Gallwn ystyried bod gwaith neu brofiad busnes a chymunedol mewn proffesiwn gofalu yn berthnasol pe bai hynny’n cynnwys gweithio gyda phobl sydd hefyd o dan gylch gwaith seicolegydd clinigol. Bydd angen i chi egluro natur eich gwaith yn glir yn eich cais.
17. Rwy’n Seicolegydd Clinigol hyfforddedig yn yr Eidal – a oes rhaid imi wneud y rhaglen DClinPsy i fedru gweithio yn y Deyrnas Unedig?
I bobl sydd wedi’u hyfforddi mewn seicoleg glinigol mewn mannau eraill (yn enwedig yng Ngwledydd eraill yr UE) – gwneir darpariaeth gan Gyngor y Proffesiynau Gofal Iechyd. Cysylltwch â nhw am fwy o wybodaeth (http://www.hcpc-uk.org).
18. Nid wyf yn ddinesydd UE. A allaf wneud cais i’r rhaglen?
Os cynigir lle i rywun ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n talu’r holl ffioedd dysgu a thelir cyflog i’r hyfforddai ac mae ganddo/ganddi statws cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig. Ni wnaiff Llywodraeth Cymru dalu costau ffioedd ymgeiswyr sy’n gymwys i dderbyn ffioedd tramor. Mae yna raglenni eraill yn y Derynas Unedig sy’n ystyried ymgeiswyr sydd â ffyrdd eraill o ariannu eu hyfforddiant. Awgrymaf i chi fwrw golwg ar wefan y Clearing House. Oherwydd nad yw canlyniad Brexit yn glir hyd yma, rydym yn eich cyfeirio at wefan y Clearing House am fwy o wybodaeth.
19. Rwy'n ddinesydd yr UE. A allaf wneud cais i'r rhaglen?
Oherwydd rheoliadau ariannu a chyfyngiadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ni allwn dderbyn ceisiadau nad ydynt yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref. Bydd ymgeiswyr o’r UE, gwladolion eraill yr AEE a’r Swistir, sydd â statws rhagsefydlog neu sefydlog yn y DU, yn cael eu hystyried fel statws ffioedd cartref. Pan ofynnir i chi, rhowch yr holl wybodaeth angenrheidiol fel y gellir cadarnhau eich statws.
20. Rwy’n poeni a oes cyfyngiad oedran uchaf ar gyfer yr hyfforddiant. A fydd fy oedran yn broblem o ran cael lle ar y rhaglen a sicrhau cyflogaeth wedi hynny?
Nid oes cyfyngiad oedran penodol ar gyfer hyfforddiant ac mae proffil oedran amrywiol ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus.
21. Beth yw profiad ymgeiswyr Du/Asiaidd/lleiafrifoedd ethnig wrth ymgeisio am le ar y rhaglen?
Rydym yn frwd iawn dros gael pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol i hyfforddi fel seicolegwyr clinigol oherwydd mae hynny’n adlewyrchu’r gymysgedd amlddiwylliannol sydd ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig. Gwyddom nad oes digon o gynrychiolaeth o blith y lleiafrifoedd du ac ethnig yn y proffesiwn. Mae hyfforddeion o’r cefndiroedd hynny wedi cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus gyda ni. Er mwyn cefnogi ymgeiswyr o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y broses ymgeisio, rydym yn gweithio gyda Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru i gynnig chwech i wyth o sesiynau mentora i ymgeiswyr gyda naill ai hyfforddai neu seicolegydd clinigol cymwys. Nod y rhain yw cynnig yr opsiwn i'r person gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Lle y dymunir, gall yr ymgeiswyr hefyd archwilio eu safle a'u profiadau fel ymgeisydd o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae gan y rhaglen bwyllgor gwrth-hiliaeth, gwrth-wahaniaethu a hyrwyddo gostyngeiddrwydd diwylliannol, sy'n adolygu pob agwedd ar hyfforddiant.
22. Mae gen i anabledd a allai ei gwneud hi’n anodd i mi gymryd rhan yn y cyfweliadau. A allech chi roi rhywfaint o gyngor imi?
Rydym yn annog ymgeiswyr sydd ag anableddau i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael cynnig cyfweliad. Byddwn yn ymgynghori â chi fel ymgeisydd, er mwyn ceisioi gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn ystod y broses gyfweld.
23. Mae gen i gyflwr iechyd cronig. A fyddai hynny’n fy atal rhag gwneud cais?
Disgwyliwn i bob ymgeisydd llwyddiannus gael ei sgrinio trwy Iechyd Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Os bernir eich bod yn ffit i weithio fel seicolegydd clinigol dan hyfforddiant, ni fyddwch yn cael eich atal rhag parhau â’r rhaglen. Byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i hwyluso’r hyfforddiant i chi. Gallai hynny olygu y bydd oedi cyn i’r hyfforddiant ddechrau, er mwyn caniatáu inni roi’r addasiadau gofynnol ar waith.
24. Mae fy mhryder pennaf yn ymwneud â pha mor addas yw’r rhaglen i rywun anabl? Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw feddyliau neu sylwadau sydd gennych ar y mater hwn.
Ein nod yw rhoi cefnogaeth ymarferol i hyfforddeion sydd ag anabledd. Fodd bynnag, mae anghenion unigol pawb yn wahanol, ac yn yr achos yma awgrymwn i chi gysylltu â c.lamers@bangor.ac.uk (Tiwtor Derbyn).
25. A yw’r rhaglen yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Mae safle’r brifysgol yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac felly hefyd yr holl ystafelloedd addysgu a’r ystafelloedd adnoddau, yn ogystal â swyddfa staff y rhaglen. Rydym yn cynnal arolygon o’r lleoliadau’n rheolaidd i asesu pa leoliadau a all ddarparu mynediad i hyfforddeion sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Os cysylltwch â ni’n uniongyrchol, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am hynny.
26. Sut allwn i wella fy ffurflen gais a gwneud iddi sefyll allan?
Rydym yn asesu eich ffurflen gais ar amrywiol agweddau, gan gynnwys gwallau sillafu a gramadeg. Bydd y ffurflenni sydd wedi’u llenwi’n gywir, a’r cwestiynau wedi’u hateb yn ôl y gofyn, yn rhoi argraff dda. Nid oes llawer o le ar y ffurflen gais i chi fynegi chi’ch hun. Tynnwch sylw at berthnasedd eich profiad i seicoleg glinigol. Peidiwch â cheisio gorlwytho gwybodaeth ychwanegol trwy ddefnyddio ffontiau bach ac ati. Cofiwch ofyn i’ch canolwyr bob amser a ydynt yn hapus i ysgrifennu geirda o’ch plaid chi.
27. Nid wyf wedi cael cynnig cyfweliad eleni, a gaf i adborth am fy ffurflen gais?
Gallwch gysylltu â Carolien Lamers ar amser penodol a nodir yn y llythyr i gael gwybod y canlyniad. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn edrych yn ofalus ar y Cwestiynau Cyffredin yma er mwyn i chi allu nodi’r meysydd hynny y mae gennych gryfderau a gwendidau ynddynt. Nid ydym bellach yn rhoi adborth dros y ffôn ynglŷn â cheisiadau.
28. Beth ydych chi’n chwilio amdano mewn cyfweliad?
Rydym yn chwilio am y rhinweddau sydd eu hangen ar seicolegydd clinigol cymwys fel sgiliau cyfathrebu, meddwl seicolegol a dadansoddol. Yn y cyfweliadau, rydym am gael cip ohonoch fel person a gweld a oes gennych chi’r sgiliau academaidd i ymdopi â’r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr defnyddwyr y gwasanaeth a’r gofalwyr yn awyddus i weld a allant weithio gyda chi.
29. A fyddai’n bosibl galw i mewn i gael sgwrs gyda rhywun ynglŷn â fy addasrwydd ar ryw adeg?
Credwn y gwelwch chi atebion i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau yn y ddogfen hon a dogfennau eraill y rhaglen fel cofnod y Clearing House a’r Llawlyfr Amgen. Os oes gennych gwestiwn penodol nad ydym wedi rhoi sylw iddo anfonwch e-bost at: c.lamers@bangor.ac.uk.
30. Beth yw’r Llawlyfr Amgen?
Mae Pwyllgor Cysylltiedig y DCP yn llunio ac yn cyhoeddi’r llawlyfr bob blwyddyn, trwy anfon holiaduron at hyfforddeion pob rhaglen. Ar hyn o bryd gallwch ddarllen safbwyntiau a phrofiadau ein hyfforddeion cyfredol. Edrychwch ar www.bps.org.uk Grŵp Cyn-gymhwyso DCP.
31. Pwy fydd yn fy nghyflogi?
Cyflogir pob hyfforddai ar gontract am gyfnod penodol o dair blynedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Mae BCUHB yn darparu gwasanaethau iechyd acíwt, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i Ogledd Cymru, a’r rheiny’n cael eu darperu trwy rwydwaith o ysbytai, canolfannau iechyd a chlinigau.
32. A allaf wneud y rhaglen yn rhan-amser?
Nid ydym yn cynnig rhaglen ran-amser. Fodd bynnag, da chi cysylltwch â ni: (c.lamers@bangor.ac.uk) oherwydd gallwn eich helpu os oes gennych ofynion penodol o ran cael mynediad at y rhaglen.
33. Oes rhaid i mi weithio yng Ngogledd Cymru ar ôl i mi orffen y rhaglen?
Nod y rhaglen yw darparu seicolegwyr clinigol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae disgwyliad cryf y bydd y rhai sy’n derbyn hyfforddiant yng Ngogledd Cymru yn cymryd swyddi efo’r Gwasanaeth Iechyd yn lleol ar ôl cymhwyso. Weithiau, mae amgylchiadau’n drech na hynny. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd pob hyfforddai’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd fel Seicolegwyr Clinigol cymwys.
34. Faint mae hyfforddeion yn cael eu talu?
Caiff yr hyfforddeion eu talu’n unol ag Agenda Newid gyfredol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’r hyfforddeion ar Fand 6.
35. Faint o wyliau blynyddol a gaf?
Byddwch yn cael 27 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, 29 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth gyda’r GIG a 33 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (ynghyd â gwyliau banc).
36. A oes unrhyw arholiadau?
Nac oes, rydym yn defnyddio amrywiaeth o waith rhaglen i asesu cymhwysedd.
37. A fyddaf o dan anfantais os na allaf siarad Cymraeg?
Oherwydd bod cyfran sylweddol o’r cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae anogaeth gref i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg wneud cais. Ar gyfartaledd mae gennym un neu ddau o hyfforddeion Cymraeg y flwyddyn, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn siarad Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth i chi ddysgu Cymraega mynd i’r ysgol haf. Mae cyfanswm yr ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar draws yr holl raglenni yn parhau i fod yn isel, sef tua 1% o’r holl ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig.
38. Beth yw amser dechrau a gorffen y diwrnod gwaith fel y gallaf wneud y trefniadau gofal plant cyn imi ddechrau?
Mae’r dysgu fel arfer yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 5.00pm. Mae’r dysgu’n digwydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Gwneir trefniadau gweithio unigol gyda hyfforddeion pan fyddant yn cychwyn ar eu lleoliadau mewn cydweithrediad â’u goruchwylydd clinigol. Gan eich bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae’n ofynnol i chi weithio 37.5 awr yr wythnos.
39. A fyddaf yn cael cyfle i ddatblygu mewn ffordd hyblyg h.y. a oes cyfleoedd imi ddatblygu fy ngwybodaeth am y meysydd sydd o ddiddordeb imi o ran y dysgu a’r lleoliadau?
Rydym yn ymdrechu i’ch hyfforddi mewn amrywiaeth dda o ddamcaniaethau, dulliau, ymyraethau, ymchwil a materion proffesiynol. O ran dulliau therapiwtig, rydym yn canolbwyntio ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol a therapïau’r Drydydd Don: Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi a Sgema, Therapi Derbyn ac Ymrwymiad, a Therapi Ymddygiad Dialectig. Ar y lleoliadau, rhoddir peth ystyriaeth i’ch anghenion a’ch dymuniadau datblygiadol penodol chwithau. Gall hynny ddigwydd yn arbennig yn y drydedd flwyddyn pan gewch chi ddewis eich lleoliad dewisol. Mae disgwyl i chi wneud eich holl leoliadau clinigol yn ardal Gogledd Cymru. Yn y rhan fwyaf o’r aseiniadau academaidd mae’r tasgau’n caniatáu ichi ganolbwyntio ar faes neu bwnc clinigol sy’n berthnasol ar adeg eich hyfforddiant a’ch diddordeb.
40. A fyddai angen i mi allu gyrru?
Er bod y dysgu’n digwydd ym Mangor, gall y lleoliadau clinigol fod mewn amryw o leoedd ledled Gogledd Cymru. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn ymarferol wrth orfod ymweld â chartrefi ac yn y blaen. Felly, byddai’n dda o beth petai gan yr hyfforddeion drwydded yrru lawn a’u bod yn berchen ar gar neu’n manteisio ar Gynllun Car Prydles y GIG. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd anabledd.
41. A fyddaf yn cael PhD ar ddiwedd yr hyfforddiant?
Bydd yr hyfforddiant i fynd yn seicolegydd clinigol yn rhoi Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol i chi. Mae hyn yn wahanol i radd PhD, sy’n radd ymchwil a geir trwy gwblhau darn o ymchwil diffiniedig, a hynny fel arfer dros gyfnod o 3 blynedd. Bydd yr hyfforddiant clinigol yn cynnwys sawl darn o waith academaidd, gan gynnwys tri phroject ymchwil. Mae’r darn cyntaf o waith yn cynnwys cynnal dadansoddiad ar set ddata fawr. Mae un project yn gweithio gyda data sy’n bodoli eisoes gan un o wasanaethau’r Bwrdd Iechyd i ateb cwestiwn sy’n ymwneud ag archwilio sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth (ac y mae’n ei gynhyrchu’n aml). Y project mwyaf yw ymchwil sy’n berthnasol yn glinigol, a gaiff ei gynllunio a’i gynnal gennych chi. Byddwch yn treulio rhyw 24 mis yn gwneud y gwaith hwnnw a bydd arholiad vice voce arno.
42. Ni fyddaf yn cwblhau fy ngradd PhD tan ar ôl y cyfweliadau a bydd fy Viva ar ôl i’r Rhaglen ddechrau fis Hydref. A wnewch chi ystyried fy nghais?
Byddwn yn ystyried eich cais gan ddefnyddio ein meini prawf dewis, ond ni allwn ddyfarnu pwyntiau i chi am y PhD oherwydd na fydd hwnnw wedi’i gwblhau ar yr adeg y byddwn yn llunio’r rhestr fer.
43. Pryd mae’r rhaglen yn cychwyn yn union?
Bydd y rhaglen yn dechrau ar y dydd Llun agosaf at y 1af o Hydref.
44. Mae angen geirda arnoch gan fy nghyflogwr presennol. Dim ond ers ychydig fisoedd y bûm yn gweithio gyda nhw ac rwy’n teimlo y byddai fy nghyflogwr blaenorol yn gallu rhoi geirda gwell, gan eu bod yn fy adnabod yn well. Beth hoffech imi ei wneud?
Hoffem i chi ddarparu geirda gan eich cyflogwr presennol. Cofiwch ofyn bob amser a yw’ch cyflogwr yn teimlo y gall roi geirda cefnogol i chi. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddigon o brofiad ac maen nhw mewn sefyllfa dda i roi geirda. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cewch ofyn i gyflogwr blaenorol a pheidiwch ag anghofio egluro pam nad oedd eich cyflogwr presennol yn gallu darparu’r geirda.
45. Sut bydd y Rhaglen yn cysylltu â mi i roi gwybod a wyf wedi llwyddo i gael cyfweliad?
Defnyddiwn y cyfeiriad e-bost a roesoch ar ffurflen gais y Clearing House. Gwyliwch nad yw ein he-byst wedi mynd i’r ffolder sbam. Hefyd, rhowch wybod inni am unrhyw newidiadau yn eich manylion cyswllt.
Gwneud Cais
Rhaid gwneud ceisiadau am DClinPsy drwy'r Tŷ Clirio ar gyfer Cyrsiau Ôl-radd mewn Seicoleg Glinigol.
Mae'r Tŷ Clirio i gyrsiau ôl-radd mewn seicoleg glinigol yn prosesu'r holl geisiadau i ymuno â’r rhaglen. Peidiwch â gwneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais ar wefan y Tŷ Clirio, neu gallwch gysylltu â'n Tiwtor Dewis a Recriwtio (c.lamers@bangor.ac.uk) am wybodaeth bellach.
Sylwer: Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor
Mae DCP Pre-Qualification Group yn cynrychioli buddiannau seicolegwyr cynorthwyol a seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant. Bob blwyddyn, gofynnir i hyfforddeion am eu barn ar wahanol agweddau ar eu cwrs, a chaiff y canlyniadau eu llunio i ffurfio'r llawlyfr amgen. Mae'r llawlyfr yn rhoi gwir flas ar bob rhaglen ac yn cynnig barn defnyddiwr am bob rhaglen, sy'n cael ei diweddaru bob blwyddyn, a gall hyn helpu ymgeiswyr benderfynu i ble i wneud cais, a pha gynnig i'w dderbyn. Gellir cael llawlyfrau gan y canlynol:
The BPS
DCP Affiliates Alternative Handbook Request
48 Princess Road East Leicester LE1 7DR