Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs wedi ei ddatblygu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth a'u gallu ym maes Seicoleg yn gyffredinol. Gall hefyd fod yn ddewis da i unigolion sydd eisiau datblygu eu sgiliau proffesiynol ac academaidd, ond nad ydynt yn bwriadu dilyn gyrfa ymchwil mewn seicoleg. Bydd y rhaglen hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr deilwra eu gradd yn ôl eu diddordebau, gan astudio modiwlau o'n hamrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol o'r radd flaenaf. Yn gyffredinol, ein nod yw darparu amgylchedd addysgu a dysgu o ansawdd uchel trwy ddefnyddio'r offer dysgu diweddaraf, cyrsiau a ddysgir gan dîm, ac ymchwil wedi ei fentora'n agos gydag arbenigwyr mewn gwahanol feysydd mewn seicoleg.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd dda mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gydag isafswm dosbarth gradd o 2.ii. Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (heb unrhyw elfen yn is na 5.5) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen.