Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gref o wybodaeth i chi yn y meysydd canlynol sy'n berthnasol i niwroseicoleg glinigol:
- Damcaniaeth niwroseicolegol a thystiolaeth o astudiaethau clinigol ac arbrofol
- Anhwylderau niwroseicolegol, gan gynnwys eu seiliau mewn niwroanatomi a niwropatholeg, a'u heffaith ar unigolion a theuluoedd
- Asesiad niwroseicolegol
- Adsefydliad niwroseicolegol
- Dulliau Ymchwil
- Gwneud ymchwil niwroseicolegol.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o'r technegau diweddaraf i ddeall cysylltiadau ymddygiad yr ymennydd, gan gynnwys mapio gweithredoedd swyddogaethol yn yr ymennydd gyda photensialau cysylltiedig â digwyddiadau (ERP), ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) a delweddu cyseiniant magnetig swyddogaethol (fMRI).
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd dda mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gyda dosbarth gradd o 2.ii o leiaf. Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (heb unrhyw elfen yn is na 5.5) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen.
Gyrfaoedd
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau i ymgymryd ag astudiaeth ôl-radd bellach gan arwain at PhD, neu i weithio ym maes ymchwil niwroseicolegol. Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen ragorol os ydych yn chwilio am swydd ym maes gofal iechyd, er enghraifft fel seicolegydd cynorthwyol neu gynorthwyydd adsefydlu, ac i symud ymlaen i hyfforddiant proffesiynol, er enghraifft ym maes seicoleg glinigol neu feysydd cysylltiedig. Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol sefydledig sy'n dilyn y cwrs yn gweld ei fod yn rhoi cyfle gwerthfawr am ddatblygiad proffesiynol parhaus, a allai gyfrannu at ddatblygiad gyrfa yn y dyfodol.
Ymchwil / Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r rhaglen hon gysylltiadau ymchwil helaeth gyda chyrff a chwmnïau allanol, a gânt eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol i'r gwaith a'r amgylchedd ymchwil bydd y graddedigion yn rhan ohono.