Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MSc mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor wedi'i anelu at y rhai sy'n ceisio datblygu dealltwriaeth feirniadol o faterion yn ymwneud â datblygu a chymhwyso technoleg gyfrifiadurol at broblemau ieithyddol, er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrfa ym maes technolegau iaith, sy'n faes sy’n tyfu’n gyflym. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y cwrs hwn yn cael y cyfle i archwilio materion sy'n ymwneud â chyd-destun unigryw problemau ieithyddol a'r modd o ymdrin â nhw mewn rhaglenni peirianyddol awtomataidd. Byddant hefyd yn gallu dysgu am dechnegau arloesol wrth ddatblygu technolegau newydd ar gyfer lleferydd ac iaith mewn lleoliadau amlieithog, yn enwedig ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau ac ieithoedd lleiafrifiedig.
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio amrywiaeth o ddulliau academaidd, gwyddonol a chymhwysol o ymdrin â strwythur iaith a thechnolegau iaith, gyda ffocws cyffredinol ar theori ieithyddol a chymwysiadau technolegol. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o faterion allweddol, gan gynnwys:
- strwythur iaith
- prosesu iaith naturiol
- ymarfer cyfieithu
- dysgu peirianyddol
- dadansoddi corpws.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi ym meysydd amrywiol technolegau iaith megis prosesu iaith naturiol, gwyddor lleferydd a chyfieithu wedi’i awtomeiddio. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i allu gwneud ymchwil arbrofol annibynnol a datblygu datrysiadau posibl i broblemau o ran defnydd iaith wedi’i awtomeiddio a phrosesu iaith yn beirianyddol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi’r cyfle i chi wneud project ymchwil ymarferol, yn ogystal â’r potensial i fanteisio ar adnoddau cyfrifiadura perfformiad uchel Uwchgyfrifiadura Cymru, er mwyn cydweithio ag ymchwil flaengar i faes prosesu iaith naturiol gan weithio gydag ymchwilwyr PhD yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwchgyfrifiadura (AIMLAC) a chydweithio ag Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor a defnyddio offer ac adnoddau o Borth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Mae gan staff yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd, Cyfrifiadureg a’r Uned Technolegau Iaith ystod eang o arbenigeddau a phroffiliau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y meysydd canlynol:
cyfrifiadureg
technolegau iaith / Prosesu Iaith Naturiol (NLP)
- ieithyddiaeth corpws
- amrywiad a newid iaith
- iaith a chyfathrebu
- ieithoedd lleiafrifol a thafodieitheg
- amrywiad a newid y Gymraeg.
Rydym yn staff cyfeillgar, amrywiol ac agos-atoch sy’n frwd dros drosglwyddo eu harbenigedd a’u gwybodaeth am y pwnc ac rydym yn ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o’r ansawdd uchaf i’n myfyrwyr. Mae ein hymchwil yn llywio ein darpariaeth addysgu ar bob lefel, ac mae’r myfyrwyr yn elwa ar frwdfrydedd staff sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil a datblygiadau academaidd. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at ein tîm o ymchwilwyr profiadol a byddant yn cydweithio â nhw ar brojectau penodol, gan rannu eu dealltwriaeth o broblemau ac atebion i heriau technolegau iaith yn y byd go iawn.
Rydym yn cymryd rhan flaenllaw mewn rhwydweithiau technolegau iaith rhyngwladol ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau a bydd myfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn ein cynadleddau a’n gweithdai proffil uchel, ac yn y gwaith cydweithredol a wnawn gyda phartneriaid a sefydliadau diwydiannol blaenllaw megis y Mozilla Foundation. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr gan gynnig cefnogaeth unigol iddynt trwy gydol eu hastudiaethau Meistr.
Mae cyfleusterau dysgu, profi a chyfrifiadura o’r radd flaenaf i’w cael ym Mangor, gan gynnwys y canlynol:
- Stiwdio sain/recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd);
- Adnoddau a chyfleusterau ieithyddiaeth corpws pwrpasol;
- Mynediad at adnoddau, staff ac arbenigedd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr;
- Cael defnydd o adnoddau cyfrifiadura perfformiad uchel Uwchgyfrifiadura Cymru;
- Labordai cyfrifiadurol a rhwydweithio rhagorol;
- Cael cydweithio ag ymchwil flaengar mewn prosesu iaith naturiol gan weithio gydag ymchwilwyr lefel PhD yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwchgyfrifiadura (AIMLAC).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi ym meysydd amrywiol technolegau iaith megis prosesu iaith naturiol (NLP), gwyddor lleferydd a chyfieithu wedi’i awtomeiddio. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i allu gwneud ymchwil arbrofol annibynnol a datblygu datrysiadau posibl i broblemau o ran defnydd iaith wedi’i awtomeiddio a phrosesu iaith yn beirianyddol.
Bydd pynciau’n cael eu cyflwyno a’u harchwilio gyda sylfaen gadarn mewn theori berthnasol a bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i ymdrin â phynciau mewn modd beirniadol a thrwyadl wyddonol. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys elfen ymarferol gref gyda'r bwriad o gynhyrchu ymchwilwyr ac ymarferwyr medrus.
Modiwlau gorfodol/craidd:
- Cyflwyniad i Raglennu*
- Sylfaeni Ieithyddiaeth**
- Prosesu Iaith Naturiol
- Technolegau Iaith
- Cyfieithu ar Waith***
- Dulliau ymchwil
- Traethawd hir MSc neu ICE-4001 Traethawd hir Cyfrifiadureg
*Gorfodol i fyfyrwyr heb gefndir cyfrifiadureg
**Gorfodol i fyfyrwyr heb gefndir ieithyddiaeth
***Gorfodol i fyfyrwyr heb gefndir cyfieithu
Modiwlau Dewisol
Mae’r modiwlau’n amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, ac yn cynnwys:
- Project Bach Cyffredinol Msc
- Iaith a Chyfathrebu
- Ieithyddiaeth Hanesyddol
- Seicoieithyddiaeth
- Newid Iaith
- Gwyddor Lleferydd
- Ieithyddiaeth Gymraeg
- Defnyddio Corpora: Theori ac Ymarfer
- Cysylltiad Iaith a Dwyieithrwydd
- Ffonoleg a Chaffael Dwyieithog
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni chânt eu heithrio gan eu tiwtor.
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid
Gyrfaoedd
Mae MSc Bangor mewn Technolegau Iaith yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae cyflogwyr eu hangen mewn nifer o feysydd sy'n ymwneud â maes technolegau iaith, yn enwedig meysydd megis prosesu iaith naturiol, cyfieithu peirianyddol, trosi testun-i-leferydd. Byddwch hefyd yn gweld eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i feysydd gyrfa gwahanol neu i barhau â'ch astudiaethau ar lefel PhD mewn technolegau iaith neu faes cysylltiedig.
Bydd graddedigion o’r cwrs hwn yn apelio at gyflogwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n ymwneud â maes ehangach ieithyddiaeth (e.e. addysg, rheolaeth, llywodraeth, ymchwil, iechyd) yn enwedig lle mae angen dealltwriaeth o iaith a’r rhyngweithio rhwng pobl a pheiriannau. Efallai bydd eraill eisiau dilyn gyrfaoedd lle mae dealltwriaeth o broblemau iaith yn berthnasol (e.e. cyfieithu, datblygu meddalwedd, cryptograffeg, cynllunio ieithyddol). I'r perwyl hwnnw, efallai y bydd cael gradd Meistr mewn Technolegau Iaith yn arwain at fynd ymlaen i ennill cymwysterau proffesiynol neu i wella eu cyflogadwyedd ymhellach yn y maes o’u dewis. Yn dilyn cwblhau'r MSc mewn Technolegau Iaith yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth.