Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r diploma ôl-radd yn rhoi cyfle unigryw i ennill cymhwyster ôl-radd mewn Therapi Ymddygiad Dilechdidol (DBT) a fydd yn darparu cymhwystra i gael achrediad fel therapydd gyda'r Gymdeithas DBT yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Darperir y rhaglen mewn partneriaeth â Thîm Hyfforddi DBT Ynysoedd Prydain a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n gysylltiedig â Haen 1 Sefydliad Linehan. Trwy'r rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ac ymgynghoriad gan arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol mewn DBT, ac yn ei ddwy elfen graidd, sef Ymwybyddiaeth Ofalgar a Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol. Yn ystod y cwrs cewch eich dysgu sut i sefydlu a darparu rhaglen DBT, dysgu holl strategaethau'r driniaeth a'u cyflwyno yn eich ymarfer clinigol gydag arweiniad ac adborth arbenigol wrth ichi symud ymlaen.
O ystyried natur partneriaeth y rhaglen, mae pob cais am y Diploma Ôl-radd mewn DBT yn cael ei brosesu trwy BIDBT. I gofrestru'ch diddordeb a chychwyn eich proses ymgeisio, e-bostiwch pgdip@dbt-training.co.uk
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan sefydliad gofal iechyd sy'n disgwyl iddynt fod yn gweld cleientiaid. Rhaid iddynt fod wedi cofrestru i ymarfer gyda chorff proffesiynol rheoleiddiol e.e. Cyngor Proffesiynau Iechyd, Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Awdurdod Safonau Proffesiynol.
Os nad oes gan rywun gofrestriad proffesiynol ond ei fod wedi'i gyflogi mewn swydd am ddwy flynedd sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu ymyriadau seicolegol dan oruchwyliaeth, byddwn yn eu hystyried ar gyfer hyfforddiant ar yr amod bod eu goruchwyliwr clinigol yn rhan o'r tîm DBT, a'i fod wedi'i Hyfforddi'n Ddwys ac wedi'i gofrestru gyda chorff proffesiynol.
Disgwylir i ymgeiswyr fod yn cyflwyno DBT yn eu hymarfer clinigol o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.
Safon IELTS: 6.5
Gyrfaoedd
Gwneud Cais
Mae pob cais am y Diploma Ôl-radd mewn DBT yn cael ei brosesu trwy BIDBT. I gofrestru'ch diddordeb a chychwyn eich proses ymgeisio, e-bostiwch pgdip@dbt-training.co.uk