Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eang yn archwilio ac yn gwerthuso mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a gwarchod y dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd - y broses enwebu, rheolaeth, a blaengynllunio: bydd pwyslais penodol ar dwristiaeth gynaliadwy a'r angen i gynnwys cymunedau lleol yn eu treftadaeth. Mae rôl treftadaeth ddiwylliannol yng nghymdeithasau'r gorffennol a chyfoes yn elfen allweddol o'r radd. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amryw o faterion sy'n ganolog i ddadleuon cyfredol ynghylch diffiniad, amrywiaeth, a natur ddadleuol treftadaeth yn fyd-eang ac yn genedlaethol.
Mae elfen gref o hyfforddiant yn y rhaglen MA Treftadaeth Fyd-eang er mwyn hybu’r rhagolygon am yrfa. Bydd gweithdai ynghylch hanes cyhoeddus (dulliau ac ymgysylltu â'r gymuned; hanes llafar (technegau a moeseg); ffynonellau treftadaeth ddigidol; ysgrifennu i’r cyfryngau; a rheoli projectau treftadaeth - pob un yn sgil trosglwyddadwy gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth yn y sector treftadaeth. Mae dau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn agos at Brifysgol Bangor - 'Cestyll a Waliau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd' a ‘Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru' sydd newydd ei sefydlu. Maent yn gaffaeliad i'r rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd fel astudiaethau achos i’r myfyrwyr.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Dysgir MA Treftadaeth Fyd-eang trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a gwaith maes. Caiff y myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, adolygiadau, astudiaethau achos a thraethawd hir.
Mae modiwlau gorfodol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i fyfyrwyr o sut mae treftadaeth yn gweithio'n ymarferol.
- Mewn byd cynyddol fyd-eang, mae safleoedd Treftadaeth y Byd yn chwarae rhan bwysig mewn arddangos, gwarchod a rheoli treftadaeth ddiwylliannol. Mae gan Ogledd Cymru safleoedd Treftadaeth y Byd trawiadol sef 'Cestyll a Muriau Trefol Edward I yng Ngwynedd' a ‘Thirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’'. Mae’r modiwl hwn Treftadaeth y Byd (20 credyd) yn rhoi dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd i fyfyrwyr – y broses enwebu, rheoli, a blaengynllunio.
- Mae Treftadaeth Ddiwylliannol (20 credyd) yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o faterion sy'n ganolog i ddadleuon cyfredol ar ddiffiniad, amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth. O fewn cyd-destun byd-eang, bydd yn ystyried mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a diogelu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac anniriaethol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o ddulliau damcaniaethol o ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol ac o'u cymhwysiad ymarferol yn y maes.
- Sgiliau Ymchwil (40 credyd) Mae hwn yn fodiwl sgiliau lefel uwch gyda’r nod o: ddarparu hyfforddiant mewn dechrau projectau ymchwil, eich ymgyfarwyddo â sut i feirniadu papur seminar ymchwil a chyflwyno sgiliau a fydd yn gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae gweithdai/sesiynau yn cynnwys: ysgrifennu ar gyfer y cyfryngau; ysgrifennu papurau ar gyfer llunwyr polisi; cyflwyniad i reoli archifau; adeiladu llwybr treftadaeth; datblygu sgiliau hanes llafar/cyfweld; hanes cyhoeddus; cyflwyniad i sgiliau addysgu; a chyflwyniad i sgiliau TG a setiau data.
- Traethawd Hir (60 credyd)
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis 40 credyd dewisol arall o restr o fodiwlau sydd ar gael, a all gynnwys:
- Mae'r modiwl Lleoliad Gwaith (20 credyd) yn darparu tua 100 awr o brofiad 'ymarferol' mewn man gwaith priodol - er enghraifft mewn safle treftadaeth; Swyddfa’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, amgueddfa neu sefydliad perthnasol arall.
- Mae Bywyd yn y Plastai (20 credyd) yn edrych ar ddatblygiad a dirywiad plastai Prydain o 1750 hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gall y pynciau a archwilir yn ystod y modiwl gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: symudedd cymdeithasol a'r ddadl elît agored; pensaernïaeth y plastai; tirlunio, gerddi a pharciau; swyddogaeth merched elitaidd; plentyndod yn y plastai; gweision; rheoli ystadau; dyletswyddau cyhoeddus a gwleidyddol; dyngarwch ac elusennau; gwerthoedd crefyddol a moesol; hamdden ac adloniant; dirywiad y plastai; plastai mewn diwylliant poblogaidd; treftadaeth, twristiaeth a'r plastai.
- Mae Cenedlaetholdeb a Lleiafrifoedd (20 credyd) yn archwilio materion a dadleuon allweddol yn ymwneud â chenedlaetholdeb, cenhedloedd a hunaniaeth genedlaethol. Ystyrir y berthynas rhwng cenedlaetholdeb, dinasyddiaeth a hawliau lleiafrifol gan gyfeirio at enghreifftiau empirig. Bydd dadleuon a pholisïau sy'n ymwneud â rheoli amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig gan y wladwriaeth hefyd yn cael eu hystyried. Mae'r ymdriniaeth yn seiliedig ar gymdeithaseg, gwleidyddiaeth, hanes, daearyddiaeth ac anthropoleg gydag enghreifftiau o astudiaethau achos yn cael eu darparu o amrywiaeth o achosion byd-eang.
- Mae Oes Llewelyn ab Iorwerth (20 credyd) yn dadansoddi amrywiaeth o dystiolaeth ar gyfer hanes Cymru yn ystod oes Llywelyn ab Iorwerth (c.1170-1240), gan gynnwys astudiaeth fanwl o ddogfennau perthnasol.
- Mae Theori a Dehongli mewn Archaeoleg (40 credyd) yn darparu cyflwyniad dwys ar lefel graddedig i ddamcaniaeth archaeolegol, materion ymchwil a rhesymu o fewn fframwaith seminar yn seiliedig ar ddeunydd darllen gosod. Ei nod yw adolygu hanes diweddar syniadau archaeolegol ac archwilio themâu allweddol mewn archaeoleg gyfredol o safbwynt damcaniaethol a chymharol.
- Mae Treftadaeth Ddiwylliannol mewn Cyfraith Ryngwladol (20 credyd) yn cyflwyno myfyrwyr i gorff datblygu cyfraith treftadaeth ddiwylliannol ryngwladol a materion a heriau cysylltiedig. Mae’n ymdrin â’r pum prif gonfensiwn treftadaeth rhyngwladol ochr yn ochr â chyfreithiau, moeseg ac ystyriaethau polisi eraill, ac mae’n archwilio treftadaeth ddiwylliannol mewn cyd-destunau ehangach, megis hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd.
- Beth yw'r Deyrnas Unedig? Sut daeth i fodolaeth? Beth yw'r pethau cyffredin a'r gwahaniaethau rhwng y rhannau? Bydd myfyrwyr sy’n dewis Gwneud Prydain 1485-1797 (20 credyd) yn ystyried y cwestiynau hyn a mwy. Mae dadleuon diweddar a pharhaus yn gysylltiedig â Brexit, ymgyrchoedd dros annibyniaeth i’r Alban a Chymru ac arolwg am y ffin ag Iwerddon yn tanio cryn ddiddordeb yn nyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r berthynas rhwng Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru.
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii mewn gradd israddedig neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Hanes, Treftadaeth, Archeoleg, Astudiaethau Llenyddol, Astudiaethau Canoloesol/Llenyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithasol, Astudiaethau Americanaidd, Y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau cyfwerth a/neu brofiad perthnasol o’r diwydiant treftadaeth, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Bydd y myfyrwyr a fydd yn graddio â’r radd MA Treftadaeth Fyd-eang yn abl i ddilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, rheoli treftadaeth, curadu, cefnogaeth a gweinyddiaeth gymunedol, ac addysg allgymorth. Yn fras, gall y graddedigion fynd i gyflogaeth eang iawn sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a dealltwriaeth o'r natur ddynol. Ymhlith y swyddi mae dysgu, ymchwilio, rheoli a gweinyddu.