Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Ysgol Busnes Bangor yw'r unig sefydliad yn y byd sy'n gallu cynnig MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol, 'Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol).'
Mae’r cymhwyster newydd arloesol hwn yn eich galluogi i ennill MBA ynghyd â statws proffesiynol Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS).
Dyfernir yr MBA mewn partneriaeth â ManchesterCF, darparwyr hyfforddiant gwybodaeth ariannol fyd-eang, mae'r statws Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS) yn gosod safon newydd ym myd gwybodaeth ariannol.
Cyflwynir yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol (FCCMBA) trwy ddysgu o bell yn rhan-amser a gellir astudio’r cwrs mewn unrhyw leoliad sydd â chysylltiad rhyngrwyd da. Mae'r rhaglen yn pwysleisio meysydd gwrth-wyngalchu arian mewn gwahanol gyd-destunau, gwrth-lygru a chydymffurfio â sancsiynau. Yn seiliedig ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Bancio Cynaliadwy, mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyfyngu ar droseddu a therfysgaeth trwy ddiwydrwydd sefydliadau ariannol.
Mae’r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cynnig sgiliau a gwybodaeth lefel uchel o brifysgol a chanolfan ragoriaeth ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, ynghyd ag arbenigwyr byd-eang mewn bancio rhyngwladol, gwybodaeth ariannol a chydymffurfiaeth.
- Nod yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yw datblygu rhagolygon gyrfa arbenigwyr ym maes rheoleiddio ariannol a gwrth-wyngalchu arian yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mynd i'r maes hwn.
- Mae cydymffurfio â rheoliadau ariannol yn faes twf ac mae llawer o swyddi ar gael mewn gwasanaethau ariannol byd-eang. Mae’r rhaglen hon yn edrych ar bryderon parhaus ynglŷn â sut y gellir cyfyngu ar droseddau a therfysgaeth drwy ddiwydrwydd sefydliadau ariannol.
- Mae'r profiad dysgu lefel uchel a dwys hwn hefyd yn cyfuno modiwlau MBA cyffredinol mewn adnoddau dynol, economeg reolaethol, dulliau ymchwil a strategaeth gorfforaethol â rhai mwy arbenigol, gan alluogi cyfranogwyr i ymgeisio am swyddi uwch yn y diwydiant.

Mae ManchesterCF yn darparu rhaglenni hyfforddiant gwybodaeth ariannol ar-lein i sefydliadau ariannol, unedau gwybodaeth ariannol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y byd.
Wedi'u lleoli yn Toronto, mae gan eu hymchwilwyr a'u cyfranwyr ddegawdau o brofiad yn eu priod feysydd. Mae eu harbenigedd yn deillio o brofiad cadarn mewn bancio rhyngwladol, deallusrwydd ariannol a chydymffurfiaeth.
Mae’r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol (FCCMBA) yn rhaglen Dysgu o Bell, sy’n gyfuniad unigryw o sesiynau rhyngweithiol ar-lein a hunan-astudio. Wedi'i gynllunio i wneud bywyd yn haws i weithwyr proffesiynol prysur, mae'n lleihau amser i ffwrdd o'r swyddfa ac felly'n cael llai o effaith ar weithrediad y busnes o ddydd i ddydd a diwrnod gwaith y myfyrwyr. Mae elfen dysgu ar-lein y rhaglen FCCMBA yn cael ei chyflwyno gan gyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, tiwtorialau byw a Blackboard.
Darperir cefnogaeth academaidd trwy gydol y semester trwy:
- Fforymau trafod
- Sgyrsiau gwe byw
- Sesiynau tiwtorial ar y we gan ddefnyddio ein platfform dysgu ar-lein 'Blackboard'
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae nifer o lwybrau i astudio’r cwrs MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol . Yn ogystal â'r rhaglen lawn gellir ei astudio ar lwybr cyflym, cyflym byr ac ar sail modiwl unigol. Bydd y llwybr y byddwch yn ei astudio yn cael ei bennu gan lefel eich cymhwyster a phrofiad gwaith.
Gweler isod rhagor o wybodaeth am strwythur pob llwybr astudio a sylwer mai syniad bras o’r modiwlau yn unig sydd yma a gallant newid.
Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth modiwl, pedwar modiwl sy’n canolbwyntio ar bynciau rheolaeth cyffredinol, a phedwar modiwl pwnc-benodol a astudir dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cychwyn yn unai Ebrill neu Hydref.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9055 Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol | Ebrill a Hydref |
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
ASB-9035 Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol | Ebrill |
ASB-9034 Rheoli Adnoddau: Sefydliad Dadansoddol | Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9054 Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
ASB-9033 Strategaeth Gorfforaethol | Hydref |
ASB-9038 Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Ebrill |
Amser safonol ar gyfer cwblhau y rhaglen: 18 mis
Mi fydd myfyrwyr yn astudio 3 modiwl 15 credyd a 3 modiwl 30 credyd.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
ASB-9035 Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol | Ebrill |
ASB-9034 Rheoli Adnoddau: Sefydliad Dadansoddol | Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9054 Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
ASB-9033 Strategaeth Gorfforaethol | Hydref |
ASB-9038 Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Ebrill |
Amser safonol ar gyfer cwblhau y rhaglen: 24 mis
Mi fydd myfyrwyr yn astudio 4 modiwl 30 credyd.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9055 Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol | Ebrill a Hydref |
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9054 Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
Amser safonol ar gyfer cwblhau y rhaglen: 12 neu 18 mis
Mi fydd myfyrwyr yn astudio 3 modiwl 30 credyd.
Modiwl | Argaeledd Semester |
---|---|
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
ASB-9054 Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
Modiwlau Pwnc-Benodol
Mae’r modiwlau Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol werth 30 credyd yr un ac yn cael eu hasesu trwy ddau ddarn o waith, 5500 a 1500 gair, fesul modiwl. Fel eithriad, mae'r cwrs Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cynnwys darn o waith 4000 gair a cyflwyniad wedi ei recordio.
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o wyngalchu arian, a theipoleg cyffredin ymddygiad o’r fath. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol, asesiad risg rheoleiddio a'r lefelau diwydrwydd ac adrodd sy'n ofynnol i rwystro gwyngalchu arian. Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, cyflwynir myfyrwyr i agweddau ar feddwl yn feirniadol fel sail i dasgau diwydrwydd dyladwy a datrys problemau at ddibenion deallusrwydd ariannol. Maent yn datblygu'r gallu i ymchwilio i lenyddiaeth academaidd a phroffesiynol, cyflwyno gwybodaeth mewn modd priodol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (rheoleiddiol, corfforaethol yn ogystal ag academaidd).
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i'r rhaglen ehangach, ac yn darparu sylfaen addysg i ystyried atal gwyngalchu arian. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i faterion gwyngalchu arian a rheoleiddio, a'r angen i feddwl yn feirniadol ac adfyfyrio mewn ymchwiliadau ariannol. Mae'r modiwl hefyd yn adolygu'r hanfodion a'r safonau sydd eu hangen i gynhyrchu gwybodaeth mewn modd cryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i gynhyrchu adroddiadau llawn gwybodaeth ar wybodaeth ariannol i wahanol randdeiliaid sydd â diddordeb mewn craffu ar 'gydymffurfiaeth'.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio'r cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ar hanfodion atal gwyngalchu arian, meddwl yn feirniadol a chyflwyno gwybodaeth i gyflwyno ystod eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Critical Thinking
Uned 2 - FIU Connect Fundamental AML
Uned 3 - FIU Connect Report Writing
Bydd uned FIU Connect Financial Investigations hefyd yn cael ei ddarparu fel rhywbeth cyffredinol i’w ddarllen ar draws y rhaglen, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y modiwl Cyflwyniad i Droseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth.
Dulliau Asesu
Asesir y modiwl yn ôl dwy elfen:
- Adroddiad yn mynd i’r afael â’r pwnc a osodwyd ar ‘Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian’, gan gynnwys adfyfyrio ar y broses ymchwil a pharatoi adroddiadau (4000 o eiriau)
- Paratoi a recordio cyflwyniad yn ymwneud ag elfen Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian yr adroddiad (10 munud o hyd)
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl yn ystyried troseddau ariannol a chudd-wybodaeth am farchnadoedd cyfalaf, a bancio preifat a gweithredu ar ran banc arall. Cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau a dulliau rheoleiddio yn y tri chyd-destun, cyn dysgu am wahanol ddulliau a ddefnyddir i ganfod troseddau, lliniaru effaith a rhwystro ymddygiad o'r fath. Trafodir cynnyrch, rheoli risg a'r strwythurau sefydliadol ehangach sy'n berthnasol i bob sefyllfa. Gellir addasu'r is-sectorau bancio penodol o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ddatblygiadau perthnasol yn y diwydiant.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae'r modiwl yn rhoi archwiliad manwl o themâu cyfredol mewn troseddau ariannol sy'n codi mewn gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf. Ar gyfer pob lleoliad cyflwynir y myfyriwr i wybodaeth am gynnyrch a chyd-destun sefydliadol i alluogi gwerthusiad beirniadol o ganfod a lliniaru troseddau ariannol a gwyngalchu arian. Mae'r modiwl yn cynnwys astudiaethau achos o gamau goruchwylio diweddar ac enghreifftiau o setliadau ariannol a gafwyd gan sefydliadau na fu iddynt gydymffurfio.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Capital Markets
Uned 2 - FIU Connect Correspondent Banking
Uned 3 - FIU Connect Private Banking
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri phwnc yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Trosolwg o’r Modiwl
Trafodir y ddeddfwriaeth a'r amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddio ehangach ar gyfer diffinio, nodi a gwrthsefyll ymddygiad troseddol yng nghyd-destun masnachu pobl, ymddygiad llwgr a chryptoasedau. Mae’r modiwl hefyd yn ystyried technegau a dulliau o ganfod y troseddau hyn a dulliau priodol o fonitro ac adrodd am ymddygiad o’r fath – o drafodion amheus unigol i ymchwiliadau cynhwysfawr gan asiantaethau gweithredu'r gyfraith.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried ymddygiad dynol mewn tri maes cyfoes o droseddu ariannol sy’n tyfu – ymddygiad llwgr, masnachu pobl, a chryptoasedau. Ar gyfer pob un o'r meysydd hyn o droseddu ariannol, bydd y modiwl yn amlinellu sut mae trosedd o'r fath yn datblygu, yn gallu ffynnu, yn gallu cael ei ganfod a sut y gellir atal troseddau o'r fath a brwydro yn eu herbyn. Mae'r modiwl yn trafod ymatebion priodol i sefydliadau a rheolwyr pan fyddant yn wynebu ymddygiad o'r fath.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ymddygiad llwgr, masnachu pobl a chryptoasedau i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Corruption
Uned 2 - FIU Connect Human Trafficking
Uned 3 - FIU Connect Cryptoassets
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Elfennau Dynol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n diffinio ac yn ceisio rheoli troseddau ariannol sy'n gysylltiedig â chamfanteisio amhriodol ar yr amgylchedd ffisegol, a gwyngalchu arian yn seiliedig ar fasnach. Asesir y sancsiynau economaidd a ddefnyddir yn aml i annog cydymffurfiaeth. Amlinellir y cymhellion ar gyfer datblygiad cychwynnol a pharhad pob trosedd a sut y gellir eu canfod. Cyflwynir ymatebion polisi priodol i rwystro a brwydro yn erbyn troseddau o'r fath.
Nodau ac Amcanion y Modiwl
Mae’r modiwl yn ystyried cyd-destun sefydliadol ehangach cymdeithasau o gwmpas y byd sy’n pwysleisio fwyfwy eu pryder ynghylch difrod i’r amgylchedd ffisegol – i genedlaethau o ddinasyddion heddiw ac yfory. Mae troseddau amgylcheddol yn amrywio o lygredd in situ i fasnachu adnoddau amgylcheddol rhwng cenhedloedd. Mae llywodraethau sofran yn aml yn cyflwyno sancsiynau economaidd ar genhedloedd eraill neu sefydliadau unigol (gan gynnwys banciau) i gyfyngu ar fasnach o'r fath. Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ariannol werthfawrogi'r mathau hyn o droseddau er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r agenda cynaliadwyedd.
Testun Allweddol
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol troseddau’n seiliedig ar fasnach a throseddau amgylcheddol a sancsiynau economaidd i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Uned 1 - FIU Connect Economic Sanctions
Uned 2 - FIU Connect Trade-Based Money Laundering
Uned 3 - FIU Environmental Crime
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Modiwlau Rheolaeth
Asesir y pedwar modiwl rheolaeth trwy aseiniad ysgrifenedig o 2000 o eiriau gydag arholiad cyfrifiadurol 2 awr.
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn ystyried theori ac ymarfer llunio a gweithredu strategaeth. Ceir llawer o batrymau a chamau gweithredu a dulliau busnes sy'n diffinio strategaeth sefydliad a byddwch yn cael cyfle i nodi'r rhai sy'n berthnasol i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Y sector gwasanaethau ariannol yw un o’r sectorau diwydiant a reoleiddir fwyaf a chaiff goblygiadau hyn ynghyd â nodweddion y cynhyrchion gwasanaeth eu nodi drwy gydol y modiwl. Caiff y theori a'r egwyddorion sy'n sail i weithrediadau a gweithgareddau busnes eu harchwilio a chymhwysir y wybodaeth i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Wrth gwblhau'r unedau ar gyfer y modiwl, cyfeirir at reoli gwasanaethau a gweithrediadau; nodweddion unigryw gwasanaethau a all fod yn her neu'n gyfle i ddyfeisio a gweithredu strategaeth gorfforaethol unigryw a llwyddiannus. Fel darpar arweinwyr busnes a gwneuthurwyr penderfyniadau’r dyfodol, mae'n allweddol eich bod yn deall hanfod gweithrediadau busnes a'r ffactorau sy'n cyfrannu at fantais gystadleuol cwmni.
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau prin i lywio penderfyniadau mewn amgylcheddau ansicr. Bydd cwmnïau sy'n rheoli eu hadnoddau prin yn well (gan gynnwys cyfalaf, pobl a data) mewn sefyllfa well i ffynnu mewn marchnad gynyddol gystadleuol a byd - eang. Er mwyn bod yn llwyddiannus mae angen i gwmnïau fanteisio ar bob mantais y gallant a chael eu harwain gan dystiolaeth.
Y nod eang yw rhoi set o sgiliau ymarferol i fyfyrwyr a dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n sail i arfer rheoli da.
Mae rhan gyntaf y modiwl yn canolbwyntio ar economeg ‘rheoli gweithrediadau '. Mae hyn yn cynnwys agweddau sy'n gysylltiedig ag: economeg y defnyddiwr; economeg y cwmni (gan gynnwys economïau graddfa a chwmpas); economeg cystadleuaeth; ac economeg costau trafodion. Yna rhoddir sylw i economeg‘ rheoli pobl ', gyda phynciau perthnasol yn cael sylw gan gynnwys cymhellion a Nudge Economics; anghymesuredd gwybodaeth, perygl moesol a dewis niweidiol; y brif broblem asiant (problemau asiantaeth); cyfalaf dynol a theori signalau a theori twrnamaint.
Mae'r trydydd a'r pedwerydd uned yn mynd ymlaen i archwilio pynciau sy'n ymwneud â ‘rheoli data’ a ‘rheoli gwybodaeth ', yn y drefn honno. Mae rheoli data yn cynnwys fframwaith o gysyniadau cysylltiedig – e.e., yr hyn a olygir gan ddata, a sut mae cwmnïau'n defnyddio data i reoli gweithrediadau a phobl yn well – ac offer dadansoddol sy'n berthnasol i ymchwil gymhwysol, gan gynnwys dylunio a samplu astudiaethau. Mae rheoli gwybodaeth yn ehangu i ystyried themâu gan gynnwys: beth yw gwybodaeth?; meddwl mewn betiau – defnyddio tebygolrwydd i lywio penderfyniadau; dilysrwydd, dibynadwyedd a chyffredinolrwydd; a meddwl yn gyflym ac yn araf – gwybyddol (a ffurfiau eraill) o ragfarn.
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion allweddol sy'n codi o ymchwil gyfoes i reolaeth adnoddau dynol ac ymddygiad sefydliadol. Mae’n darparu dadansoddiad integredig o reolaeth, sefydliadau a phobl, gan ddatblygu’r sgiliau cysyniadol, strategol ac ymarferol sy’n angenrheidiol i reolwyr.
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn bydd myfyrwyr:
- Yn gallu gwerthuso rheolaeth yn feirniadol
- Gallu cysylltu theori rheoli â phrofiad personol o amgylchedd gwaith
- Gwahaniaethu rhwng mathau o strwythur sefydliadol, diwylliant a dylunio swyddi
- Gwerthfawrogi agweddau adnoddau dynol ar reoli ac arwain pobl
- Gallu asesu'n feirniadol y prosesau rheoli sy'n gysylltiedig â rheoli mewn amgylchedd cynyddol gymhleth
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn gwerthuso'n feirniadol gyfraniadau gwahanol ysgolion meddwl mewn marchnata ac yn archwilio'r modelau dadansoddol a'r arferion rheoli perthnasol, gyda phwyslais ar bwysigrwydd strategol marchnata i bob sefydliad. Mae'n defnyddio astudiaethau achos a thrafodaethau priodol i archwilio nodweddion allweddol ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus ac yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau sy'n angenrheidiol i werthuso'r gwahanol ddamcaniaethau'n feirniadol a chymhwyso'r rhai mwyaf perthnasol yn eu cwmnïau / sefydliadau.
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn bydd myfyrwyr yn:
- Deall damcaniaethau a chysyniadau allweddol strategaeth farchnata a'i chymhwysedd i'r diwydiannau bancio ac ariannol
- Deall sut y gellir defnyddio ymchwil i'r farchnad a gwybodaeth i gynorthwyo cwmnïau i gyrraedd ac ehangu eu sylfaen cwsmeriaid
- Dadansoddi'r technegau a'r strategaethau marchnata a ddefnyddir gan eu cwmnïau eu hunain a chwmnïau cystadleuwyr a gwerthuso llwyddiant / priodoldeb y strategaethau hyn yn feirniadol
- Gallu gwerthuso'r gwahanol strategaethau marchnata yn feirniadol a phenderfynu ar y rhai mwyaf priodol i'w defnyddio yn eu cwmni
- Deall rôl strategaeth farchnata ym mhob cwmni a'i gyfraniad at lwyddiant cyffredinol y cwmni
Cost y Cwrs
Ffioedd 2024-25 (Ebrill 2025) i astudio rhaglen MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth:
Llwybr Astudio | Ffi |
---|---|
Rhaglen Lawn | £19,500 |
Rhaglen Gyflym (AP) Rhaglen Gyflym (AAP) |
£14,750 £14,750 |
Rhaglen Gyflym Iawn (SAP) | £12,500 |
Ysgoloraieth Gwanwyn 2025
Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth a ariennir yn rhannol gwerth £ 1,500, ar gael ar gyfer mynediad i Gwanwyn 2025 yn unig. Yn berthnasol i ymgeiswyr rhaglen lawn yn unig.
Dulliau Talu
Mae Prifysgol Bangor wedi partneru gyda Flywire i dderbyn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ledled y byd. Gwnewch daliadau addysg yn eich arian cyfred eich hun yn hawdd ac yn ddiogel, gan ddefnyddio dulliau talu lleol o ddiogelwch a chyfleustra eich cartref. Dysgwch fwy yma am yr opsiynau talu sydd ar gael.
Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys:
- Seminarau ar-lein, tiwtorialau, grwpiau trafod a chefnogaeth
- Yr holl ddeunydd cwrs
- Hawl i ddefnyddio llyfrgell ar-lein a phorth dysgu Prifysgol Bangor
- Pob asesiad
Sylwer y bydd angen i fyfyrwyr dalu blaendal o £500 i sicrhau ei lle ar y rhaglen. Bydd rhaid talu ffioedd ar ddechrau pob semester.
Gofynion Mynediad
Rhaglen Lawn
Bydd mynediad i'r rhaglen lawn yn cael ei ystyried ar gyfer ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Gradd israddedig 2:2 neu gyfwerth ac o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol*
- Ystyrir hefyd ymgeiswyr nad oes ganddynt radd ffurfiol neu gymhwyster proffesiynol, ond sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol cymeradwy*
*Gall y profiad gwaith gofynnol gynnwys profiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, ym maes gorfodi'r gyfraith, i gyrff rheoleiddio, neu i’r rhai sy'n dymuno ymuno â'r diwydiant cydymffurfio ariannol.
Rhaglen Gyflym (AP) - Profiad Proffesiynol 'AML' Sylweddol
Rhoddir eithriad rhag y modiwl Cyflwyniad i Gydymffurfiaeth a Throseddau Ariannol (30 credyd) i gydnabod ‘profiad proffesiynol sylweddol mewn gwrth-gwyngalchu arian (AML)’ (gallant fod â Diploma ACAMS neu ICA hefyd) ac o bosibl y modiwl Rheoli Adnoddau (15 credyd), ar yr amod y gall yr ymgeisydd ddangos astudiaeth flaenorol o Ddulliau Ymchwil ac Economeg Reolaethol ar lefel ôl-radd.
Rhaglen Gyflym (AAP) - Wedi cwblhau MBA Cydnabyddedig
Mae eithriadau rhag y 4 modiwl rheoli 15 credyd canlynol - Strategaeth Gorfforaethol, Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol, Rheoli Newid, a Rheoli Adnoddau, ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau MBA cydnabyddedig neu radd meistr gysylltiedig.
Rhaglen Gyflym Iawn (SAP) - Wedi cwblhau MBA Cydnabyddedig a Profiad Proffesiynol 'AML' Sylweddol
Mae eithriadau rhag y 4 modiwl rheoli 15 credyd canlynol - Strategaeth Gorfforaethol, Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol, Rheoli Newid, a Rheoli Adnoddau, ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau MBA cydnabyddedig neu radd meistr gysylltiedig.
Eithriad rhag y modiwl Cyflwyniad i Gydymffurfiaeth a Throseddau Ariannol (30 credyd) i gydnabod ‘profiad proffesiynol sylweddol mewn gwrth-gwyngalchu arian (AML)’ (gallant fod â Diploma ACAMS neu ICA hefyd), ynghyd a bod wedi cwblhau Dulliau Ymchwil ar lefel ôl-radd.
Gofynion Iaith Saesneg:
Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel uchel o ruglder yn yr iaith Saesneg. Os nad Saesneg yw eich iaith frodorol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Saesneg ysgrifenedig a llafar:
- IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sgôr o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt – Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Gyrfaoedd
Nod yr MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth yw datblygu rhagolygon gyrfa ar gyfer arbenigwyr Rheoleiddio Ariannol a Gwrth-wyngalchu Arian yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr maes hwn.
Nodau addysgol:
- Datblygu dealltwriaeth ddatblygedig o achosion a dulliau o frwydro yn erbyn troseddau ariannol a chamweddau cysylltiedig yn y sector ariannol.
- Meithrin dealltwriaeth ddatblygedig o'r fframwaith rheolaethol, proffesiynol, moesegol, cyfreithiol a rheoleiddiol y mae sefydliadau gwasanaethau ariannol yn gweithredu ynddo, gan ganolbwyntio'n benodol ar liniaru gwyngalchu arian a throseddau ariannol eraill.
- Gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygiad personol sgiliau deallusol ac astudio trosglwyddadwy. Mae'r nodweddion hyn yn briodol iawn i yrfa yn y proffesiynau bancio a chyllid, ac eto heb fod yn gyfyngedig i'r dewisiadau gyrfa hynny.
- Ymgorffori gwerthfawrogiad dwfn o faterion cynaliadwyedd a chydymffurfiaeth o fewn y ddarpariaeth o wasanaethau ariannol.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam. Bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Datganiad Personol (Dylai datganiad personol nodi'ch sgiliau, eich profiad, a'ch rhesymau dros wneud cais am y rhaglen hon, sut y bydd yn cyfrannu at eich cynllun gyrfa a'ch uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae un dudalen o A4 yn ddigon).
- CV (Dylai CV ddarparu crynodeb o'ch hanes gyrfa, hanes addysgol a chymwysterau. Os ydych wedi bod mewn cyflogaeth amser llawn ers sawl blwyddyn, bydd angen CV sy'n manylu ar hanes eich gyrfa e.e. dyddiad dechrau a gorffen a disgrifiad byr o'ch cyfrifoldebau ar gyfer pob swydd).
- Cyfeirnod (uwch lwythwch lythyr cyfeirio/ llythyr argymhelliad academaidd gan eich sefydliad presennol neu'r sefydliad mwyaf diweddar y gwnaethoch astudio ynddo. Os ydych yn gwneud cais o dan y rheoliadau myfyrwyr aeddfed neu os ydych wedi bod allan o addysg ers peth amser, dylai eich geirda fod gan gyflogwr perthnasol).
- Cymwysterau Addysgol (Rhaid darparu copïau o dystysgrifau swyddogol cymwysterau wedi'u cwblhau h.y. dyfarniadau Gradd, dyfarniadau Coleg a dyfarniadau Ysgol ynghyd â thrawsgrifiad cwrs swyddogol. Os nad yw'r dogfennau hyn yn Saesneg, darparwch gyfieithiad Saesneg swyddogol, ardystiedig o'r dogfennau hyn hefyd).
- Pasbort (Copi o brif dudalen eich pasbort).
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am un o'r cyrsiau Addysg Weithredol (MBA Bancwr Siartredig, MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Bancio a Thechnoleg), bydd angen i chi greu cyfrif yn ein Porth Ymgeiswyr.
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau. Bydd y system yn anfon e-bost dilysu i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Agorwch yr e-bost dilysu a chliciwch ar y ddolen yn yr e-bost hwnnw.
Nawr gallwch fewngofnodi i'r porth trwy fynd i mewn i'r cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair i fwrw ymlaen â'r cais. Unwaith y bydd cyfrif wedi'i greu, byddwch yn gallu dychwelyd i'ch cais ar unrhyw adeg a gweld statws eich cais unwaith y bydd wedi'i gyflwyno.
Ar ôl creu cyfrif, fe welwch hafan gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth Ychwanegol
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid Rhyngwladol (os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n gwneud cais)
- Dogfennau
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno eich cais. Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol ‘tic’ yn ymddangos wrth ei ymyl yn y tab Dewislen, neu bydd hyn yn cael ei danlinellu mewn gwyrdd.
Rhestrir y Rhaglenni Addysg Weithredol o dan Ddysgu o Bell, rhoddir enwau'r cyrsiau isod:
- Bancwr Siartredig MBA a restrir fel: Bancwr Siartredig MBA (MBA/CBDL N3BN).
- Trosedd a Chydymffurfiaeth Ariannol MBA: Trosedd a Chydymffurfiaeth Ariannol MBA (MBA/FCC N3EA).
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Bancio a Thechnoleg a restrir fel: Rheoli Bancio a Thechnoleg PGCert (CERT/BMT N3DL).
Sylwch, ar ôl dewis eich cwrs, y bydd yn poblogi'r dull dosbarthu yn awtomatig gan mai dim ond ar sail ran-amser y cynigir y cwrs trwy ddysgu o bell. Dewiswch eich dyddiad cychwyn o'r gwymplen ac yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
Dewiswch opsiynau priodol a rhowch fanylion, pan ofynnir amdanynt.
Anabledd/Iechyd: Mae'r adran hon wedi'i chynnwys at ddibenion monitro cyfle cyfartal ac i sicrhau y gall y Brifysgol ddarparu cyfleusterau priodol i ymgeiswyr. Ni fydd yn effeithio ar benderfyniad y Brifysgol i gynnig lle i'r ymgeisydd, a bydd y wybodaeth yn parhau i fod yn gwbl gyfrinachol.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd angen i chi ei nodi hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys. Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster.
Nid oes angen manylion cyflogaeth gan eich bod eisoes wedi paratoi hyn. Sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch ar ‘Nid oes gennyf hanes cyflogaeth’ (gan eich bod eisoes wedi darparu hyn yn eich dogfen Word a'ch CV).
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf ac nad ydych yn defnyddio Saesneg yn eich gweithle neu os nad ydych wedi cwblhau cymhwyster prifysgol trwy gyfrwng y Saesneg, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu cymhwysedd iaith Saesneg. Manylion unrhyw brawf Iaith Saesneg fel IELTS y gallech fod wedi'i gwblhau, a llwytho dogfennau ategol gyda'r dogfennau ‘Hanes Addysg’ yn yr adran olaf.
Dewiswch eich opsiwn.
- Hunan Gyllido
- Noddwyd gan gyflogwr
- Ysgoloriaeth – Os ydych yn gwneud cais am neu wedi sicrhau ysgoloriaeth ar gyfer eich astudiaethau, llenwch y manylion y gofynnwyd amdanynt. Mae rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ar gael yma.
- Benthyciad i Fyfyrwyr - Efallai y bydd ymgeiswyr y DU yn gymwys i gael benthyciad gan y llywodraeth, mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Efallai y bydd yr adran hon yn ymddangos ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig, ac er bod fisa yn amherthnasol i'ch cwrs astudio, rhaid cwblhau'r adran hon. Fel myfyriwr Rhaglen Addysg Weithredol, gallwch wneud cais am fisa ymwelydd myfyriwr i fynychu graddio, ond ni fyddwch yn gymwys i gael Fisa Rhes 4.
Unwaith y bydd yr holl adrannau wedi'u cwblhau, byddwch yn derbyn cadarnhad ar y sgrin. Adolygwch fanylion y cais trwy ddewis Gweld Crynodeb.
- Os byddwch yn sylwi ar unrhyw wallau, yna gallwch newid y manylion trwy ddewis yr adran berthnasol yn y bar uchaf.
- Os yw'r holl fanylion yn gywir, yna cyflwynwch eich cais.
Nodyn: Sicrhewch eich bod yn dewis a chlicio 'cyflwyno eich cais'
Anfonir e-bost cadarnhau am y cais gan gynnwys rhif ID yr Ymgeisydd o fewn 5 munud. Unwaith y bydd eich cymhwysedd wedi'i ystyried, a bydd cynnig yn cael ei wneud trwy'r porth, y gellir ei dderbyn neu ei wrthod.