Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Tra bod Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn un o bynciau mwyaf poblogaidd gwyddorau cymdeithas, mae'r dull cymharol yn ymwneud yn fwy treiddgar â'r pwnc. Mae gan fyfyrwyr y fantais o raglen hyblyg, gan eu galluogi i ddatblygu gwedd ryngwladol ar drosedd a chyfiawnder drwy ddulliau trawswladol ac astudiaethau achos ar gymdeithasau eraill a/neu faterion blaenllaw ym maes troseddeg a chyfraith gyfoes.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd sengl neu gyd-anrhydedd (2.ii da, neu gyfwerth yn achos deiliaid graddau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig) mewn Troseddeg, Cymdeithaseg, Y Gyfraith, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol, Seicoleg neu ddisgyblaeth academaidd gysylltiedig.
Gellir derbyn myfyrwyr sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.