Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un sef ‘Themâu Creadigol’, ‘Technegau Cyfansoddi a ‘Mathau Llenyddol’. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd sef portffolio o waith creadigol hyd at 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Mater i’w drafod rhwng y myfyriwr a’i gyfarwyddwr academaidd fydd union natur y portffolio, ac mae amryw fodelau’n bosib, e.e. nofel fer, casgliad o storïau byrion neu gerddi, cyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ofynion unigol pob myfyriwr wrth bennu union gynnwys y modiwlau, a chynllunnir rhan gyntaf y rhaglen gyda golwg ar y posibiliadau creadigol a all fwydo’r ail ran.
Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôl-radd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill. At hynny, cynhelir seminarau ysgrifennu creadigol rheolaidd a bydd cyfle i glywed awduron gwadd fel Wiliam Owen Roberts, Lloyd Jones, Angharad Tomos ac Ifor ap Glyn yn trafod eu gwaith. Yn ogystal, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o fodiwlau israddedig yr ysgol er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd cyfle iddo/i wneud hynny.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ysgrifennu Creadigol (Cyfrwng Cymraeg).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Croesewir ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob oed. Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol.
Gyrfaoedd
I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, rhaglen deledu fel Hacio, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.