Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gwyddor Biofeddygol sy’n sail i ymchwil wyddonol i iechyd ac afiechyd dynol. Bydd y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth i chi o fioleg afiechyd, gan gynnwys cysyniadau a chymwysiadau modern gwyddor biofeddygol wrth ganfod, trin ac ymchwilio i anhwylderau clinigol. Mae galw cynyddol am raddedigion sydd â phrofiad o'r uwch dechnegau diagnostig a moleciwlaidd sy'n chwyldroi prosesau canfod a thrin afiechydon yn y GIG, y lluoedd arfog, diwydiant, y byd academaidd ac ymchwil.
Cafodd y cwrs hwn ei gynllunio’n benodol mewn cydweithrediad â labordai clinigol lleol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Caiff ei achredu gan Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol. Bydd staff gwyddonol a chlinigol o ysbytai’r gogledd yn ymwneud â phob agwedd ar yr addysgu ac mae nifer o’r staff yn gyn ymarferwyr.
Mae’r Gwyddorau Biofeddygol yn cwmpasu amrywiol bynciau sy’n sail i ymchwil wyddonol i iechyd ac afiechyd dynol. Pwrpas y cwrs yw rhoi dealltwriaeth i chi o fioleg afiechydon, gan gynnwys cysyniadau a chymwysiadau modern y gwyddorau biofeddygol o ran ymchwilio, diagnosis, a thriniaethau ar gyfer anhwylderau clinigol. Cewch eich annog a’ch cefnogi i ddysgu am y gwyddorau biolegol craidd er mwyn datblygu sgiliau mewn disgyblaethau biofeddygol mwy arbenigol, sef biocemeg glinigol, patholeg y gell, haematoleg a microbioleg feddygol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyfleusterau rhagorol, yn cynnwys labordai addysgu blaengar, wedi eu cynllunio'n bwrpasol.
- Mae opsiwn (yn seiliedig ar gyflawniad academaidd) i wneud lleoliad blwyddyn mewn labordy patholeg yn y GIG i gwblhau lleoliad hyfforddi a graddio gyda BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dilyn modiwlau sy’n werth 120 credyd bob blwyddyn a gaiff eu dysgu trwy nifer o ddulliau priodol gan gynnwys darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol mewn labordai. Mae’r modiwlau’n mynd yn fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall. Caiff y cwrs ei asesu trwy gymysgedd o arholiadau, adroddiadau labordy ymarferol, gwaith cwrs a chyflwyniadau, gan gynnwys y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Maemodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd, a gall y myfyrwyr ddewis tiwtor Cymraeg a chyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyflwyniad i agweddau pwysig ar y Gwyddorau Biofeddygol a Meddygol ac mae'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy ymarferol a sesiynau tiwtorial mewn pynciau sylfaen allweddol. Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn rhoi pwyslais ar ddatblygu'r sgiliau ffeithiol ac ymarferol allweddol y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen gyda gweddill eich astudiaethau. Ymhlith y pynciau y byddwch yn eu hastudio mae ffisioleg ddynol, geneteg foleciwlaidd, bioleg y gell, microbioleg, cemeg yn ogystal â sgiliau academaidd sylfaenol. Yn eich sesiynau labordy byddwn yn eich dysgu sut i weithio'n ddiogel mewn labordy yn ogystal â'r fframweithiau rheoleiddio ehangach y mae labordai’n gweithredu ynddynt.
Mae blwyddyn 1 yn gyffredin i'r ddwy radd isod sy'n rhoi cyfle i chi newid a dewis un o'r graddau eraill (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd), a'r hyblygrwydd i chi newid llwybr gradd cyn dechrau blwyddyn dau os bydd eich diddordebau'n newid.
- Gwyddorau Biofeddygol (B102)
- Gwyddorau Meddygol (B100)
Blynyddoedd 2 a 3
Mae eich modiwlau yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn rhoi pwyslais ar ficrobioleg feddygol, biocemeg glinigol, patholeg y celloedd, imiwnoleg, haematoleg a gwyddorau trallwysiad, datblygu cyffuriau ac astudiaethau moleciwlaidd a genetig. Yn ystod y ddwy flynedd byddwch yn treulio amser yn gweithio ar astudiaethau achos pwnc-benodol i hogi'r technegau a'r wybodaeth amrywiol a'u cymhwyso i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Thema gyffredinol fydd datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis dadansoddi beirniadol, dehongli data a'r gallu i gyflwyno gwyddor biofeddygol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Yn y drydedd flwyddyn, bydd hynny’n arwain at ymchwil annibynnol mewn labordy ac ymchwil i lenyddiaeth wyddonol sy’n gysylltiedig â'r maes meddygol y byddwch yn ei gyflwyno yn eich traethawd hir.
Agwedd allweddol arall ar fodiwlau’r ail a’r drydedd flwyddyn yw'r pwyslais ar eneteg a bioleg foleciwlaidd. Mae’n wybodaeth hanfodol ar gyfer gwyddorau bywyd modern ac o’r herwydd rydym yn integreiddio ei dysgu yn yr holl fodiwlau perthnasol yn ogystal â sawl modiwl pwrpasol a fydd yn archwilio popeth gan gynnwys cylch y celloedd ac amodau etifeddol cymhleth. Byddwn yn eich dysgu sut mae defnyddio bioleg foleciwlaidd i wneud diagnosis o gleifion ac i helpu trin afiechydon amrywiol.
Blwyddyn o Brofiad Gwaith mewn Labordy Patholeg yn y GIG
Efallai y bydd cyfle i'r rheini sydd â diddordeb dilyn gyrfaoedd yn labordai Patholeg y GIG wneud cais am brofiad gwaith gwirfoddol yn ystod y cwrs a dilyn rhaglen hyfforddi a gynlluniwyd i ateb y gofynion a gwneud cais am gofrestriad fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Os oes gennych ddiddordeb gwneud hynny mae yna broses ddewis gystadleuol a byddech yn gwneud cais i drosglwyddo i’r Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol ddiwedd Blwyddyn 2 (Lefel 5). Mae mynediad i’r Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol yn seiliedig ar deilyngdod academaidd, cyfweliad gyda phanel cystadleuol a chyflwyno datganiad personol priodol. Yna bydd y myfyrwyr sy'n cwblhau'r lleoliad gwirfoddol blwyddyn hwnnw’n graddio gyda gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol, er cydnabod y sgiliau proffesiynol ychwanegol a enillwyd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Biofeddygol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Meddygol
- Mae gennym gyfres o labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Adeilad Brambell. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith labordy yn digwydd yn labordai A1, B1 a C4, sydd â systemau clyweled o'r radd flaenaf i'ch galluogi i ddilyn yn fanwl yr hyn sy'n cael ei arddangos. Mae gennym hefyd labordy arbenigol Cat 2 a ddefnyddir ar gyfer gwaith gydag asiantau biolegol risg ganolig a pheryglon, ac organebau a addaswyd yn enetig.
- Byddwch yn defnyddio ystod o offer wrth weithio yn y labordai hyn, gan gynnwys: cloriannau, allgyrchyddion, sbectromedrau ac offer arbenigol.
- Efallai y gall myfyrwyr sy’n gwneud prosiect ymchwil eu blwyddyn olaf elwa ar arbenigedd a chyfleusterau eang Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Ar wahân i offer labordy hanfodol (allgyrchyddion, deoryddion, ac ati), mae offer o'r radd flaenaf ar gael yn cynnwys microsgopau cydffocal, cytomedr llif a robot sgrinio trwybwn uchel. Mae’n bosib hefyd defnyddio cyfleusterau sbectrometreg màs a dilyniannu DNA trwybwn uchel ac ati.
- Bydd ein cyfleusterau newydd ar anatomi dynol yn barod erbyn 2022, a byddant yn ymgorffori technoleg flaengar fel bwrdd Anatomage, sef y bwrdd dyrannu rhithiol cyntaf yn y byd. Rhagwelwn y caiff ei ddefnyddio gan israddedigion BMedSci Gwyddorau Meddygol yn ogystal â myfyrwyr ar ein cwrs MA Cynorthwywyr Meddygon a’r rhaglen radd Meddygaeth C21 Gogledd Cymru i raddedigion (a gyflwynir yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Caerdydd).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth., os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC Cenedlaethol Diploma Estynedig: DMM-DDM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM-DDM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Yn cynnwys gradd H5 mewn Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol (Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol)
- Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig (Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth)
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth., os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC Cenedlaethol Diploma Estynedig: DDM - DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Yn cynnwys gradd H5 mewn Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol (Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol)
- Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig (Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth)
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau damcaniaethol, ymarferol a throsglwyddadwy i chi a fydd yn werthfawr i amryw o gyflogwyr. Ymhlith y llwybrau a ddilynodd ein cyn-fyfyrwyr mae: y diwydiant fferyllol, ymchwil meddygol, y gwyddorau bwyd, iechyd y cyhoedd, y lluoedd arfog, y gwyddorau fforensig ac mae'r radd hefyd yn cael ei derbyn gan lawer o brifysgolion ar gyfer cyrsiau ôl-radd mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth a’r Gwyddorau Milfeddygol.
Llwybr gyrfa arall y mae nifer sylweddol o’n cyn-fyfyrwyr yn ei ddilyn yw gweithio yn labordai patholeg y GIG, gan helpu ein gwasanaeth iechyd gyda diagnosis cleifion. Mae ein hachrediad IBMS yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith cyflym a diddorol labordy patholeg modern gyda disgyblaethau'n amrywio o drefnu trallwysiadau gwaed i ganfod heintiau firaol mewn cleifion.*
* Sylwch. mae cwblhau gradd wedi'i hachredu gan IBMS a lleoliad achrededig yn y GIG yn hanfodol ar gyfer cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn aml yn rhagofyniad ar gyfer llawer o rolau o fewn y GIG.
Bydd y graddedigion hefyd mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni rhaglenni MSc a PhD yn nisgyblaethau’r gwyddorau bywyd ac ar gyfer swyddi ymchwil yn y GIG a Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr y GIG.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.