Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Mawrth 2025 (Mynediad 2024/25) ac ym Medi 2025 (Mynediad 2025/26).
Swyddogaeth y fydwraig yn hyrwyddo genedigaeth ffisiolegol normal yw prif ffocws y cwrs hwn a Phrifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd ag achrediad Baby Friendly Initiative (BFI) UNICEF. Byddwch yn archwilio sut mae'r fydwraig yn ymdrechu i sicrhau iechyd a’r profiad geni gorau posibl i'r fam a'r newydd-anedig i bob menyw a'u teuluoedd ac rydym yn cynnig lleoliadau clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnwys lleoliadau cymunedol, unedau mamolaeth ac unedau dan arweiniad bydwragedd.
Mae’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn cynnig rhaglen gradd Baglor Bydwreigiaeth (Anrhydedd) tair blynedd, lawn-amser yn arwain at gofrestru fel bydwraig gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU (NMC). Ar hyn o bryd mae'r rhaglen hon yn dechrau yn flynyddol ym mis Medi ac mae'n llawn amser dros 45 wythnos bob blwyddyn gyda 7 wythnos o wyliau blynyddol penodol.
Ar ôl bloc cychwynnol o theori, bydd profiadau lleoliadau clinigol, sy'n ffurfio tua hanner eich dysgu, yn eich cyflwyno i swyddogaeth y fydwraig, yn y gymuned ac yn yr ysbyty, lle cewch gyfleoedd i fod yn bresennol mewn genedigaethau gartref yn ogystal â genedigaethau mewn unedau ar wahân dan arweiniad bydwragedd ac unedau mamolaeth lleol. Byddwch yn cael profiad o waith tîm amlddisgyblaethol, yn ogystal â staff academaidd yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd lleol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n sicrhau bod eich dysgu o'r ansawdd gorau. Bydd y daearyddiaeth leol yn golygu y gallwch gael profiadau ar leoliad mewn lleoliadau gwledig ac anghysbell. Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol yn eu meysydd proffesiynol ac maent yn arwain ym maes gofal iechyd a rhaglenni ymchwil cysylltiedig â meddygaeth sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Yn ogystal, rydym yn rhagweld y bydd lleoliadau dewisol yn dal i fod ar gael i chi o fewn y rhaglen ddiwygiedig ac yn y gorffennol mae ein myfyrwyr wedi defnyddio'r cyfle hwn i arsylwi darpariaeth gofal ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Bydd elfennau o'r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a chewch gefnogaeth i gael mynediad at gymhellion ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfleoedd hefyd i gael profiad o ymarfer dwyieithog mewn rhannau o'r rhanbarth. I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr Ysgol cliciwch yma.
Mae'r cwrs hwn wedi ei ddilysu ar hyn o bryd yn erbyn Safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Addysg Cyn-gofrestru, 2010. Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu a'i dilysu yn erbyn safonau bydwreigiaeth newydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2019) yn y dyfodol, gan gynnwys Safonau Hyfedredd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Bydwragedd Cofrestredig, ar gyfer ymgeiswyr ym Medi 2022.
Ar hyn o bryd y Rhaglen Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw'r unig un yng Nghymru sydd ag achrediad Baby Friendly Initiative UNICEF (BFI). Bydd achrediad BFI y brifysgol yn sicrhau y byddwch yn cymhwyso gyda sylfaen gadarn o wybodaeth ar sail tystiolaeth mewn perthynas â bwydo ar y fron. Trwy sicrhau bod bydwragedd y dyfodol yn cymhwyso gyda gwybodaeth a sgiliau rhagorol i gefnogi merched i fwydo ar y fron, ynghyd â sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, gall y rhaglen fydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wneud cyfraniad pwysig i wella iechyd cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gan Brifysgol Bangor Gymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth gweithgar (BUSMS) sydd wedi llwyddo i godi arian at achosion lleol ac mae hefyd wedi trefnu, rheoli a chynnal cynhadledd 'Myfyrwyr Bydwreigiaeth Cymru Gyfan'.
Rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno cais yn gynnar i astudio Bydwreigiaeth gan fod yr holl leoedd ar y cwrs yn cael eu llenwi fel rheol ymhell cyn diwedd y cylch derbyniadau ac ni all Bangor warantu ystyried unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl dyddiad cau cychwynnol UCAS ym mis Ionawr bob blwyddyn.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid cynhaliaeth ar sail incwm a benthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen Cyllid y GIG.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
Cynnwys y Cwrs
Bydd gennych astudiaeth ddamcaniaethol a lleoliadau clinigol gorfodol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol yng ngogledd Cymru. Tra byddwch ar leoliad byddwch dan oruchwyliaeth glos a chewch arsylwi staff proffesiynol wrth eu gwaith a chyfrannu at ddarparu gofal nyrsio gan ddechrau yn gynnar yn y cwrs. Bydd cefnogaeth ar gael gan diwtor personol sy'n fydwraig gofrestredig ac yn aelod o’r staff academaidd a hefyd gan Oruchwyliwr Ymarfer ac Aseswr sy'n fydwragedd cymwysedig ym maes lleoliad ymarfer. Caiff gwaith theori ac ymarferol eu hasesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a thrwy bortffolio ymarfer clinigol.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y rhaglen ddiwygiedig yn seiliedig ar y parthau a'r cymwyseddau a amlinellir yn Safonau Hyfedredd Bydwragedd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2019), sy'n sefydlu'r athroniaeth a'r gwerthoedd sy'n sail i'r gofynion ar gyfer mynediad i ran bydwreigiaeth y gofrestr broffesiynol:
- Bod yn fydwraig atebol, annibynnol, broffesiynol
- Gofal bydwreigiaeth diogel ac effeithiol: hyrwyddo a darparu dilyniant gofal
- Gofal cyffredinol i bob merch a babanod newydd-anedig
- Gofal ychwanegol i ferched a babanod newydd-anedig sydd â chymhlethdodau
- Hyrwyddo rhagoriaeth: y fydwraig fel cydweithiwr, ysgolhaig ac arweinydd
- Y fydwraig fel ymarferydd medrus
Mae’n rhaid cwblhau elfennau theori a chlinigol pob modiwl yn llwyddiannus cyn gallu symud ymlaen i flwyddyn nesaf y rhaglen. Rhennir cyfleoedd dysgu yn gyfartal rhwng theori yn y brifysgol, ac ymarfer clinigol. Asesir gwaith damcaniaethol yn bennaf gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys asesiadau ymarferol, gwaith grŵp a chyflwyniadau. Bydd datblygiad sgiliau bydwreigiaeth yn cael ei asesu'n grynodol gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer ym maes ymarfer clinigol. Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar ddatblygiad eich agwedd broffesiynol, eich ymddygiad a'ch cymhwysedd.
Ble byddwch yn astudio?
Bydd rhan theori’r cwrs yn cael ei darparu yn bennaf trwy ddull cyfunol, dysgu o bell gyda rhai sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu darparu yn ein canolfannau astudio ym Mangor ac yn Wrecsam, ac o bosibl mewn mannau eraill ledled gogledd Cymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu rhoi mewn un neu ddau faes o fewn y bwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda'r posibilrwydd y bydd rhai lleoliadau yn cael eu darparu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Disgwylir i ymgeiswyr a ddewisir i gael cyfweliad nodi ym mha ardal yr hoffent wneud eu lleoliad ymarfer. Os cynigir lle i chi ar y rhaglen, byddwn yn ceisio cael lle i chi yn ardal y lleoliad ymarfer a fyddai’n well gennych, ond ni ellir gwarantu hyn. Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai rhai lleoliadau yn ystod y rhaglen fod mewn unrhyw ran o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac felly ledled gogledd Cymru.
Yn ystod lleoliadau ymarfer, byddwch yn dechrau trwy arsylwi bydwragedd a gweithwyr proffesiynol eraill wrth eu gwaith. Er mwyn datblygu eich sgiliau a’ch cymhwysedd bydd disgwyl i chi gymryd rhan, dan oruchwyliaeth mewn darparu gofal bydwreigiaeth yn fuan iawn yn y cwrs. Disgwylir i chi ddilyn rota dyletswydd eich Goruchwyliwr Ymarfer a/neu Aseswr Ymarfer tra ar leoliad ymarfer, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a shifftiau nos gan roi profiad i chi o batrymau gwaith go iawn bydwragedd.
Yn y rhaglen, byddwch yn cymryd rhan mewn dilyn baich achosion bychan o ferched a'u teuluoedd trwy gydol eu profiad o roi genedigaeth. Bydd hyn yn eich cefnogi i gyflawni Parth 2 o safonau hyfedredd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer bydwragedd, gofal bydwreigiaeth diogel ac effeithiol: hyrwyddo a darparu dilyniant gofal (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, 2019). Ar ddiwedd y cwrs bydd myfyrwyr llwyddiannus wedi casglu ynghyd bortffolio i ddangos eu bod wedi cyflawni safonau medrusrwydd y NMC a'u galluogi i gofrestru fel bydwragedd ar Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bydwreigiaeth BM (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae labordai efelychu sgiliau ar gael ar gyfer meithrin ac ymarfer sgiliau clinigol, gan ymgorffori'r defnydd o fodelau PROMPT efelychyddion cywair-bur (high fidelity) (Hyfforddiant Amlddisgyblaethol Obstetrig Ymarferol) a ddefnyddir hefyd mewn hyfforddiant sgiliau brys wrth ymarfer.
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Costau'r Cwrs
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ydych yn gymwys ar gyfer ffioedd dysgu Cartref (DU) ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwy Wasanaethau Addysgol Barclays. Mae manylion llawn ar gael ar dudalen Gyllid y GIG.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
5 TGAU ar radd C/4 neu uwch ac mae’n rhaid eu bod yn cynnwys Saesneg a Mathemateg, mae pynciau gwyddoniaeth yn ddymunol. Gall rhai ymgeiswyr Diploma Mynediad AU gael eu heithrio rhag cyflawni’r gofynion TGAU yn llawn.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad – darllenwch Safonau Rhaglenni Bydwreigiaeth Cyn-gofrestru y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu e-bostiwch â admissionshealth@bangor.ac.uk; i gael rhagor o gyngor neu wybodaeth. Mae gofynion mynediad yr NMC yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da.
Mae’r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da;bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofynion am iechyd da.
Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hŷn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar a aseswyd ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- City & Guilds: cysylltwch â ni
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Mynediad: 30 Rhagoriaeth, 15 gradd Teilyngdod
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: Gradd B
- Bagloriaeth Cymru
- Irish Leaving Certificate: 112-120 pwynt o fan leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
- Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu’n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad; sylwch nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel ffordd o fodloni ein cymwysterau mynediad.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer Bydwreigiaeth
Rhaid i bob cais ar gyfer y rhaglen Bydwreigiaeth gael ei wneud trwy UCAS. Cod y cwrs y B720. Gweler yr wybodaeth isod am sut I wneud cais trwy UCAS. Mae llawer o wybodaeth ar wefan UCAS sy’n cynnwys Gwybodaeth am y gofynion academaidd os and ydych yn siwr os ydych yn cyflawni ein gofynion. Cewch wybod gan UCAS os ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyflweliad. Bydd y dyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad yn cael ei anfon atoch yr un pryd. Gweler y dudalen yma am fwy o wybodaeth.
Os ydych wedi cael eich derbyn yn dilyn cyfweliad, mae mwy o wybodaeth yma.
Os cawsoch eich gwrthod yn dilyn cyfweliad neu os na chawsoch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, yna cliciwch yma am gyflwyniad yn amlinellu'r rhesymau cyffredin dros geisiadau aflwyddiannus.
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
5 TGAU ar radd C/4 neu uwch ac mae’n rhaid eu bod yn cynnwys Saesneg a Mathemateg, mae pynciau gwyddoniaeth yn ddymunol. Gall rhai ymgeiswyr Diploma Mynediad AU gael eu heithrio rhag cyflawni’r gofynion TGAU yn llawn.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad – darllenwch Safonau Rhaglenni Bydwreigiaeth Cyn-gofrestru y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu e-bostiwch â admissionshealth@bangor.ac.uk; i gael rhagor o gyngor neu wybodaeth. Mae gofynion mynediad yr NMC yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da.
Mae’r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da;bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofynion am iechyd da.
Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hŷn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar a aseswyd ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM
- City & Guilds: cysylltwch â ni
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Mynediad: 30 Rhagoriaeth, 15 gradd Teilyngdod
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: Gradd B
- Bagloriaeth Cymru
- Irish Leaving Certificate: 120 - 128 pwynt o fan leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
- Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu’n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad; sylwch nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel ffordd o fodloni ein cymwysterau mynediad.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer Bydwreigiaeth
Rhaid i bob cais ar gyfer y rhaglen Bydwreigiaeth gael ei wneud trwy UCAS. Cod y cwrs y B720. Gweler yr wybodaeth isod am sut I wneud cais trwy UCAS. Mae llawer o wybodaeth ar wefan UCAS sy’n cynnwys Gwybodaeth am y gofynion academaidd os and ydych yn siwr os ydych yn cyflawni ein gofynion. Cewch wybod gan UCAS os ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyflweliad. Bydd y dyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad yn cael ei anfon atoch yr un pryd.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion bydwreigiaeth yn ennill cymhwyster academaidd yn ogystal â chymhwyster proffesiynol y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Ysbyty Countess of Chester a darparwyr lleoliadau addysgol eraill sy'n bartneriaid yng Nghymru a Lloegr yn eu parchu.
Mae ein record cyflogadwyedd yn rhagorol gyda'n graddedigion yn llwyddo i gael swyddi ledled Cymru, y DU a thu hwnt.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.